Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae’n rhaid i rifau cofrestru cerbyd gael eu harddangos yn gywir ar blât rhif eich cerbyd. Mae eu haildrefnu fel eu bod yn edrych fel enwau neu eiriau yn drosedd, yn ogystal â’u haddasu mewn unrhyw ffordd sy'n gwneud rhif cofrestru'r cerbyd yn anodd ei ddarllen neu ei adnabod.
Mae rhifau cofrestru cerbydau yn ffordd o adnabod cerbydau. Cyflwynwyd y fformat cofrestru presennol ar gyfer rhifau cofrestru cerbydau ar 1 Medi 2001 ar gyfer pob cerbyd newydd sy’n cael ei gofrestru.
Mae'r fformat yn cynnwys dwy lythyren, dau rif, bwlch a thair llythyren arall.
Bydd y ddwy lythyren gyntaf (llythrennau dynodi ardal) yn dweud wrthych chi ym mha swyddfa y cafodd y rhif cofrestru cerbyd ei roi yn gyntaf. Bydd y ddau rif yn dynodi'r oedran, a chaiff y tair llythyren olaf eu dewis ar hap.
Mae'r rhifau dynodi oedran yn newid bob chwe mis, ym mis Mawrth ac ym mis Medi.
Pan fyddwch chi’n newid eich plât rhif, dylech sicrhau bod y deunydd cywir wedi cael ei ddefnyddio i wneud y plât. Dylai gael ei wneud o ddeunydd adlewyrchol. Mae’n rhaid i blatiau rhif blaen arddangos llythrennau a rhifau du ar gefndir gwyn, ac mae’n rhaid i blatiau rhif ôl arddangos llythrennau a rhifau du ar gefndir melyn.
Nid yw’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn ymwybodol o unrhyw blatiau rhif hunanadlynol sy’n cwrdd â gofynion y Safon Brydeinig.
Gall llythrennau a rhifau fod yn 3D, ar yr amod eu bod yn bodloni’r holl ofynion eraill, ond ni chaniateir patrymau crwybrol neu batrymau eraill.
Yn ogystal, mae angen i lythrennau a rhifau ar blât rhif fod ag uchder a lled benodol.
Dylai eich plât rhif ddangos y canlynol yn gywir:
Beiciau modur a threisiclau
Dim ond ar gefn beiciau modur a gofrestrwyd o 1 Medi 2001 ymlaen y dylid arddangos plât rhif.
Gall beiciau modur a gofrestrwyd cyn 1 Medi 2001 arddangos plât rhif ar y blaen ond nid oes rhaid iddynt wneud hynny. Mae’n rhaid i’r plât rhif fod yn un ‘2 linell’.
Dylai platiau rhif beiciau modur fod â’r canlynol:
Mae’n rhaid i dreisiclau sydd wedi cael eu gwneud o feiciau modur fodloni’r gofynion ar gyfer platiau rhif i feiciau modur.
Mae’n rhaid i dreisiclau sydd wedi cael eu gwneud o gerbydau pedair olwyn, megis ceir salŵn a beiciau pedair olwyn, fodloni’r un gofynion ar gyfer platiau rhif â phob cerbyd arall.
Sut mae creu plât rhif
I greu plât rhif ar gyfer eich cerbyd, bydd rhaid i chi fynd at gyflenwr plât rhif cofrestredig (RNPS). Bydd angen prawf o bwy ydych chi ar y darparwr cofrestredig, yn ogystal â phrawf mai chi sy'n berchen ar y rhif cofrestru.
Gall yr heddlu roi dirwyon cosb penodedig ar gyfer platiau rhif sydd wedi'u harddangos yn anghyfreithlon. Gallai troseddwyr wynebu dirwy o hyd at £1,000, ac mewn rhai achosion, mae’n bosib i’r plât rhif gael ei dynnu ymaith.
Mae’n bosib i gerbydau sydd â phlatiau rhif sydd wedi’u harddangos yn anghyfreithlon fethu'r prawf MOT.
Os ydych chi’n arddangos symbol yr Ewro a Phrydain Fawr (GB) i ddynodi cenedl ar eich plât rhif, yna ni fydd arnoch angen sticer GB ar wahân pan fyddwch yn teithio yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae’n rhaid i’r symbol fodloni’r safonau gofynnol, sef: