Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os oes gennych basbort newydd â sglodyn biometrig, gallwch ddefnyddio'r gatiau eBasbort awtomataidd yn hytrach na chael eich pasbort wedi'i archwilio gan swyddog rheoli ar y ffin. Mae hyn yn golygu y gallwch osgoi'r ciwiau a mynd drwy'r adran rheoli pasbortau yn gyflym. Mynnwch wybod beth yw'r gatiau a sut i'w defnyddio.
Er mwyn helpu i gyflymu'r broses o fynd drwy'r adran rheoli pasbortau, bellach mae gatiau eBasbort wedi'u cyflwyno ym mhob un o brif feysydd awyr y DU. Gatiau awtomataidd yw gatiau eBasbort lle bydd sganiwr a chamera, yn hytrach na swyddog rheoli ar y ffin, yn archwilio eich pasbort â sglodyn.
Mae'r gatiau'n defnyddio technoleg adnabod wyneb i gymharu eich wyneb â'r ffotograff a gofnodwyd ar y sglodyn yn eich pasbort. Unwaith y caiff ei archwilio, bydd y gatiau'n agor yn awtomatig i chi gerdded drwyddynt.
Er mwyn defnyddio'r gatiau eBasbort, mae'n rhaid bod gennych basbort biometrig â sglodyn o'r DU neu'r UE. Mae gan y pasbortau hyn y logo biometrig ar y clawr. Gweler 'Beth yw pasbortau biometrig?' i gael mwy o wybodaeth am basbortau â sglodyn.
Nid oes angen i chi gofrestru eich manylion unrhyw le cyn defnyddio'r gatiau eBasbort.
Er mwyn defnyddio'r gât eBasbort, bydd angen i chi osod eich pasbort ar y sganiwr gyda'r ffotograff wyneb i lawr.
Unwaith y bydd y sganiwr wedi derbyn eich pasbort, dylech:
Nawr, bydd y camera yn cyfateb eich wyneb â'r ffotograff a geir yn y sglodyn yn eich pasbort. Unwaith y bydd wedi gwneud hyn, bydd y gât yn agor a gallwch adael.
Efallai y bydd adegau pan fydd y gatiau yn eich gwrthod. Os bydd hyn yn digwydd, gallwch fynd yn syth at swyddog rheoli ar y ffin a fydd yn archwilio eich pasbort â llaw.
Ceir gatiau eBasbort yn y meysydd awyr canlynol:
Pan fyddwch yn teithio, efallai y bydd Asiantaeth Ffiniau'r DU yn gofyn ambell gwestiwn i chi os nad chi yw rhiant y plentyn neu os nad oes gennych yr un eich cyfenw â’r plentyn