Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Canllaw ar y gwahanol ffyrdd y gallwch ad-dalu eich dyledion, gan gynnwys lle i gael cymorth a chyngor am ddim ynglŷn â’r opsiwn gorau ar eich cyfer chi
Benthyciadau cyfuno – beth yw'r rhain, pryd maen nhw'n ddefnyddiol a'u manteision a'u hanfanteision
Cynlluniau a fydd yn caniatáu i chi wneud taliadau misol tuag at fathau penodol o ddyled – taliadau a fydd yn cael eu sefydlu a’u rheoli gan gwmni rheoli dyledion
Bydd trefniant gwirfoddol unigol yn caniatáu i chi wneud taliadau rheolaidd tuag at eich dyledion. Caiff ei sefydlu gan arbenigwr dyledion wedi’i awdurdodi, ac efallai y bydd costau i chi eu talu
Ffordd o ddelio â dyledion o £5,000 neu lai. Bydd yn rhaid i chi wneud cais am orchymyn drwy’r llysoedd, a bydd amodau a chostau yn berthnasol
Cytundeb gyda'ch credydwyr y gallwch ei sefydlu eich hun, a chytundeb a fydd yn caniatáu i chi wneud taliadau rheolaidd tuag at eich dyledion
Os ydych chi wedi cael eich gwneud yn fethdalwr, gallai hyn fod yn ffordd i chi ganslo eich methdaliad a delio â’ch dyledion
Mae gorchmynion rhyddhad o ddyledion yn opsiwn arall heblaw am fethdaliad a all eich helpu i ddelio â'ch dyledion os oes llai na £15,000 yn ddyledus gennych