Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Arian ychwanegol ar ben eich incwm yw Credyd Pensiwn.
Gallwch ei gael hyd yn oed os oes gennych chi rywfaint o gynilion, neu os oes gennych chi ail bensiwn neu’ch cartref eich hun.
Mae dwy ran i Gredyd Pensiwn: Credyd Gwarant a Chredyd Cynilion
Felly, os ydych chi wedi cyrraedd yr oed cymhwyso, mae’n bosib y cewch Gredyd Gwarant. Os ydych chi’n 65 mlwydd oed neu’n hŷn, efallai y cewch Gredyd Cynilion ar ei ben ei hun, neu gyda Chredyd Gwarant.
Y dyfarniad Credyd Pensiwn arferol ar gyfer y rheini sy’n hawlio ar hyn o bryd yw oddeutu £55 yr wythnos.
Er 6 Ebrill 2010, mae oedran Pensiwn y Wladwriaeth ar gyfer menywod wedi dechrau codi’n raddol i 65. Bydd yr oedran y gall dynion a menywod gael Credyd Pensiwn yn codi yn unol â hyn.
Gallai’r oedran y byddwch yn cael Pensiwn y Wladwriaeth fod yn newid. Gweler ‘Cyfrifo eich oedran Pensiwn y Wladwriaeth' isod i gael gwybod a fydd hyn yn effeithio arnoch chi.
Mae’n bosib y byddwch yn gallu cael Credyd Pensiwn os ydych chi wedi cyrraedd yr oed cymhwyso a bod eich incwm yn llai na:
Os ydych chi’n 65 mlwydd oed neu’n hŷn, mae’n bosib y cewch Bensiwn Credyd o hyd, hyd yn oed os cewch incwm sydd hyd at:
Gallai’r symiau hyn fod yn fwy os ydych chi’n ofalwr, os oes gennych chi anabledd difrifol, neu os oes gennych chi gostau ychwanegol yn ymwneud â’r cartref, megis morgais. Dylech gysylltu â’r Gwasanaeth Pensiwn i weld a allwch chi gael Credyd Pensiwn.
Bydd y £10,000 cyntaf y byddwch yn ei gynilo yn cael ei anwybyddu wrth geisio penderfynu a allwch chi gael Credyd Pensiwn. Ffoniwch y Gwasanaeth Pensiwn ar 0800 731 4811 i weld a ydych chi’n gymwys.
Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.00 am a 5.00 pm. Os oes gennych chi nam ar eich clyw neu’ch lleferydd, ac am ddefnyddio ffôn testun, ffoniwch 0800 169 0133.
Bydd galwadau ffôn i’r rhifau hyn am ddim o linellau tir BT. Efallai y bydd rhaid i chi dalu os byddwch chi'n defnyddio cwmni ffôn arall, neu os byddwch yn ffonio o ffôn symudol neu o dramor.
Dyma sut mae pobl eraill yn teimlo ynghylch cael Credyd Pensiwn.
"Mae gen i dri o wyrion sy’n werth y byd i gyd yn grwn. Mae cael Credyd Pensiwn yn golygu, ar ôl i mi dalu’r biliau wrth gwrs, y gallaf eu sbwylio – boed hynny ar eu penblwyddi neu wrth eu tretio ambell waith. Fi yw eu nain nhw wedi’r cyfan!"
Margaret, 81
"Dydw i erioed wedi gorfod poeni am beth sydd o fy mlaen i. Ond ar ôl defnyddio ychydig o’n cynilion i drwsio to a oedd yn gollwng, dechreuais feddwl – beth os byddai rhywbeth arall yn mynd o'i le? Dwi’n teimlo fod gen i rywfaint o dawelwch meddwl eto ers i mi gael gwybod am Gredyd Pensiwn. Rydym yn cael £30 yn ychwanegol bob wythnos, a dydw i ddim yn poeni am bethau fel y peiriant golchi yn torri."
Bill, 76
Os ydych chi’n cael Credyd Pensiwn, gallech chi fod yn gymwys i gael Budd-dal Tai a Budd-dal Treth Cyngor hefyd.
Byddwch chi hefyd yn gymwys i gael Taliadau Tywydd Oer. Ar gyfer Gaeaf 2010/11, mae hyn yn golygu taliad o £25 ar gyfer pob cyfnod o dywydd oer. Gallwch gael gwybod rhagor am Daliadau Tywydd Oer drwy ddilyn y ddolen isod.
I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â Chredyd Pensiwn, dilynwch y ddolen isod.