Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes gennych salwch hirdymor neu os ydych yn anabl, efallai na fydd yn rhaid i chi dalu TAW ar rai nwyddau a gwasanaethau rydych yn eu prynu neu'n dod â hwy i mewn i'r DU. Efallai na chodir TAW ychwaith ar waith adeiladu penodol a wneir gennych. Mae'r canllaw hwn yn esbonio sut mae gostyngiad TAW yn gweithio, pwy sy'n gymwys i gael gostyngiad TAW, pa fathau o nwyddau a gwasanaethau y gallwch eu prynu heb dalu TAW a beth sy'n rhaid i chi ei wneud fel na fydd eich cyflenwr yn codi TAW arnoch.
Os yw'r nwyddau neu'r gwasanaethau rydych yn eu prynu yn gymwys ar gyfer gostyngiad TAW, bydd eich cyflenwr yn rhoi anfoneb gwerthu i chi sy'n dangos TAW ar 0 y cant. Mae hyn yn golygu na chodir TAW arnoch. (Nid mater o orfod talu'r TAW ydyw ac wedyn ei hawlio'n ôl oddi wrth Gyllid a Thollau EM).
Nid yw'r holl nwyddau a gwasanaethau a gyflenwir i bobl â salwch cronig neu bobl anabl yn gymwys i gael gostyngiad TAW. Yn gyffredinol, yr eitemau a gwmpesir gan y gostyngiad TAW yw pethau sydd o gymorth ymarferol i chi oherwydd eich salwch neu anabledd.
Byddwch yn gallu prynu nwyddau a gwasanaethau sy'n gymwys ar gyfer gostyngiad TAW os yw'r canlynol yn berthnasol:
Beth yw ystyr bod â salwch cronig neu'n anabl?
At ddibenion y gostyngiad TAW, mae gennych salwch cronig neu rydych yn anabl os yw'r canlynol yn berthnasol:
Ni fyddwch yn gymwys os ydych yn anabl neu'n analluog dros dro, e.e. rydych wedi torri eich coes neu wedi cael anaf arall dros dro. Ni fyddwch yn gymwys ychwaith os ydych yn oedrannus ond fel arall yn abl ac nad ydych yn dioddef o unrhyw gyflwr cronig. Os ydych dros 60 oed efallai mai dim ond y gyfradd TAW ostyngol y bydd yn rhaid i chi ei thalu (sef 5 y cant ar hyn o bryd) os gosodwyd cymhorthion symudedd penodol yn eich cartref. Mae paragraff yn y canllaw hwn ar gymhorthion symudedd i bobl hŷn.
Beth yw ystyr defnydd personol neu ddomestig?
Mae defnydd personol neu ddomestig yn golygu bod y nwyddau neu'r gwasanaethau wedi'u cyflenwi at eich defnydd personol chi eich hun, yn hytrach na dibenion busnes.
Hefyd rhaid iddynt fod at eich defnydd chi yn unig - nid i'w defnyddio gan unrhyw un arall, na chan unrhyw bobl sydd â salwch cronig neu sy'n anabl yn gyffredinol.
Fodd bynnag, os oes gennych chi a'ch partner salwch cronig neu rydych yn anabl ac rydych yn prynu nwyddau neu wasanaethau i'r ddau ohonoch eu defnyddio, yna ni fydd yn rhaid i chi dalu TAW.
Os oes gennych salwch hirdymor neu os ydych yn anabl, ni fydd yn rhaid i chi dalu TAW pan fyddwch yn prynu unrhyw un o'r eitemau canlynol at eich defnydd personol neu ddomestig eich hun:
Hefyd, os ydych yn defnyddio cadair olwyn, ni fydd yn rhaid i chi dalu TAW ar gerbydau modur at eich defnydd personol neu ddomestig eich hun sydd wedi'u cynllunio neu wedi'u haddasu'n sylweddol ac yn barhaol i'ch galluogi i fynd i mewn i'r cerbyd a'i yrru, neu fynd i mewn iddo a chael eich cludo ynddo.
Hefyd ni fyddwch yn gorfod talu TAW ar unrhyw daliadau a godir ar gyfer gosod, atgyweirio a chynnal a chadw rhai o'r eitemau uchod neu rannau newydd ac ategolion i'w defnyddio yn yr eitemau neu gyda hwy.
Hefyd efallai na chodir TAW ar waith adeiladu penodol a wneir ar breswylfa breifat rhywun. Cyfyngir hyn i:
Os oes angen i unrhyw nwyddau diben cyffredinol sydd gennych gael eu haddasu er mwyn gweddu i'ch cyflwr, ni chodir TAW ar unrhyw beth rydych yn ei dalu i'w haddasu, ond bydd yn rhaid i chi dalu'r gyfradd TAW arferol o hyd ar y nwyddau eu hunain.
Dim ond pobl anabl a phobl sy'n dioddef o salwch cronig sydd â hawl i gael yr eitemau a nodir yn y paragraff hwn heb i TAW gael ei chodi arnynt. Os nad oes gennych anabledd na salwch cronig ac rydych yn 60 oed neu hŷn efallai y bydd gennych hawl i gael y gyfradd TAW ostyngol (sef 5 y cant ar hyn o bryd) ar gymhorthion symudedd penodol a osodir yn eich cartref. Gweler y paragraff isod ar gymhorthion symudedd i bobl hŷn.
Bydd yn rhaid i chi roi datganiad ysgrifenedig i'r gwerthwr yn nodi bod gennych salwch cronig neu eich bod yn anabl a bod hawl gennych i brynu nwyddau a gwasanaethau cymhwysol na chodir TAW arnynt. Rhaid i'r datganiad hwn roi digon o wybodaeth i ddangos eich bod yn gymwys. Fel arfer, bydd y cyflenwr yn rhoi'r datganiad i chi ei gwblhau a'i lofnodi. Rhaid i'r cyflenwr hefyd gwblhau rhan ohono a'i gadw gyda'i gofnodion. Os na allwch lofnodi'r datganiad ysgrifenedig eich hun, bydd llofnod eich rhiant, gwarcheidwad, meddyg neu berson cyfrifol arall yn dderbyniol. Mae datganiadau dros y ffacs a datganiadau a wneir drwy'r rhyngrwyd hefyd yn dderbyniol.
Os ydych yn darparu datganiad boddhaol bydd y gwerthwr wedyn yn gallu gwerthu'r nwyddau neu'r gwasanaethau i chi heb godi TAW arnoch.
Gall unrhyw berson dros 60 oed brynu'r eitemau canlynol ar y gyfradd TAW ostyngol (sef 5 y cant ar hyn o bryd) pan gânt eu cyflenwi a'u gosod yn ei gartref ei hun neu gartref a rennir gyda ffrindiau a pherthnasau:
Nid yw'r gyfradd ostyngol yn gymwys os ydych ond yn prynu'r nwyddau. Dim ond os yw'r nwyddau hyn yn cael eu cyflenwi a'u gosod y bydd y gyfradd ostyngol yn gymwys i chi.
I gael mwy o help ynghylch gostyngiad TAW i bobl anabl gallwch gysylltu â Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi drwy e-bost, dros y ffôn neu drwy'r post.
Darparwyd gan HM Revenue and Customs