Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Pobl ifanc yn eu harddegau ac yfed alcohol

Gall yfed alcohol effeithio ar eich penderfyniadau, ar eich iechyd ac ar eich ymddangosiad corfforol. Os ydych chi dan 18 oed a'ch bod yn dewis yfed alcohol, gwnewch yn siŵr eich bod yn deall y gyfraith ac yn gwybod am y risgiau a sut mae gofalu amdanoch eich hun.

Effaith yfed alcohol

Mae yfed alcohol yn aml yn rhoi hyder i chi gan wneud i chi anghofio am eich amheuon. Mae hyn yn golygu ei bod yn fwy tebygol y byddwch yn gwneud rhywbeth peryglus na fyddech yn penderfynu ei wneud fel rheol. Oeddech chi'n gwybod:

  • bod 10,000 o bobl ifanc yn mynd i'r ysbyty bob blwyddyn oherwydd iddynt fod yn yfed alcohol
  • bod mwy nag un o bob deg unigolyn ifanc 15 i 16 oed yn gysylltiedig â damwain a achoswyd yn sgil yfed alcohol
  • bod un o bob pum merch 15 oed yn dweud iddynt gael rhyw ar ôl yfed alcohol, cyn difaru yn nes ymlaen
  • eich bod yn fwy tebygol o gael rhyw heb ddiogelwch os ydych chi wedi bod yn yfed
  • mae merched ifanc sy'n yfed alcohol ddwywaith yn fwy tebygol o gael beichiogrwydd anfwriadol na'r rheini sydd ddim yn yfed alcohol
  • eich bod chi'n fwy tebygol o gael cofnod troseddol neu fynd i helynt gyda'r heddlu os byddwch chi'n yfed gormod yn rheolaidd

Effaith alcohol ar eich iechyd

Mae’n ffaith

Mae gan un botel alcopop yr un faint o galorïau ag un rhan o dair o bitsa

Mae yfed gormod o alcohol pan rydych chi dan 18 oed yn cael effeithiau negyddol ar eich ymddangosiad corfforol hefyd. Gall gormod o alcohol:

  • wneud i chi roi pwysau ymlaen, gan fod y rhan fwyaf o ddiodydd sy'n cynnwys alcohol yn llawn calorïau
  • lleihau eich lefel ffitrwydd
  • gwneud i'ch croen fynd yn sych ac arwain at blorod

Pan rydych yn eich arddegau, gall yfed alcohol arwain at broblemau iechyd yn y tymor hwy hefyd, gan gynnwys:

  • methiant yr iau
  • clefyd y galon
  • canser y geg a'r gwddf
  • problemau iechyd meddwl

Os hoffech gael mwy o wybodaeth am sut y gall alcohol effeithio ar eich iechyd yn y dyfodol, ewch i NHS Choices.

Alcohol a’r gyfraith

Er nad yw'n anghyfreithlon yfed alcohol gartref os ydych chi dan 18 oed, mae'n iachach i chi beidio. Os ydych chi'n dymuno yfed, dylech wneud hynny gyda rhiant neu oedolyn cyfrifol arall.

Mae'n anghyfreithlon ceisio prynu alcohol mewn bar neu mewn unrhyw siop nes eich bod yn 18 oed. Mae hefyd yn anghyfreithlon i rywun geisio ei brynu i chi.

Caiff plant 5 oed fynd i ardaloedd sydd wedi'u neilltuo ar gyfer teuluoedd mewn tafarndai, ond rhaid i'r dafarn gael 'tystysgrif plant' arbennig. Pan fyddwch yn 14 oed, cewch fynd i unrhyw le mewn tafarn, ond ni fyddwch yn cael prynu alcohol.

Gall pobl ifanc 16 a 17 oed archebu ac yfed cwrw, gwin neu seidr gyda phryd o fwyd mewn tŷ bwyta neu dafarn sy'n gweini bwyd. Rhaid i chi gael oedolyn gyda chi i wneud hyn.

Caiff yr heddlu yn awr stopio pobl dan 18 oed os ydyn nhw'n credu eu bod yn cario alcohol. Os cewch eich stopio a'ch bod yn cario alcohol, gall yr heddlu ei gymryd oddi arnoch. Mae'n drosedd hefyd bod ag alcohol yn eich meddiant yn rheolaidd.

Yfed yn gyhoeddus

Mae rhai o drefi'r DU wedi gwahardd yfed mewn mannau cyhoeddus - ar sgwariau, mewn parciau ac yng nghanol dinasoedd er enghraifft. Mae rhai cwmnïau trafnidiaeth wedi gwahardd yfed ar fysiau a threnau hefyd.

Os ydych chi'n yfed alcohol mewn man cyhoeddus, fe allech gael eich stopio gan blismon ac y bydd yn cymryd yr alcohol oddi arnoch. Byddai'n bosib i chi gael dirwy neu gael eich arestio.

Yfed a gyrru

Mae gyrru dan ddylanwad alcohol yn anghyfreithlon ac yn beryglus iawn. Mae'n eich rhoi chi fel gyrrwr, unrhyw deithwyr eraill yn eich car, a theithwyr a cherddwyr eraill mewn perygl o gael anaf difrifol.

Os cewch eich stopio gan yr heddlu ar ôl bod yn gyrru gyda gormod o alcohol yn eich corff:

  • byddwch yn colli eich trwydded am o leiaf 12 mis
  • byddwch yn cael cofnod troseddol
  • byddwch yn cael dirwy o hyd at £5,000
  • fe allech wynebu chwe mis yn y carchar

Cyngor ar yfed alcohol

Gall yfed alcohol fod yn arbennig o niweidiol os ydych chi dan 15 oed, felly fe'ch argymhellir i beidio ag yfed o gwbwl os ydych chi dan yr oed hwn.

Y cyngor gorau ar gyfer eich iechyd yw peidio ag yfed alcohol nes eich bod yn 18 oed. Os penderfynwch yfed cyn hynny, cofiwch y canlynol:

  • gwnewch yn siŵr eich bod yng nghwmni oedolyn cyfrifol a fydd yn eich atal rhag gwneud dim a allai fod yn beryglus
  • peidiwch byth ag yfed fwy nag unwaith yr wythnos
  • peidiwch byth ag yfed mwy o unedau na'r hyn a argymhellir mewn diwrnod

Os oes gennych iPhone, gallwch lwytho Traciwr Diod y GIG ar ei gyfer. Bydd hwn yn ei gwneud yn haws i chi gyfrifo faint o unedau o alcohol sydd yn eich diodydd.

Penderfynu peidio ag yfed

Cofiwch nad yw'n rhyfedd nac yn annaturiol dewis peidio ag yfed alcohol o gwbl. Mae mwy a mwy o bobl ifanc yn penderfynu peidio ag yfed o gwbl, hyd yn oed ar ôl iddynt gyrraedd 18 oed. Chi biau'r dewis.

Efallai eich bod yn poeni y bydd eich ffrindiau'n ceisio rhoi pwysau arnoch i yfed. Os nad ydych chi'n dymuno yfed, byddwch yn hyderus ac eglurwch pam.

Allweddumynediad llywodraeth y DU