Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi wedi prynu rhif cofrestru personol, bydd angen i chi wneud cais i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) i’w neilltuo i’ch cerbyd (ei roi ar eich cerbyd). Yma, cewch wybod beth yw’r rheolau, sut mae gwneud cais, a beth fydd yn digwydd ar ôl i’r DVLA gael eich cais.
Pan fyddwch yn neilltuo eich rhif cofrestru personol i gerbyd, gallwch wneud cais am un o ddau fath o dystysgrif, sef:
Bydd y dystysgrif hawl (V750) yn cynnwys enw’r prynwr ar frig y dystysgrif, a'r prynwr hwnnw fydd yn berchen ar yr hawl i’r rhif cofrestru.
Bydd y ddogfen cadw rhif (V778) yn cynnwys enw’r sawl a gaiff y caniatâd ar frig y dystysgrif, a'r unigolyn hwnnw fydd yn berchen ar yr hawl i’r rhif cofrestru.
Pan fyddwch yn neilltuo rhif cofrestru personol i gerbyd, ni chewch wneud i’r cerbyd edrych yn fwy newydd nag ydyw mewn gwirionedd. Er enghraifft, ni chewch roi rhif cofrestru 'Y' ar gerbyd sydd â rhif cofrestru 'T', ond cewch ddewis unrhyw lythyren rhwng 'A' a 'T'.
Mae hefyd yn rhaid i’r cerbyd fod wedi’i drwyddedu eisoes, neu ar fin cael ei drwyddedu, a’i gofrestru yn y DU.
Cerbydau gyda phlatiau rhif Q
Ni chewch roi rhif cofrestru personol ar gerbyd sy’n dangos plât rhif 'Q'.
Pan fyddwch yn gwneud cais i neilltuo eich rhif cofrestru personol i gerbyd, rhaid i chi anfon eich cais llawn i’ch swyddfa Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) leol agosaf.
Bydd arnoch angen:
Os yw'r atodiad ceidwad newydd wedi'i stampio gan swyddfa DVLA leol, bydd angen i chi lenwi ffurflen V62 a'i dychwelyd i DVLA Abertawe cyn i chi allu gwneud cais. Dylech ganiatáu tair wythnos i’r dystysgrif cofrestru (V5C) gael ei dychwelyd atoch ar ôl i chi wneud cais.
Ychwanegu enwebai i’ch rhif cofrestru personol
Os ydych chi am ychwanegu enwebai ar yr un pryd ag y byddwch yn neilltuo’r rhif cofrestru i gerbyd:
Trethu eich cerbyd pan fyddwch yn neilltuo eich rhif cofrestru personol
Os bydd angen i chi drethu’r cerbyd, bydd arnoch angen:
Mae swyddfeydd DVLA lleol ar agor rhwng 9.00am a 5.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac mae maes parcio ar gael i gwsmeriaid.
Ar ôl i’ch swyddfa DVLA leol gael eich cais, efallai y bydd angen iddynt archwilio’r cerbyd, a byddant yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad. Os na fydd angen archwilio eich cerbyd, byddant yn cymeradwyo eich cais o fewn pythefnos.
Ar ôl cymeradwyo eich cais, bydd y swyddfa DVLA leol yn anfon y canlynol atoch:
Nodwch os gwelwch yn dda, na fydd y dystysgrif prawf MOT yn cael ei hargraffu mewn gwyrdd bellach - bydd yn cael ei hargraffu mewn testun du ar gefndir gwyn yn lle hynny.
Dylech ganiatáu o leiaf pythefnos, ar ôl anfon eich cais, cyn cysylltu ag ymholiadau cwsmeriaid DVLA os na fyddwch yn cael y dogfennau hyn.
Bydd tystysgrif cofrestru newydd (V5C) ar gyfer eich cerbyd yn cael ei hanfon atoch hefyd, a bydd yn dangos y rhif cofrestru newydd. Dylai gyrraedd o fewn pedair wythnos ar ôl y llythyr cadarnhau. Gall gymryd hyd at chwe wythnos os defnyddiwyd ffurflen V62 i gefnogi’r cais.
Gan mai chi yw’r ceidwad cofrestredig, eich cyfrifoldeb chi yw rhoi gwybod i’ch darparwr yswiriant am eich rhif cofrestru newydd.