Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych am gynnal y gyfraith a gwneud rhywbeth i'ch cymuned, efallai y byddwch am fod yn ynad. Mynnwch wybod sut i wneud cais a ble i gael gwybodaeth am lysoedd yn eich ardal.
Cyn i chi wneud cais, bydd angen i chi sicrhau bod gennych siawns dda o gael eich derbyn. Ni all pawb fod yn ynad, a bydd angen i chi gadarnhau bod gennych yr amser a'r ymrwymiad ar gyfer y rôl.
Darllenwch 'A allwch fod yn ynad?' i weld a allwch wneud cais.
Gwyliwch fideo ar y rhinweddau sydd eu hangen arnoch i fod yn ynad
Dylech ddewis llys yn agos at ble rydych yn byw
neu'n gweithio i fod yn ynad, ac ymweld cyn i chi wneud cais.
Gall y llys roi gwybod i chi pryd fydd yr amser gorau i ymweld a pha ystafelloedd llys i fynd i'w gweld.
Bydd angen i chi fynd i'r llys o leiaf unwaith, a sawl gwaith os gallwch wneud hynny, i weld a yw'r rôl yn addas i chi. Os cewch eich gwahodd i gyfweliad, gofynnir i chi siarad am eich ymweliadau.
Mae'r llyfryn 'Gwasanaethu fel ynad' yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am sut i wneud cais i fod yn ynad. Gallwch lawrlwytho copi drwy ddilyn y ddolen isod.
Bydd pwyllgorau cynghori, sy'n cynnwys pobl o'r gymuned leol, gan gynnwys rhai ynadon, yn delio â cheisiadau.
Mae llysoedd ledled y wlad yn recriwtio ar adegau gwahanol, felly bydd angen i chi gadarnhau a oes cyfleoedd yn eich ardal chi.
Gweler 'Pwyllgorau cynghori a llysoedd ynadon yng Nghymru a Lloegr' i weld manylion cyswllt eich pwyllgor cynghori lleol. Bydd yn rhoi rhestr A i Y o'r pwyllgorau. Gallwch ddod o hyd i'r un ar gyfer eich ardal chi drwy chwilio yn ôl enw eich llys lleol.
Agorwch y ddogfen, dewiswch 'edit' o'r ddewislen uchaf a 'find' o'r gwymplen, ac yna nodwch enw'r llys. Er enghraifft, nodwch 'Milton Keynes' os mai Llys Ynadon Milton Keynes yw eich llys lleol.
Gallwch wneud cais drwy lenwi'r ffurflen gais a'i hanfon drwy e-bost neu'r post i'r pwyllgor cynghori yn eich ardal. Bydd gwneud cais dros e-bost yn gyflymach. Er mwyn gwneud hyn, llenwch fersiwn Word y ffurflen, arbedwch y ffurflen ar eich cyfrifiadur a'i hatodi i'r e-bost i'r pwyllgor cynghori.
Bydd 'nodiadau canllaw'r ffurflen gais' yn eich helpu i lenwi'r ffurflen.
Os bydd gennych fwy o gwestiynau, neu os bydd angen copi Braille, sain neu brint bras o'r ffurflen gais arnoch, cysylltwch â David Gamble neu Mabel Aire.
Gallwch ysgrifennu ati yn:
Magistrates HR Team
Judicial Office
10th Floor, Thomas More Building
Royal Courts of Justice
Strand
London
WC2A 2LL
Ffôn: 020 7073 4789 neu 020 7073 4779
Neu gallwch anfon neges e-bost ati yn:
david.gamble@judiciary.gsi.gov.ukmabel.aire@judiciary.gsi.gov.uk
Os byddwch yn addas i'r rôl, gofynnir i chi fynd am gyfweliad
Unwaith y byddwch wedi anfon eich ffurflen, bydd eich pwyllgor cynghori lleol yn ei darllen ac yn cysylltu â'r geirdaon y byddwch wedi'u rhoi iddo.
Os byddwch yn addas i'r rôl, gofynnir i chi fynd am gyfweliad. Os byddwch yn llwyddiannus, gofynnir i chi ddod nôl am ail gyfweliad.
Bydd y rhai a wnaiff yn dda yn y cyfweliadau yn cael eu cynnig am swydd. Yr Arglwydd Ganghellor fydd yn penderfynu'n derfynol ar y penodiadau. Bydd y pwyllgor yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am eich cynnydd ar bob cam o'r broses ddethol.
Dylech gofio y gall hyn i gyd gymryd rhwng chwe mis a blwyddyn.