Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os byddwch chi’n ymweld â’r DU, byddwch chi weithiau’n cael ad-daliad TAW ar yr hyn y byddwch yn ei brynu gan ddefnyddio’r Cynllun TAW ar gyfer Allforio Nwyddau (a elwir hefyd yn ‘Siopa Di-dreth’ (‘Tax Free Shopping’)). Ni fydd pob siop yn cynnig y gwasanaeth hwn - byddwch yn gwneud cais i ddefnyddio’r cynllun pan fyddwch yn prynu’r nwyddau ac yn hawlio’ch ad-daliad pan fyddwch yn gadael y DU. Yma, cewch wybod pryd a sut mae gwneud cais am ad-daliad TAW.
Yn y Deyrnas Unedig, codir Treth Ar Werth (TAW) ar nifer o nwyddau a gwasanaethau. Mae Siopa Di-dreth yn caniatáu i deithwyr sy’n gadael yr Undeb Ewropeaidd gael ad-daliad TAW ar nwyddau y byddant yn eu prynu yma pan fyddant yn mynd â nhw adref. Ni ellir ei ddefnyddio am wasanaethau.
Os ydych chi’n ymwelydd o dramor, rhaid i chi fodloni’r amodau canlynol i fod yn gymwys i gael ad-daliad TAW:
Os ydych chi’n byw yn yr UE, mae’n bosib y cewch ad-daliad TAW os ydych chi’n bwriadu gadael yr UE am o leiaf 12 mis.
Rhaid i chi wneud y canlynol:
• gadael y DU i fynd i rywle y tu allan i'r UE – gyda'r nwyddau rydych chi wedi'u prynu – erbyn diwedd y trydydd mis ar ôl y mis y gwnaethoch eu prynu
• aros y tu allan i’r UE am o leiaf 12 mis
• dangos y nwyddau i swyddogion yr adran dollau, yn ogystal â’ch derbynebau ar eu cyfer a dogfen ad-daliad TAW wedi’i llenwi pan fyddwch yn gadael yr UE
Os ydych yn byw y tu allan i’r UE ac yn astudio neu’n gweithio yn y DU
Os ydych chi'n astudio neu’n gweithio yn y DU, mae’n bosib y cewch ad-daliad TAW os ydych chi’n bwriadu gadael yr UE am o leiaf 12 mis.
Rhaid i chi wneud y canlynol:
• gadael y DU i fynd i rywle y tu allan i'r UE – gyda'r nwyddau rydych chi wedi'u prynu – erbyn diwedd y trydydd mis ar ôl y mis y gwnaethoch eu prynu
• aros y tu allan i’r UE am o leiaf 12 mis
• dangos y nwyddau i swyddogion yr adran dollau, yn ogystal â’ch derbynebau ar eu cyfer a dogfen ad-daliad TAW wedi’i llenwi pan fyddwch yn gadael yr UE
Ym mhob achos, bydd yn rhaid i chi brofi eich bod chi’n perthyn i un o’r categorïau uchod drwy ddangos eich pasbort, fisa neu ddogfennau eraill i’r swyddog tollau.
Nwyddau y gallwch hawlio ad-daliad arnynt
Gallwch gael ad-daliad TAW ar unrhyw beth rydych yn talu TAW arno yn y DU ar wahân i'r canlynol:
• ceir newydd neu ail-law
• cwch rydych yn bwriadu ei hwylio y tu allan i’r UE
• nwyddau sydd werth mwy na £600 sy’n cael eu hallforio at ddibenion busnes
• nwyddau sydd i’w hallforio fel llwyth
• nwyddau y mae angen trwydded allforio ar eu cyfer – ar wahân i hen bethau
• gemau heb eu mowntio
• bwliwn dros 125g, 2.75 owns aur (troy ounces) neu ddeg Tola – er enghraifft, metel gwerthfawr fel aur
• archebion drwy’r post, gan gynnwys nwyddau sy’n cael eu gwerthu dros y rhyngrwyd
• nwyddau sy’n cael eu defnyddio, neu eu defnyddio’n rhannol yn yr UE – er enghraifft, persawr
• taliadau gwasanaeth, megis costau gwesty
Cerbydau modur
Ceir rheolau TAW arbennig ar gyfer mewnforio neu allforio car at ddefnydd personol.
Yn gyntaf, bydd angen i chi ddewis siop sy’n gweithredu’r Cynllun TAW ar gyfer Allforio Nwyddau. Chwiliwch am arwydd ‘Tax Free Shopping’. Mae’n gynllun gwirfoddol, ac nid yw pob siop yn ei weithredu, felly bydd angen i chi holi cyn i chi brynu dim.
I gael eich ad-daliad TAW, bydd arnoch angen un o’r dogfennau canlynol hyn gan y siop:
• ffurflen VAT 407
• fersiwn siop neu gwmni ad-dalu o ffurflen VAT 407
• anfoneb gwerthiant Cynllun TAW ar gyfer Allforio Nwyddau
Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen pan fyddwch yn prynu’r nwyddau, o flaen yr adwerthwr. Bydd yr adwerthwr yn gofyn am gael gweld tystiolaeth eich bod yn gymwys i ddefnyddio’r cynllun, megis eich pasbort.
Bydd hefyd angen i chi gytuno gyda’r adwerthwr ynghylch sut bydd eich ad-daliad yn cael ei dalu. Bydd rhai adwerthwyr yn eich ad-dalu’n uniongyrchol, bydd eraill yn gweithredu drwy gwmni ad-dalu, a bydd gan rai drefniant gyda bwth ad-dalu yn y man lle byddwch yn gadael y DU.
Mae’n bosib na chewch y TAW i gyd yn ôl oherwydd gallai’r adwerthwr a/neu’r cwmni ad-dalu godi ffi arnoch am ddelio â’ch ffurflen. Os byddant yn codi ffi, bydd yn cael ei didynnu o'ch ad-daliad cyn i chi ei gael.
Os ydych chi’n teithio y tu allan i’r UE – rhaid i chi ddangos eich nwyddau a’ch ffurflen ad-dalu i staff adran dollau’r DU yn y porthladd neu’r maes awyr lle rydych chi’n gadael y wlad. Sicrhewch eich bod yn cyrraedd y maes awyr yn gynnar fel y bydd gennych chi ddigon o amser i ddelio â staff yr adran dollau cyn i chi adael.
Os ydych chi’n teithio i wlad arall o fewn yr UE cyn i chi adael yr UE – rhaid i chi ddangos eich nwyddau a’ch ffurflen ad-dalu i swyddogion adran dollau'r wlad honno pan fyddwch yn ei gadael.
Os ydych chi’n gadael yr UE ar awyren ac yn newid awyren mewn gwlad arall yn yr UE cyn gadael yr UE – mae gennych chi ddau opsiwn:
• os ydych chi’n mynd â’ch nwyddau yn eich bag llaw, rhaid i chi eu dangos i swyddogion yr adran dollau, ynghyd â'ch ffurflen ad-dalu, yn y wlad olaf yn yr UE y byddwch yn ymweld â hi cyn gadael yr UE
• os ydych chi’n rhoi eich nwyddau yn y bag rydych am ei gofrestru (hold baggage), rhaid i chi ddangos eich nwyddau a'ch ffurflen ad-dalu i swyddogion adran dollau'r DU cyn i chi gofrestru’r bag
Os nad oes swyddogion o’r adran dollau yn y porthladd neu’r maes awyr, efallai y bydd ffôn yno y gallwch ei ddefnyddio i ffonio swyddog. Os na fydd ffôn yno, bydd blwch post gan yr adran dollau wedi’i farcio’n glir yno, a gallwch adael eich ffurflen ad-dalu yno. Bydd swyddogion yr adran dollau yn ei chasglu o’r blwch post, ac os byddant yn fodlon bod yr holl ofynion wedi’u bodloni, byddant yn cysylltu â’r adwerthwr i drefnu eich ad-daliad TAW.
Ar ôl i’ch ffurflen gael ei chymeradwyo gan swyddogion yr adran dollau, gallwch gael eich ad-daliad yn y ffordd y gwnaethoch gytuno arni gyda’r adwerthwr pan wnaethoch brynu'r nwyddau. Byddwch yn defnyddio un o'r ffyrdd canlynol:
• postio’r ffurflen yn ôl at yr adwerthwr i drefnu iddo eich ad-dalu
• postio’r ffurflen yn ôl i gwmni ad-dalu masnachol i drefnu i’r cwmni eich ad-dalu
• rhoi eich ffurflen i fwth ad-dalu fel y cewch eich talu’n syth
Mae’n bosib y bydd ffi i dalu cost delio â’ch ad-daliad. Bydd y ffi hon i’w gweld ar eich ffurflen ad-dalu.
Bydd yn rhaid i chi gael swyddog tollau yn y DU i wirio a stampio eich ffurflen; ni ellir gwneud hyn pan fyddwch yn cyrraedd yn ôl adref.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs