Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

A allwch fod yn ynad?

Cyn i chi wneud cais i fod yn ynad, bydd angen i chi gadarnhau eich bod yn addas ar gyfer y rôl. Bydd angen i chi ymrwymo amser ac ni all pawb wasanaethu fel ynad. Mynnwch wybod a oes gennych yr hyn sydd ei angen.

Eich cefndir

Beth mae ynadon yn ei wneud

Gwyliwch fideo am ddyletswyddau ynad

Mae ynadon yn bobl o bob galwedigaeth a chefndir.

Nid oes angen cymwysterau ffurfiol na hyfforddiant cyfreithiol blaenorol arnoch i fod yn ynad.

Byddwch yn cael hyfforddiant llawn ar gyfer y rôl, a bydd cynghorydd cyfreithiol yn y llys yn eich helpu gyda chwestiynau am y gyfraith.

Mae'n bwysicach y gallwch ddangos bod gennych y rhinweddau personol cywir. Os gallwch wrando ar bob ochr o ddadl a dod i benderfyniad teg, yna dylech ystyried bod yn ynad.

Mae ynadon yn bobl o bob galwedigaeth a chânt eu penodi waeth beth fo'u rhyw neu eu cefndir.

Gofynion o ran oedran i fod yn ynad

Rhaid i chi fod yn hŷn na 18 oed ac yn iau na 65 oed os ydych am fod yn ynad.

Rhaid i ynadon ymddeol yn 70 oed, ac fel arfer disgwylir iddynt wasanaethu am o leiaf bum mlynedd.

Cymeriad da

Rhaid i ynadon fod yn onest ac yn deg, a rhaid bod pobl eraill yn ymddiried ynddynt ac yn eu parchu.

Mae'n annhebygol y cewch eich penodi'n ynad os ydych wedi eich dyfarnu'n euog o drosedd ddifrifol neu nifer o fân droseddau. Mae hefyd yn annhebygol os ydych yn fethdalwr.

Mae ynadon yn delio â throseddau moduro, felly efallai na chewch eich derbyn os ydych wedi cael eich gwahardd o yrru yn ystod y pump i ddeg mlynedd diwethaf.

'Gwrthdaro buddiannau' galwedigaethol

Ni allwch fod yn ynad os ydych yn gweithio mewn nifer fach o swyddi lle gellid bod achos o wrthdaro buddiannau. Er enghraifft, ni allwch fod yn ynad os ydych yn swyddog yr heddlu, gan fod yr heddlu yn aml yn rhoi tystiolaeth yn erbyn troseddwyr yn y llys.

Eich iechyd

Mae ynadon yn croesawu ceisiadau gan bobl ag anableddau. Fodd bynnag, efallai na fyddwch yn gallu gwasanaethu pe byddai eich iechyd yn eich atal rhag cyflawni dyletswyddau'r rôl.

Rhaid i'ch clyw fod yn ddigon da, gyda neu heb gymorth clyw, i wrando achos.

Hefyd, rhaid i chi allu eistedd a chanolbwyntio am gyfnodau hir.

Ymrwymiad amser

Ni chaiff ynadon eu talu, ond mae llawer o gyflogwyr yn caniatáu amser i ffwrdd â thâl

Mae angen i chi allu ymrwymo i eistedd yn y llys am o leiaf 13 diwrnod, neu 26 hanner diwrnod y flwyddyn.

Trafodwch gyda’ch cyflogwr sut y byddwch chi’n cydbwyso eich dyletswyddau gwaith ac ynadon. Rhaid i’ch cyflogwr, yn ôl y gyfraith, ganiatáu amser i ffwrdd i chi wasanaethu fel ynad. Byddwch yn cael eich rota (amserlen) ddigon ymlaen llaw, fel y gallwch roi digon o rybudd i’ch cyflogwr o’r adegau pan fyddwch yn y llys.

Bydd angen i chi gytuno â'ch cyflogwr sut y byddwch yn rheoli unrhyw amser ychwanegol i ffwrdd o'r gwaith y bydd ei angen arnoch.

Ni chaiff ynadon eu talu, ond mae llawer o gyflogwyr yn caniatáu amser i ffwrdd â thâl. Os byddwch yn colli allan ar gyflog, gallwch hawlio lwfans ar gyfradd benodol. Gallwch hefyd hawlio lwfansau ar gyfer teithio a 'chynhaliaeth' (bwyd a diod).

Hyfforddiant i wasanaethu fel ynad

Byddwch yn cael hyfforddiant i roi'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i wasanaethu fel ynad. Byddwch yn hyfforddi mewn grŵp gydag ynadon newydd eraill a gaiff eu recriwtio ar yr un pryd.

Bydd yr hyfforddiant pan fyddwch yn dechrau'n gyfanswm o tua 18 awr, neu dri diwrnod, yn ogystal â rhai cyfarfodydd. Gallai'r hyfforddiant gael ei gynnal dros benwythnos hir, tri diwrnod yn ystod yr wythnos, neu mewn sesiynau byr gyda'r nos dros ychydig wythnosau. Bydd hyfforddiant a chyfarfodydd fel arfer yn cael eu cynnal y tu allan i oriau gwaith.

Yn ogystal â gweld y llys mewn sesiwn, byddwch yn ymweld â charchar, sefydliad troseddwyr ifanc a'r gwasanaeth prawf.

Rhinweddau personol

I fod yn ynad, bydd angen i chi allu dangos:

  • bod gennych gymeriad da, a bod pobl eraill yn ymddiried ynoch ac yn eich parchu
  • y gallwch ddeall dogfennau, dilyn tystiolaeth a chyfathrebu'n effeithiol
  • eich bod yn cynnal y gyfraith a'ch bod yn ymwybodol o faterion cymdeithasol
  • eich bod yn aeddfed, yn deall pobl a bod gennych ymdeimlad o degwch
  • y gallwch feddwl mewn ffordd resymegol, pwyso a mesur dadleuon a chyrraedd penderfyniad teg
  • eich bod yn ddibynadwy ac yn ymrwymedig i wasanaethu'r gymuned

Gwneud cais i fod yn ynad

Os ydych o'r farn y gallech wasanaethu fel ynad, darllenwch 'Gwneud cais i fod yn ynad' am fwy o wybodaeth a'r ffurflenni y bydd eu hangen arnoch.

Additional links

Muck In4Life

O glirio pyllau i blannu coed – gallwch ddod o hyd i brosiectau gwirfoddoli cadwraeth i’r teulu i gyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU