Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Profiadau ynadon mewn gwasanaeth

Mae bod yn ynad yn brofiad gwerthfawr a phleserus i lawer o bobl. Mae'n rôl uchel ei pharch a gall wneud gwahaniaeth gwirioneddol i wneud cymunedau'n fwy diogel ac yn decach. Mynnwch wybod beth mae ynadon mewn gwasanaeth yn ei ddweud am eu profiadau.

Beth mae ynadon mewn gwasanaeth yn ei ddweud

Sut y gallwch gael budd o fod yn ynad

Gwyliwch fideo am y budd y gallwch ei gael o fod yn ynad

Alika Gupta - arweinydd rhaglen

"Pe byddwn yn ddiffynnydd fy hun, hoffwn gael fy marnu a'm dedfrydu gan rywun â synnwyr cyffredin
ac a allai gydymdeimlo â'm sefyllfa. Rwy'n ystyried
fy hun yn ffodus gan fy mod wedi cael y
fraint o gynrychioli pobl gyffredin
yn y system farnwrol."

Grantley Yearwood - technegydd awyrennau

"Rwyf o'r farn eu bod am gael mwy o fewnbwn diwylliannol wrth benderfynu ar bobl ifanc o darddiad ethnig. Rwy'n cael ymdeimlad o foddhad wrth wasanaethu'r gymuned leol ac wrth ddyfarnu. Mae'n helpu i sicrhau bod pobl yn y gymdeithas yn cael eu trin yn deg am y ffordd maent yn byw."

Geoff Pinney - rheolwr labordy

"Mae wedi dysgu llawer iawn i mi. Rwy'n cael ystyried amrywiaeth o bobl a digwyddiadau nad wyf yn dod ar eu traws fel arfer. Mae pawb yn dod â chyfres wahanol o broblemau i'r llys, ac mae'n rhaid i chi gadw llygad ar yr agweddau dynol y tu ôl i'r ymddygiad troseddol."

Yusuf Patel - swyddog gweinyddol

"Gall fod yn heriol iawn, ond yn werthfawr. Mae synnwyr cyffredin da, sgiliau cymryd nodiadau da a chof da yn rhinweddau sy'n ddefnyddiol hefyd. Gall unrhyw un cymwys fod yn ynad."

Jenny Kerr - trefnydd cynadleddau hunangyflogedig

"Rwyf bellach yn eistedd ar y fainc ieuenctid yn ogystal â'r fainc oedolion ac mae gwneud y gwaith ieuenctid yn anhygoel o werthfawr. Rwy'n teimlo y gallwn wneud gwahaniaeth go iawn. Fel ynad rydych yn cymysgu â phobl debyg ac nid oes angen cefndir cyfreithiol arnoch - dim ond llawer o synnwyr cyffredin."

Manjit Singh Buttar - rheolwr gorsaf grŵp

"Roedd dod yn ynad yn ffordd i mi gynrychioli'r gymuned Sikh a rhoi rhywbeth yn ôl i'r wlad gyfan. Mae fy nghyflogwr wedi bod yn gefnogol iawn. Bob blwyddyn rwy'n cael 18 diwrnod llawn â thâl i eistedd yn y llys ac mae fy rheolwr yn hyblyg iawn. Yn y gwaith rwy'n rheoli pobl ac rwyf hefyd yn fentor yn y gwaith ac ar gyfer ynadon eraill. Felly mae'r ddwy rôl yn ategu ei gilydd yn dda."

Diana Chitty - partner mewn cwmni cyfreithwyr

"Rwy'n fam sy'n gweithio felly mae gennyf deulu, y swydd a'r ynadaeth i ddelio â nhw. Rhaid i mi jyglo fy amserlen ychydig. Ond mae'r uwch bartneriaid yn cydnabod ei bod hi'n werth chweil i mi wneud hynny, ar yr amod fy mod yn gwneud fy ngwaith. Rwyf hefyd yn mwynhau gwasanaethu'n fawr - mae'n anhygoel o werthfawr a diddorol ac rwy'n teimlo ei fod yn bwysig. Dyma'r peth pwysicaf rwy'n ei wneud ar ôl gofalu am fy mhlant."

Additional links

Muck In4Life

O glirio pyllau i blannu coed – gallwch ddod o hyd i brosiectau gwirfoddoli cadwraeth i’r teulu i gyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU