Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae eich cyfrifiad treth P800 yn dweud wrthych a yw Cyllid a Thollau EM (CThEM) yn ystyried eich bod wedi talu gormod neu ddim digon o dreth yn ystod blynyddoedd treth blaenorol. Mae'n bwysig eich bod yn gwirio eich cyfrifiad. Os ydych yn credu ei fod yn anghywir neu os bydd angen i chi ddarparu rhagor o wybodaeth, cysylltwch â CThEM ar unwaith.
Ar ddiwedd pob blwyddyn dreth bydd eich cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn yn anfon manylion i CThEM am yr incwm a gawsoch a'r dreth a dalwyd gennych yn ystod y flwyddyn.
Os na fyddwch wedi talu'r swm cywir o dreth, byddwch yn cael cyfrifiad treth P800 a fydd yn dweud wrthych beth mae CThEM yn ystyried yw'r swm cywir a ph'un a ydych wedi talu gormod neu ddim digon.
Mae angen i chi fwrw golwg fanwl dros y cofnodion ar eich cyfrifiad treth P800 er mwyn sicrhau bod eich holl incwm ac unrhyw fudd-daliadau neu dreuliau a gewch wedi'u rhestru a bod y symiau'n gywir. Mae angen i chi sicrhau hefyd fod eich lwfansau treth yn gywir.
Efallai na fydd gan CThEM yr holl wybodaeth sydd ei hangen arno i gyfrifo eich treth yn gywir, er enghraifft am fod eich amgylchiadau wedi newid, felly mae'n bwysig iawn eich bod yn gwirio eich cyfrifiad i sicrhau bod y wybodaeth yn gyflawn ac yn gywir.
Defnyddiwch yr eitemau canlynol i'ch helpu:
• ffurflen P60 - byddwch yn cael y ffurflen hon ar ddiwedd pob blwyddyn dreth
• ffurflen P45 - byddwch yn cael y ffurflen hon pan fyddwch yn gadael swydd
• Hysbysiad Cod TWE
• P11D Treuliau a budd-daliadau
• P9D Taliadau treuliau ac incwm na ellir didynnu treth oddi wrtho
• cyfriflenni banc a chymdeithas adeiladu
Mae'r nodiadau, 'Nodiadau P800 - Deall eich cyfrifiad treth P800' a gewch gyda'ch cyfrifiad treth P800 yn egluro pob adran o'r cyfrifiad - felly mae'n syniad da darllen y nodiadau hyn yn ofalus hefyd. Byddant yn eich helpu i wirio a yw'r wybodaeth yn y cyfrifiad yn gywir a deall pam rydych wedi talu gormod neu ddim digon o dreth.
Mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr a darparwyr pensiynau'n didynnu'r swm cywir o dreth o'ch cyflog neu'ch pensiwn. Ond weithiau maent yn gwneud camgymeriadau. Os byddwch yn credu bod eich cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn wedi gwneud camgymeriad - er enghraifft am nad ydynt wedi cymryd gofal rhesymol i ddefnyddio'r cod treth cywir - efallai mai eu cyfrifoldeb nhw fydd ad-dalu'r dreth sy'n ddyledus. Mynnwch wybod mwy drwy ddilyn y ddolen isod.
Os ydych yn credu y gallai hyn fod yn berthnasol i chi, ysgrifennwch at CThEM yn y cyfeiriad ar eich cyfrifiad treth P800, gan egluro pam rydych yn credu bod eich cyflogwr neu'ch darparwr pensiwn wedi gwneud camgymeriad.
Bydd CThEM yn rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl beth mae wedi'i benderfynu a beth mae hyn yn ei olygu i chi.
Os ydych yn credu y dylai CThEM fod wedi casglu'r dreth sy'n ddyledus eisoes am eich bod chi neu drydydd parti wedi rhoi'r holl wybodaeth berthnasol iddo - ond nad yw CThEM wedi ei defnyddio neu ei fod wedi oedi cyn ei defnyddio - yna o dan rai amgylchiadau cyfyngedig efallai y bydd CThEM yn cytuno nad oes angen i chi ei had-dalu.
Er enghraifft, gwnaethoch ddechrau cael Pensiwn y Wladwriaeth ac anfonodd yr Adran Gwaith a Phensiynau wybodaeth am hyn i CThEM, ond gwnaeth CThEM oedi cyn ei defnyddio, ac roedd yn rhesymol i chi gredu bod eich materion treth mewn trefn. Mynnwch wybod mwy drwy ddilyn y ddolen isod.
Os ydych yn credu y gall hyn fod yn berthnasol i chi, cysylltwch â CThEM gan ddefnyddio'r cyfeiriad neu'r rhif ffôn a ddangosir ar eich cyfrifiad treth P800. Bydd yn penderfynu a oes angen i chi ad-dalu'r dreth y mae wedi gofyn amdani ai peidio.
Os byddwch yn cytuno bod eich cyfrifiad treth P800 yn dangos eich holl incwm, budd-daliadau a lwfansau yn gywir nid oes angen i chi wneud dim ond cadw'r cyfrifiad yn ddiogel.
Fel arfer, byddwch yn cael eich ad-daliad drwy siec o fewn 14 diwrnod gwaith i'r dyddiad ar eich cyfrifiad treth P800.
Os na fyddwch yn cytuno â rhywbeth yn eich cyfrifiad treth P800 darllenwch yr adran 'Beth i'w wneud os byddwch yn credu bod eich cyfrifiad treth P800 yn anghywir'.
