Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwirfoddoli i weithio gyda phobl dan gadwad, carcharorion a throseddwyr

Gallwch wirfoddoli i helpu carcharorion, pobl yn nalfa'r heddlu a phobl ar brawf. Gallwch hefyd helpu troseddwyr ifanc i beidio â throseddu a pheidio â mynd i drafferth. Mynnwch wybod am fathau gwahanol o gyfleoedd gwirfoddoli a sut i wneud cais.

Pwy all wirfoddoli?

Fel arfer mae angen i chi fod dros 18 oed i wneud cais i helpu pobl dan gadwad, carcharorion a throseddwyr. Ar gyfer rhai swyddi, efallai y bydd angen i chi gael gwiriad diogelwch neu wiriad cofnodion troseddol.

Os oes gennych gofnod troseddol, efallai y gallech wirfoddoli o hyd. Efallai y bydd eich profiadau chi yn ddefnyddiol i eraill.

Gwirfoddoli i ymweld â phobl yn nalfa'r heddlu

Gallwch wirfoddoli i gadarnhau bod pobl yn nalfa'r heddlu yn cael eu cadw dan amodau cywir ac yn cael eu trin yn deg.

Gallwch gael mwy o wybodaeth am ymweld â phobl yn y ddalfa ar wefan Cymdeithas Ymweliadau Annibynnol â'r Ddalfa.

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn ymwelydd, cysylltwch â'ch awdurdod heddlu lleol.

Helpu pobl ifanc a phobl sy'n agored i niwed sy'n cael eu holi gan yr heddlu

Gallech helpu person ifanc sy'n cael ei holi gan yr heddlu

'Oedolyn priodol' yw rhywun sy'n gweithredu 'ar ran' rhiant neu warchodwr pan fo person ifanc yn cael ei gyfweld gan yr heddlu. Bydd yr oedolyn hwn yn sicrhau y caiff y person ifanc ei drin mewn modd priodol, ac yn ei helpu i gyfathrebu â'r heddlu.

Mae oedolion priodol hefyd yn helpu pobl sy'n agored i niwed, megis pobl ag anabledd dysgu neu gyflwr iechyd meddwl.

I gael gwybod sut i wirfoddoli, cysylltwch â'ch tîm troseddau ieuenctid lleol neu'r Rhwydwaith Cenedlaethol o Oedolion Priodol.

Bydd angen i chi gael gwiriad diogelwch a gwiriad cofnodion troseddol a hyfforddiant i gyflawni'r rôl.

Gwirfoddoli i ymweld â charcharorion

Mae rhai carchardai'n rhedeg cynlluniau lle mae gwirfoddolwyr yn ymweld â throseddwyr, yn gwrando arnynt ac yn eu helpu i ailafael yn eu bywydau.

Efallai y byddwch hefyd am helpu carcharorion sy'n dod at ddiwedd eu cyfnod yn y carchar, a'u helpu i ddychwelyd i'r gymdeithas.

Mae Cymdeithas Genedlaethol Ymwelwyr Swyddogol â Charchardai yn sefydliad annibynnol y gallwch gysylltu ag ef os oes gennych ddiddordeb mewn ymweld â throseddwyr.

Gallwch hefyd siarad â'ch carchar lleol am wirfoddoli.

Gwirfoddoli i gefnogi teuluoedd carcharorion

Gallwch wirfoddoli i gefnogi teuluoedd carcharorion yn ystod ymweliadau â charchar, fel eu bod yn peri llai o straen ac yn fwy cadarnhaol.

Gallai hyn gynnwys:

  • helpu teuluoedd yng nghanolfannau ymwelwyr y carchar
  • gofalu am blant carcharorion yn y man chwarae
  • gweini bwyd a diod i deuluoedd

Os ydych am wirfoddoli, siaradwch â chydgysylltydd y sector gwirfoddol neu reolwr y ganolfan ymwelwyr yn y carchar lleol. Gallwch hefyd gysylltu ag elusennau a grwpiau lleol yn y dolenni isod.

Gwirfoddoli i gadarnhau safonau carchardai a chanolfannau i fewnfudwyr

Mae gan bob carchar a chanolfan symud o’r wlad i fewnfudwyr 'Fwrdd Monitro Annibynnol'.

Drwy wirfoddoli i fod yn aelod o'r bwrdd gallwch helpu carcharorion drwy:

  • sicrhau eu bod yn cael eu trin yn iawn
  • cadarnhau safonau cyfleusterau carchar

Rhaid i chi allu rhoi dau neu dri diwrnod y mis i weithio i'ch Bwrdd Monitro Annibynnol lleol. Rhaid i'ch cyflogwyr roi amser rhesymol i ffwrdd o'r gwaith i chi gyflawni eich dyletswyddau. Bydd yn rhaid i chi gael gwiriad diogelwch os byddwch yn dod yn aelod. Nid yw unrhyw gymwysterau arbennigol yn ofynnol a bydd hyfforddiant llawn yn cael ei ddarparu ar lefel lleol a chenedlaethol.

Bydd angen i chi lenwi ffurflen gais. I ofyn am ffurflen a chael gwybod am swyddi gwag yn eich ardal chi, e-bostiwch:

imb@homeoffice.gsi.gov.uk

Mentora troseddwyr ar brawf a throseddwyr ifanc

Gallwch wirfoddoli i gynghori a chefnogi ('mentora') troseddwr ar brawf neu berson ifanc sydd wedi torri'r gyfraith.

Efallai y gofynnir i chi helpu troseddwr i:

  • gofrestru gyda meddyg teulu
  • cadw apwyntiadau gwaith, os ydynt yn gwneud gwaith cymunedol fel rhan o'u dedfryd
  • gwneud cais am fudd-daliadau, cyrsiau hyfforddiant a swyddi
  • darllen ac ysgrifennu, neu fynd yn ôl i addysg

I gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â'ch ymddiriedolaeth brawf leol. Mae ymddiriedolaethau prawf yn aml yn gweithio gydag elusennau lleol a gallant roi gwybod i chi am gyfleoedd i wirfoddoli.

Gallwch hefyd ofyn i'ch ymddiriedolaeth brawf ynghylch gweithio gyda 'chylchoedd cefnogaeth ac atebolrwydd' lleol, sy'n helpu i atal cyn-droseddwyr rhyw rhag troseddu eto.

Os hoffech gefnogi troseddwyr ifanc, cysylltwch â'ch tîm troseddau ieuenctid lleol.

Helpu troseddwyr ifanc i beidio â mynd i drafferth

Os ydych am helpu troseddwyr ifanc i beidio â mynd i drafferth, gallech ymuno â phanel troseddwyr ifanc. Mae'r rhain yn delio â throseddwyr ifanc sydd wedi'u cyfeirio atynt gan y llysoedd.

Gall y panel drefnu bod y troseddwr ifanc:

  • yn ymddiheuro i'r dioddefwr
  • yn cyflawni gwaith yn y gymuned - megis tacluso ystâd
  • yn cael help gyda phroblemau fel camddefnyddio alcohol neu gyffuriau

Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â phanel troseddwyr ifanc, cysylltwch â'ch tîm troseddau ieuenctid lleol. Mae angen i chi allu neilltuo tua thair awr bob pythefnos i'r panel.

Additional links

Muck In4Life

O glirio pyllau i blannu coed – gallwch ddod o hyd i brosiectau gwirfoddoli cadwraeth i’r teulu i gyd

Allweddumynediad llywodraeth y DU