Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Talu TAW a thollau os byddwch yn mewnforio cerbyd personol

Fel arfer, byddwch yn talu TAW wrth fewnforio cerbyd modur i’r DU. Ni fydd rhaid i chi dalu os ydych chi’n symud yn barhaol i’r DU o wlad arall, neu os nad yw’r cerbyd yn newydd a bod TAW eisoes wedi'i thalu arno.

Mewnforio eich cerbyd i’r DU o’r tu allan i’r UE

Os ydych chi’n mewnforio cerbyd modur i’r DU o’r tu allan i’r UE, rhaid i chi ddatgan y cerbyd i’r adran dollau.

Mae gostyngiadau ar gael yn amodol ar fodloni gofynion.

Newid eich Man Preswyl

Rhaid i chi lenwi a llofnodi ffurflen C104A i gael Gostyngiad Newid eich Man Preswyl, a rhaid iddi gael ei chyflwyno pan fydd y cerbyd yn dod i mewn i’r wlad.

Does dim rhaid i chi dalu TAW na thollau ar y cerbyd os byddwch yn bodloni’r amodau canlynol i gyd:

  • rydych chi’n symud eich cartref arferol i’r DU
  • mae eich cartref arferol wedi bod y tu allan i’r UE am gyfnod di-dor o 12 mis o leiaf
  • rydych chi wedi bod yn berchen ar y cerbyd ac wedi'i ddefnyddio am o leiaf chwe mis y tu allan i'r UE
  • ni chawsoch y cerbyd dan gynllun di-dreth/di-doll
  • rydych chi’n mynd i gadw’r cerbyd at eich defnydd personol eich hun am o leiaf 12 mis ar ôl iddo gael ei fewnforio

Gostyngiad Nwyddau a Ddychwelir (ail-fewnforio cerbyd sydd wedi cael ei allforio o’r blaen)

Gallwch gael Gostyngiad Nwyddau a Ddychwelir i gael gostyngiad TAW neu dollau os ydych chi’n ail-fewnforio cerbyd a gafodd ei allforio o’r UE o’r blaen cyn belled â'ch bod yn bodloni’r amodau canlynol i gyd:

  • aethoch â’r cerbyd i rywle y tu allan i’r UE rhywbryd yn ystod y tair blynedd diwethaf
  • talwyd unrhyw TAW, tollau neu dreth gyfatebol ar y cerbyd yn yr UE, ac ni ad-dalwyd y dreth pan aed â'r cerbyd y tu allan i'r UE
  • nid yw’r cerbyd wedi cael ei addasu y tu allan i'r UE ar wahân i atgyweiriadau angenrheidiol

Bydd angen tystiolaeth i ddangos bod y cerbyd wedi cael ei allforio o'r UE ac – i hawlio gostyngiad TAW drwy'r Gostyngiad Nwyddau a Ddychwelir – tystiolaeth mai chi wnaeth ei allforio. Bydd yn rhaid i chi ddarparu’r dystiolaeth hon pan fyddwch yn ail-fewnforio eich cerbyd i’r DU.

Os byddwch yn cyrraedd gyda’ch cerbyd, byddwch yn gallu hawlio Gostyngiad Nwyddau a Ddychwelir drwy ei yrru drwy’r ‘sianel werdd’. Bydd rhaid i chi fod wedi cadw tystiolaeth o’r tro cyntaf i’r cerbyd gael ei allforio, a thystiolaeth yn dangos mai chi wnaeth ei allforio’r adeg honno, a chyflwyno’r dystiolaeth i Swyddog Tollau ar gais yn y porthladd neu'r maes awyr.

Os na fyddwch yn gallu darparu tystiolaeth wrth fewnforio, bydd angen i chi dalu cyfanswm y TAW a'r tollau sy'n ddyledus fel gwarant.

Ceir rhagor o wybodaeth yn Hysbysiad 3 a Hysbysiad 236, sydd ar gael ar wefan Cyllid a Thollau EM.

Mewnforio dros dro

Os yw’r cerbyd wedi’i gofrestru y tu allan i’r UE yn enw unigolyn nad yw'n preswylio yn yr UE –neu os nad yw'r cerbyd wedi ei gofrestru y tu allan i'r UE, lle mae'n eiddo i unigolyn nad yw'n preswylio yn yr UE – a’ch bod yn dod â’r cerbyd i’r DU dros dro at eich defnydd preifat eich hun, gallwch hawlio gostyngiad TAW a thollau – ar yr amod:

  • eich bod yn unigolyn sydd ddim yn preswylio yn yr UE
  • nad ydych yn gwerthu, benthyg na llogi’r cerbyd yn unman yn yr UE
  • eich bod yn ail-allforio'r cerbyd o’r UE o fewn chwe mis – gellir ymestyn y terfyn amser hwn os ydych chi’n fyfyriwr neu’n rhywun sy’n ymgymryd ag aseiniad am gyfnod penodol o amser

Er nad oes rhaid i chi wneud unrhyw ddatganiad ffurfiol i’r adran dollau er mwyn hawlio gostyngiad ar gyfer mewnforio cerbyd dros dro, gallwch lenwi ffurflen hysbysiad C110 a fydd yn eich helpu i nodi, at ddibenion yr adran dollau, eich bod yn hawlio gostyngiad pe bai'r cerbyd yn cael ei stopio er mwyn ei archwilio.

Os gwneir archwiliadau ar gerbydau gan yr heddlu wedi hyn, gallai defnyddio C110 helpu i atal y car rhag cael ei gadw’n ddiangen gan yr heddlu.

Dylech lenwi dau gopi o’r ffurflen C110, anfon un copi i’r cyfeiriad ar y ffurflen a chadw’r copi arall gyda’r cerbyd wrth iddo gael ei ddefnyddio yn y DU. Pan fyddwch yn mynd â’r cerbyd yn ôl allan o’r DU, rhowch y dyddiad ail-allforio ar yr ail gopi a’i anfon i’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Dod â’ch cerbyd i’r DU o wlad arall yn yr UE

Rhaid i chi dalu TAW pan fyddwch yn dod â cherbyd modur newydd i’r DU o wlad arall yn yr UE.

Caiff cerbyd modur ei ystyried yn newydd os cafodd ei ddefnyddio am y tro cyntaf yn y chwe mis diwethaf ac os yw wedi gyrru llai na 6,000 cilometr.

Sut mae rhoi gwybod i Gyllid a Thollau EM

Rhaid i chi hysbysu Cyllid a Thollau EM o fewn saith niwrnod calendr i ba un bynnag o’r canlynol fydd hwyraf:

  • y dyddiad y daeth y cerbyd i’r DU
  • y dyddiad y gwnaethoch brynu’r cerbyd

Mae’n bosib y bydd rhaid i chi dalu dirwy os na fyddwch yn hysbysu Cyllid a Thollau EM o fewn saith niwrnod.

Rhaid i chi roi’r hysbysiad ar ffurflen VAT 415, a rhaid i chi gynnwys copi o’r anfoneb brynu derfynol yn dangos rhif y siasi a’r pris a dalwyd. Fodd bynnag, os ydych chi wedi’ch cofrestru ar gyfer TAW, dylech ddefnyddio ffurflen TAW 414.

Dylech anfon eich ffurflen i’r cyfeiriad arni. Neu gallwch ei rhoi i’ch swyddfa Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) leol pan fyddwch yn cofrestru eich cerbyd. Byddant yn ei hanfon ymlaen i Gyllid a Thollau EM.

Beth fydd rhaid i chi ei dalu

Bydd rhaid i chi dalu TAW ar yr eitemau hyn i gyd:

  • y cerbyd
  • unrhyw ategolion a oedd yn dod gyda'r cerbyd
  • unrhyw gostau cludo neu gostau cysylltiedig a godir gan eich cyflenwr

Bydd Cyllid a Thollau EM yn cyfrifo'r TAW y bydd rhaid i chi ei thalu ac yn anfon asesiad (bil) atoch. Rhaid i chi dalu o fewn 30 diwrnod ar ôl y dyddiad yr anfonwyd yr asesiad.

Os na fyddwch yn talu ar amser, mae’n bosib y bydd rhaid i chi dalu dirwy yn ogystal â’r TAW.

Cerbydau ail-law ac ymweliadau dros dro

Os byddwch yn dod â cherbyd ail-law i’r wlad, ni fydd rhaid i chi dalu TAW – cyn belled â’ch bod wedi talu TAW mewn gwlad arall yn yr UE wrth ei brynu.

Os ydych chi fel arfer yn byw mewn gwlad arall yn yr UE ac yn dod â cherbyd gyda chi ar ymweliad dros dro â’r DU, ni fydd rhaid i chi hysbysu Cyllid a Thollau EM, na thalu dim TAW.

Darparwyd gan HM Revenue and Customs

Allweddumynediad llywodraeth y DU