Os byddwch yn cytuno bod eich cyfrifiad treth P800 yn dangos eich holl incwm, budd-daliadau a lwfansau yn gywir nid oes angen i chi wneud dim ond cadw'r cyfrifiad yn ddiogel.
Os na fyddwch yn cytuno â rhywbeth yn eich cyfrifiad treth P800 darllenwch yr adran 'Beth i'w wneud os credwch fod eich cyfrifiad treth P800 yn anghywir'.
Ad-dalu’r dreth sy’n ddyledus gennych
Os bydd eich cyfrifiad treth P800 yn dweud y bydd CThEM yn cynnwys urhyw dreth a dandalwyd yn eich cod treth ar gyfer y flwyddyn dreth nesaf, byddwch yn ei had-dalu mewn rhandaliadau cyfartal dros flwyddyn ynghyd â'ch didyniadau treth arferol o'ch cyflog neu'ch pensiwn. Er enghraifft, os na wnaethoch dalu digon o dreth yn ystod blwyddyn dreth 2010-11, byddwch yn ad-dalu'r swm sy'n ddyledus gennych yn ystod blwyddyn dreth 2012-13, sy'n dechrau 6 Ebrill 2012.
Byddwch yn cael eich cod treth newydd ar ddechrau 2012. Yn y cyfamser, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall.
Os na fydd eich cyfrifiad treth P800 yn dweud y bydd CThEM yn cynnwys unrhyw dreth a dandalwyd yn eich cod treth, bydd CThEM yn ysgrifennu atoch ynglŷn â sut i dalu. Os byddai'n well gennych dalu nawr, cysylltwch â CThEM drwy ddefnyddio'r rhif ffôn neu'r cyfeiriad ar eich cyfrifiad treth P800.
Os credwch na allwch fforddio talu'r swm sy'n ddyledus gennych, neu os byddai ei dalu drwy eich cod treth dros flwyddyn yn achosi trafferthion ariannol i chi, cysylltwch â CThEM gan ddefnyddio'r cyfeiriad neu'r rhif ffôn a ddangosir ar eich cyfrifiad treth P800 i drafod eich opsiynau talu. Efallai y byddwch yn gallu lledaenu'r taliadau dros ddwy neu dair blynedd.
Os ydych yn cael budd-daliadau ar sail prawf modd, gallai'r ffordd rydych yn ad-dalu treth effeithio ar yr hyn sydd gennych hawl i'w gael. Efallai yr hoffech ofyn am gyngor ar hyn cyn cytuno i dalu drwy siec - i gael gwybodaeth am ble i gael help a chyngor, gweler yr adran 'Cael help neu gyngor' tuag at ddiwedd y canllaw hwn. Os bydd eich 'incwm net' - incwm ar ôl didynnu treth - yn newid neu fod eich cyfalaf yn lleihau o ganlyniad i ad-dalu treth, rhowch wybod i'ch darparwr budd-daliadau.
Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw gredydau treth rydych yn eu cael am eu bod yn seiliedig ar incwm cyn didynnu treth.
Os byddwch yn cael mwy nag un cyfrifiad treth P800 caiff swm y dreth a ordalwyd neu a dandalwyd gennych yn ystod y flwyddyn dreth flaenorol ei gario ymlaen i'r flwyddyn dreth fwyaf diweddar. Mae hyn yn golygu y byddwch yn cael ffigur terfynol ar gyfer y dreth a ordalwyd neu a dandalwyd yn ystod y ddwy flynedd. Caiff y swm a gariwyd ymlaen o'r flwyddyn gynharach ei ddangos ar eich cyfrifiad treth P800 ar gyfer y flwyddyn fwyaf diweddar yn y blwch 'addasiadau' o dan y pennawd 'llai unrhyw addasiadau eraill'.
Er enghraifft, os gwnaethoch dandalu £400 o dreth yn 2009-10 a gordalu £500 o dreth yn 2010-11. Bydd eich cyfrifiad treth P800 ar gyfer 2010-11 yn cynnwys y £400 a gariwyd ymlaen o 2009-10 ac yn tynnu'r swm hwn o'r £500 a ordalwyd gennych yn 2010-11. Caiff eich ad-daliad o £100 (£500 llai £400) ei ddangos fel y canlyniad terfynol.
Byddwch yn cael un ad-daliad ar gyfer cyfanswm y dreth rydych wedi'i gordalu yn ystod y blynyddoedd treth a gwmpesir yn eich cyfrifiadau treth P800.
Os na fyddwch yn cytuno â rhywbeth yn eich cyfrifiad treth P800, cysylltwch â CThEM gan ddefnyddio'r rhif ffôn neu'r cyfeiriad a ddarperir. Y rhif ffôn yw 0845 300 0627. Os bydd CThEM yn cytuno bod eich cyfrifiad treth P800 yn anghywir bydd yn diwygio'r cyfrifiad ac yn anfon un newydd atoch.
Mae'n bwysig eich bod yn rhoi gwybod i CThEM am unrhyw newidiadau yn eich amgylchiadau a allai effeithio ar y dreth a dalwch er mwyn sicrhau na fyddwch yn talu'r swm anghywir. Mynnwch wybod mwy am y newidiadau mae angen i chi rhoi gwybod amdanynt a sut i wneud hynny drwy ddilyn y ddolen isod.
Os bydd angen cyngor neu ragor o wybodaeth arnoch gall nifer o sefydliadau gwirfoddol eich helpu - neu gallech ofyn i gynghorydd proffesiynol (ond cofiwch y gall godi tâl am hyn). Os oes gennych ddyledion, mae llawer o sefydliadau sy'n cynnig cyngor annibynnol am ddim ar ddyledion dros y ffôn neu wyneb yn wyneb.