Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych dros 60 oed, yna efallai na fydd yn rhaid i chi dalu'r gyfradd TAW safonol os gosodir cymhorthion symudedd penodol yn eich cartref. Yn hytrach, byddwch yn talu cyfradd lai o lawer, sef 5 y cant ar hyn o bryd.
Mae'r gyfradd TAW ostyngol yn gymwys i chi os ydych dros 60 oed a chaiff cymorth symudedd cymhwysol ei gyflenwi a'i osod yn eich cartref chi, neu gartref a rennir gyda ffrindiau a pherthnasau.
Nid oes rhaid i chi archebu na thalu am gyflenwi a gosod y cymorth eich hun. Gall rhywun arall wneud hyn, neu elusen, awdurdod lleol, cymdeithas dai neu unrhyw sefydliad arall. Fodd bynnag, ni allwch elwa ar y gyfradd ostyngol os yw'r gwaith yn cael ei wneud mewn cartref gofal preswyl neu sefydliad tebyg - rhaid i'r gwaith gael ei wneud mewn cartref preifat.
Rhaid i chi fod dros 60 oed ar yr adeg y caiff y gwaith cyflenwi a gosod ei wneud.
Ni fyddwch yn elwa ar y gyfradd ostyngol os byddwch ond yn prynu eitem cymwys - er mwyn cael gostyngiad rhaid i chi drefnu i'r eitem gael ei chyflenwi a'i gosod.
Byddwch yn talu cyfradd TAW ostyngol ar gyflenwi a gosod yr eitemau hyn:
Ni chewch y gyfradd ostyngol os byddwch yn gorfod talu am unrhyw waith atgyweirio neu gael nwyddau newydd ar ôl iddynt gael eu gosod.
Ni chewch ychwaith y gyfradd ostyngol ar addasiadau cyffredinol a wneir yn eich cartref, fel lledu cyntedd neu adeiladu estyniad.
Fodd bynnag, os oes gennych salwch hirdymor neu os ydych yn anabl, ni fydd yn rhaid i chi dalu TAW ar nwyddau a gwasanaethau penodol rydych yn eu prynu neu'n dod â hwy i mewn i'r DU a hefyd efallai na chodir TAW ar waith adeiladu penodol a wneir gennych.
Dylai eich cyflenwr wybod am y gyfradd ostyngol a'i chymhwyso'n awtomatig, ond bydd angen i chi ddangos eich bod yn gymwys.
Dylech roi datganiad ysgrifenedig iddo fel yr un isod. Efallai y bydd gan eich cyflenwr ffurflen i chi ei chwblhau.
Rhaid i'r datganiad hwn fod ar wahân i unrhyw anfoneb, archeb neu waith papur arall.
Datganiad: Cymhorthion symudedd i bobl hŷn
Rwyf i ...........................................................................
(enw llawn)
o .........................................................................
(y cyfeiriad lle y gwneir y gwaith gosod)
yn datgan fy mod yn 60 oed neu'n hŷn a bod y gwaith cyflenwi a gosod hwn yn gymwys ar gyfer y gyfradd TAW ostyngol yn unol â Gorchymyn Treth Ar Werth (Cyfradd Ostyngol) 2007.
Llofnod.............................................. Dyddiad.......................................
Os na allwch gwblhau a llofnodi hwn eich hun, yna bydd datganiad gan berthynas, partner neu berson cyfrifol arall yn dderbyniol.
I gael mwy o help ynghylch TAW cyfradd ostyngol ar gymhorthion symudedd i bobl hŷn gallwch gysylltu â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy'r post.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs