Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Canllaw i fethdaliad, sut bydd yn effeithio arnoch, y cyfyngiadau y mae’n rhaid i chi gytuno iddynt a sut caiff eich asedau eu defnyddio i ad-dalu eich dyledion
Dim ond llys all eich datgan yn fethdalwr. Yma, cewch wybod sut y gallwch chi neu’ch credydwyr wneud cais i’r llys eich gwneud yn fethdalwr
Bydd methdaliad yn effeithio ar asedau megis eich cartref, eich pensiwn a’ch cyfrifon banc – yma cewch wybod sut, yn ogystal â phwy fydd yn eu rheoli
Os cewch eich gwneud yn fethdalwr, cewch wybod yma pa gyfyngiadau fydd yn berthnasol i reoli eich arian, eich cyflogaeth a’ch busnes
Yma, cewch wybod pwy fydd yn gwerthu eich asedau, pa ddyledion fyddwch chi’n gyfrifol amdanynt a phryd y gellir defnyddio unrhyw incwm sydd gennych dros ben i’ch helpu i dalu eich dyledion
Yma, cewch wybod pryd fydd eich methdaliad yn dod i ben, beth fydd angen i chi ei wneud er mwyn diweddaru cofnodion cyhoeddus a phryd/a fydd unrhyw asedau yn cael eu rhoi yn ôl i chi
Os cewch eich gwneud yn fethdalwr, mae’n bosib y bydd yn rhaid i chi adael eich cartref, neu ei werthu, i’ch helpu i dalu eich dyledion methdaliad
Os cewch eich gwneud yn fethdalwr, efallai y bydd eich taliadau, eich budd-daliadau neu’ch hawliau pensiwn yn cael eu hawlio i’ch helpu i dalu eich dyledion methdaliad
Methdaliad a sut bydd hwn yn effeithio ar eich cyfrifon banc neu gymdeithas adeiladu a’ch statws credyd
Yma, cewch ragor o wybodaeth am rôl swyddog methdaliad y llys wrth ymchwilio i’ch methdaliad, ei reoli a’ch rhyddhau ohono