Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch chi’n gosod offer a deunyddiau arbed ynni penodol yn eich cartref, efallai fe godir llai o TAW nag arfer arnoch chi. Mae’r erthygl hon yn rhoi syniad i chi o’r math o waith lle codir TAW ar gyfradd is.
Bydd eich contractwr adeiladu yn gwybod ar gyfer pa fath o waith y gallwch chi gael y gyfradd ostyngol, a bydd yn codi'r gyfradd briodol arnoch – 5 y cant ar hyn o bryd. Os byddwch yn gwneud y gwaith eich hun, ni fyddwch yn cael y gyfradd is. Os byddwch chi’n defnyddio’r deunyddiau a'r offer ar gyfer tŷ newydd ar adeg yr adeiladu, ni fyddwch yn talu TAW o gwbl.
Os byddwch yn gosod unrhyw un o’r canlynol, maent yn gymwys ar gyfer y gyfradd is TAW:
Er mwyn cael y cyfraddau is hyn, mae’n rhaid i chi osod y deunyddiau arbed ynni hyn a bod y gwaith yn cael ei wneud yn eich cartref.
Cewch y gyfradd is ar gyfer y gwaith gosod yn ogystal â’r deunyddiau eu hunain.
Cewch hefyd y gyfradd is ar gyfer unrhyw waith ychwanegol y mae angen ei wneud fel rhan o'r gwaith gosod – nid yw hyn yn berthnasol os ydych yn eu gosod fel rhan o brosiect mwy, megis adeiladu to newydd neu estyniad – neu osod system wresogi ganolog.
Gallwch hefyd gael cyfradd ostyngol TAW ar gyfer gwaith atgyweirio a ariennir gan grantiau a phrynu offer newydd, hyd yn oed os nad oedd y system wreiddiol wedi'i hariannu gan grant.
Ni allwch gael cyfradd ostyngol TAW ar y canlynol:
Fodd bynnag, os cewch chi grant tuag at gost gosod unrhyw un o’r eitemau hyn, efallai y cewch chi gyfradd ostyngol TAW ar gyfer y gwaith gosod.
Os byddwch chi’n cael grant tuag at y gwaith o osod offer arbed ynni cymwys, a bod yr offer yn cael eu gosod yn eich prif gartref neu'ch unig gartref, byddwch yn talu TAW ar gyfradd is. Mae’r gyfradd is yn berthnasol pan mai amcan y cynllun grant yw ariannu’r gwaith o osod mesurau ynni effeithlon yng nghartrefi'r rheini sydd ag incwm isel. Efallai y bydd gwybodaeth am y cynllun yn egluro hyn.
Os ydych chi’n 60 neu’n hŷn, fe gewch chi’r gyfradd is ar gyfer gwaith gosod, cynnal a chadw neu atgyweirio'r system wresogi ganolog, a system wresogi ffynhonnell adnewyddadwy.
Os ydych chi'n cael un o’r budd-daliadau canlynol, fe gewch chi’r gyfradd ostyngol ar gyfer y gwaith o osod offer gwresogi, megis mathau penodol o wresogyddion troch (immersion heater), boeleri, gwresogyddion storio, gwresogyddion nwy a rheiddiaduron (radiators):
Darparwyd gan HM Revenue and Customs