Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwirfoddoli fel ynad

Mae ynadon, a elwir hefyd yn Ynadon Heddwch, yn wirfoddolwyr sy'n gwrando achosion mewn llysoedd. Maent yn delio â thua 95 y cant o'r achosion troseddol yng Nghymru a Lloegr. Mynnwch wybod mwy am beth mae ynadon yn ei wneud a sut i fod yn ynad.

Beth mae ynadon yn ei wneud

Pwy all fod yn ynad?

Gwyliwch fideo ynghylch y gwahanol fathau o bobl sy’n dod yn ynadon

Mae ynadon yn eistedd mewn llysoedd yn eu hardal leol ac yn gwrando achosion troseddol ac yn helpu i ddatrys anghydfodau.

Mae ynadon yn bobl o bob galwedigaeth a chefndir a gallant fod rhwng 18 a 70 oed. Mae ynadon yn ymddeol yn 70 oed, ac fel arfer disgwylir iddynt wasanaethu am o leiaf bum mlynedd. O ganlyniad i hyn, fel arfer ni chewch eich penodi os ydych yn hŷn na 65 oed.

Nid oes angen iddynt fod yn arbenigwyr ym maes y gyfraith, gan eu bod yn cael hyfforddiant ar gyfer y rôl ac mae cynghorydd cyfreithiol yn eu helpu yn y llys.

Nid yw llysoedd ynadon yn defnyddio rheithgorau. Mae ynadon yn eistedd mewn 'mainc' o dri (gan gynnwys cadeirydd) yn y llys, ac yn gwneud penderfyniadau am yr achosion maent yn eu gwrando.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am beth mae ynadon yn ei wneud yn y llyfryn 'Gwasanaethu fel ynad'.

Gwrando achosion troseddol

Os caiff rhywun ei gyhuddo o drosedd a bod yr achos yn mynd i'r llys, yna bydd yn mynd i lys ynadon i ddechrau.

Mae ynadon yn gwrando amrywiaeth o achosion, o fân droseddau, fel mân ymosodiadau neu droseddau moduro, i rai achosion sy'n cynnwys dwyn a delio â nwyddau wedi'u dwyn.

Byddant yn:

  • gwrando ar y dystiolaeth
  • penderfynu a yw'r unigolyn yn euog
  • penderfynu ar gosb

Gall ynadon gyflwyno cosbau fel:

  • dirwyon
  • gwaith di-dâl yn y gymuned
  • carchar am hyd at chwe mis (neu hyd at 12 mis ar gyfer mwy nag un drosedd)

Bydd ynadon profiadol â hyfforddiant ychwanegol yn eistedd yn y llys ieuenctid ac yn gwrando achosion sy'n ymwneud â phobl o dan 18 oed.

Anfon achosion i Lys y Goron

Os yw'r ynadon o'r farn bod angen dedfryd fwy, gallant anfon yr achos i Lys y Goron. Gall barnwr yn Llys y Goron anfon rhywun i'r carchar am gyfnod hwy.

Mae ynadon bob amser yn anfon y troseddau mwyaf difrifol - fel llofruddiaeth, trais a lladrad - i Lys y Goron.

Bydd ynadon yn penderfynu a ddylid cadw'r unigolyn sydd wedi'i gyhuddo o'r drosedd yn y carchar neu ei ryddhau wrth i'r achos gael ei baratoi.

Gall ynadon bennu amodau ar gyfer rhyddhau rhywun. Gallant ddweud wrth yr unigolyn bod yn rhaid iddo:

  • ymweld â gorsaf yr heddlu yn rheolaidd
  • cadw i ffwrdd o bobl neu leoedd penodol
  • talu gwarant arian parod i'r llys, a elwir yn 'fechnïaeth'

Ar ôl hyn, bydd barnwr a rheithgor yn gwrando'r achos yn Llys y Goron.

Datrys anghydfodau sifil a theuluol

Gyda phrofiad a hyfforddiant ychwanegol, gall ynadon fynd ymlaen i ddelio ag achosion mewn llysoedd teulu

Nid yw ynadon yn delio â throseddau yn unig. Maent hefyd yn gwrando rhai achosion sifil, ynghylch pethau fel:

  • treth cyngor heb ei thalu
  • apeliadau yn erbyn penderfyniadau trwyddedu

Gyda phrofiad a hyfforddiant ychwanegol, gall ynadon fynd ymlaen i ddelio ag achosion mewn llysoedd teulu.

Mae llysoedd teulu yn delio ag achosion fel:

  • cadwraeth plentyn
  • rhoi plant mewn gofal

Cadarnhau a allwch fod yn ynad

Ni all pawb fod yn ynad, felly darllenwch 'A allwch fod yn ynad?' i weld a yw'r rôl yn addas i chi.

Sut y gallwch wneud cais i fod yn ynad

Os hoffech wirfoddoli fel ynad, gallwch gael mwy o wybodaeth am eich llys lleol a gweld a yw'n recriwtio. Darllenwch 'Gwneud cais i fod yn ynad' i gael gwybodaeth am sut i wneud cais.

Beth mae ynadon mewn gwasanaeth yn ei ddweud am y rôl

Cyn i chi wneud cais, efallai y byddwch am ddarllen beth yw barn ynadon mewn gwasanaeth ar y rôl. Darllenwch 'Profiadau ynadon mewn gwasanaeth'.

Ynadon Heddwch yn yr Alban

Mae'r system cyfiawnder troseddol yn yr Alban ar wahân i'r system yng Nghymru a Lloegr. Yn yr Alban, mae Ynadon Heddwch yn cyflawni rôl debyg i ynadon yng Nghymru a Lloegr.

Additional links

Muck In4Life

O glirio pyllau i blannu coed – gallwch ddod o hyd i brosiectau gwirfoddoli cadwraeth i’r teulu i gyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU