Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

TAW – gwybodaeth sylfaenol

Treth yw TAW (Treth ar Werth) rydych yn ei thalu pan fyddwch yn prynu nwyddau a gwasanaethau yn yr UE (Undeb Ewropeaidd), gan gynnwys yn y DU. Os oes rhaid i chi dalu TAW ar rywbeth, bydd fel arfer wedi’i chynnwys yn y pris a fydd i’w weld.

Pryd y byddwch yn talu TAW a faint fyddwch yn ei dalu?

Treth yw TAW rydych yn ei thalu pan fyddwch yn prynu nwyddau neu wasanaethau gan fusnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW yn yr UE, gan gynnwys yn y DU.

Ni fydd rhaid i chi dalu TAW o gwbl ar rai nwyddau a gwasanaethau, ac weithiau dim ond cyfradd ostyngol fydd rhaid i chi ei thalu.

Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosib y gall TAW rydych wedi'i thalu gael ei had-dalu i chi, er enghraifft os ydych chi'n byw y tu allan i'r UE ac yn ymweld â'r DU.

Mae gan holl wledydd yr UE eu cyfraddau TAW eu hunain. Mae tair cyfradd yn y DU.

Cyfradd safonol

Byddwch yn talu TAW ar y gyfradd safonol ar y rhan fwyaf o nwyddau a gwasanaethau yn y DU.

Cynyddwyd cyfradd safonol TAW i 20 y cant ar 4 Ionawr 2011, ond 17.5 y cant ydoedd am y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2010 a 3 Ionawr 2011.

Cyfradd ostyngol

Mewn rhai achosion, er enghraifft seddi car plant a nwy a thrydan i’ch cartref, byddwch yn talu cyfradd ostyngol o 5 y cant.

Cyfradd sero

Does dim rhaid i chi dalu TAW o gwbl ar rai nwyddau, megis:

• eitemau bwyd sylfaenol
• llyfrau, papurau newydd a chylchgronau
• dillad plant
• rhai nwyddau a gaiff eu darparu mewn amgylchiadau arbennig – er enghraifft, offer i bobl anabl

Sut y cyfrifir TAW?

Pan fydd rhywun yn codi TAW arnoch chi, bydd yn lluosi ei bris gwerthu gyda'r gyfradd TAW er mwyn cyfrifo faint o TAW i'w chodi. Yna, bydd yn ychwanegu swm y TAW at y pris net i roi'r pris 'gros' – y pris y byddwch chi'n ei dalu. Y pris gros yw’r pris y byddwch chi, fel cwsmer, fel arfer yn ei weld wedi’i nodi neu’i hysbysebu. Er enghraifft:

Pris gwerthu = £100
TAW ar y gyfradd 20 y cant (100 x 20 rhannu â 100) = £20
Pris gros = £120

Prisiau mewn siopau adwerthu

Mae’r prisiau a welwch wedi’u hysbysebu mewn siopau yn cynnwys TAW. Ni fydd dim treth yn cael ei hychwanegu at y pris pan fyddwch yn talu. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol.

Prisiau mewn hysbysebion, catalogau a rhestri prisiau

Mae’n bosib y bydd nwyddau wedi’u hysbysebu mewn siopau, cylchgronau, ar y rhyngrwyd, neu sy’n cael eu dangos mewn catalogau, rhestri prisiau a llenyddiaeth arall wedi’u hanelu at y cwsmer, busnesau neu’r ddau. Os mai dim ond ar gyfer y cyhoedd y maent wedi’u bwriadu, byddant yn dangos pris sy'n cynnwys TAW. Mae hyn yn ofyniad cyfreithiol.

Os byddant wedi’u hanelu at gwsmeriaid a busnesau, byddant fel arfer yn dangos pris sy’n cynnwys TAW, ond weithiau efallai byddant yn dangos pris heb TAW hefyd. Rhaid rhoi pwys cyfartal ar y pris sy’n cynnwys TAW, ond darllenwch yn ofalus er mwyn bod yn gwbl sicr eich bod yn deall pa bris y byddwch yn ei dalu.

Fel arfer, bydd prisiau sydd wedi’u hanelu at fusnesau yn unig yn cael eu dangos heb TAW. Bydd TAW yn cael ei godi ar ben y pris a gaiff ei ddangos.

TAW ar filiau a derbynebau

Mae'r rhan fwyaf o brisiau adwerthol ar filiau a derbynebau'n cynnwys TAW – ni chaiff ei dangos ar wahân. Fodd bynnag, bydd rhai hefyd yn dangos yr elfen TAW ar linell wahanol. Nid yw hyn yn golygu eich bod yn talu mwy – mae’n dangos faint o dreth sydd wedi’i chynnwys yn y pris.

Rhaid i anfonebau gan gyflenwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW (fel y rhan fwyaf o adeiladwyr, neu beintwyr ac addurnwyr) ddangos swm ar wahân ar gyfer TAW. Rhaid iddynt hefyd ddangos Rhif Cofrestru TAW naw digid y busnes.

Sut i ganfod a yw rhif TAW yn ddilys

Gallwch wneud yn siŵr bod rhif TAW y DU yn ddilys drwy gysylltu â Chyllid a Thollau EM. Gallwch chi hefyd edrych ar rifau TAW yr Undeb Ewropeaidd ar-lein.

Busnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW

Os oes gennych fusnes sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW, gallwch ddod o hyd i lawer o ganllawiau ar wefan Cyllid a Thollau EM i’ch helpu i gael eich TAW yn gywir.

Os ydych chi'n amau twyll yn gysylltiedig â TAW

Os ydych chi'n amau bod cwmni yn osgoi talu TAW, neu'n codi TAW a hwythau heb gofrestru ar gyfer TAW, gallwch ei riportio i Linell Gymorth yr Adran Dollau drwy ffonio 0800 595 000. Mae’r llinell ar agor 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, ac ni fydd rhaid i chi roi eich enw nac unrhyw fanylion personol.

Busnesau nad ydynt yn codi TAW

Nid oes rhaid i bob busnes gofrestru ar gyfer TAW, felly nid oes rhaid i rai godi unrhyw TAW arnoch ar eu prisiau. Mae’n bosib y bydd y pris y byddwch yn ei dalu yn rhatach na phetaech yn prynu’r un nwyddau neu wasanaethau gan gyflenwr sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW.

Cael rhagor o help a chyngor

Gallwch weld sawl math o arweiniad cyffredinol ynghylch TAW yn yr adran hon o’r wefan a cheir rhagor o ganllawiau i helpu busnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW ar wefan Cyllid a Thollau EM. Os na allwch chi ddod o hyd i’r hyn sydd arnoch ei angen ar-lein, cysylltwch â’r Llinell Gymorth TAW drwy ffonio 0845 010 9000. Mae’r llinellau ar agor rhwng 8.00am ac 8.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener ac eithrio gwyliau banc.

Os bydd eich cwestiwn yn fwy cymhleth, gallwch anfon eich ymholiad i Gyllid a Thollau EM gan ddefnyddio ffurflen ar-lein.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU