Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os bydd masnachwr sy’n gwneud gwaith i chi yn cynnig derbyn arian parod fel na fydd rhaid i chi dalu TAW ar y gwaith, mae’n debygol ei fod yn gweithredu’n anghyfreithlon. Yn fwy na hynny, efallai na chewch chi dderbynneb nac unrhyw waith papur arall ganddo. Gallai hyn achosi problemau i chi os bydd rhywbeth yn mynd o’i le gyda’r gwaith yn y dyfodol.
Os yw busnes yn cyflenwi gwerth dros £77,000 o nwyddau neu wasanaethau mewn blwyddyn, ac y dylid codi TAW ar y nwyddau a'r gwasanaethau hynny, mae'n rhaid cofrestru’r busnes ar gyfer TAW.
Ar ôl cofrestru ar gyfer TAW, bydd rhaid i’r busnes godi TAW pan fo'n ddyledus. Mae’n rhaid talu TAW ar bron bob math o nwyddau a gwasanaethau, ond mewn nifer fach o achosion mae’r gyfradd yn is, neu hyn yn oed yn sero – ac weithiau gallwch ei hawlio'n ôl – megis os ydych yn adeiladu eich cartref eich hun.
Ar ôl codi TAW arnoch, bydd rhaid i’r busnes dalu’r arian TAW i Gyllid a Thollau EM.
Mae rhai pobl yn osgoi cofrestru ar gyfer TAW yn fwriadol, ac felly’n cael mantais annheg dros eu cystadleuwyr. Ni fydd eraill yn talu’r arian TAW i Gyllid a Thollau EM ar ôl ei gael gennych chi.
Efallai eich bod yn gwybod nad yw busnes yn datgan yr holl TAW a gaiff. Neu efallai y byddwch yn amheus os bydd yn gwneud un neu ragor o'r pethau hyn:
Os ydych chi'n amau bod busnes yn osgoi codi TAW neu dalu TAW gallwch roi gwybod am hyn ar-lein drwy ddefnyddio’r ddolen isod, neu drwy ffonio Llinell Gymorth yr Adran Dollau am ddim. Ni fydd rhaid i chi roi eich enw.
Mae manylion cyswllt Llinell Gymorth yr Adran Dollau isod hefyd yn esbonio sut y gallwch roi gwybod am rywun rydych yn ei amau o osgoi talu trethu dros e-bost, drwy’r post neu dros ffacs.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs