Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Newidiadau i ddisgiau treth chwe mis, ad-daliadau a cherbydau ail law a fewnforiwyd

Mae cyfraddau blwyddyn gyntaf treth cerbyd gwahanol wedi cael eu cyflwyno ar gyfer ceir sy’n cael eu cofrestru o 1 Ebrill 2010 ymlaen. Ar yr un pryd, mae newidiadau wedi cael eu gwneud i’r rheolau ynglŷn â disgiau treth chwe mis ac ad-daliadau.
Hefyd ceir cyfraddau treth cerbyd gwahanol ar gyfer rhai cerbydau ail law a fewnforiwyd.

Disgiau treth chwe mis

Ni fydd cerbydau sy’n cael eu cofrestru am y tro cyntaf ym mandiau A i D yn gallu cael disg treth chwe mis wrth gofrestru am y tro cyntaf.

Mae hyn oherwydd dim ond lle mae’r gyfradd treth cerbyd yn £50 neu’n uwch y ceir disgiau treth chwe mis. Bydd treth cerbyd ym mandiau A i D am ddim wrth gofrestru cerbyd am y tro cyntaf o 1 Ebrill 2010 ymlaen.

Yn ogystal, gan ddechrau ar 1 Ebrill 2010, ni fydd disgiau treth chwe mis ar gael i gerbydau sy'n cael eu cofrestru ym mandiau H i M, oherwydd bod cyfradd blwyddyn gyntaf y cerbydau hyn yn uwch na’r gyfradd arferol safonol. Os oes gennych chi gerbyd yn y bandiau hyn, gallwch gael disg treth chwe mis pan fyddwch yn ail drethu eich cerbyd.

Hawlio ad-daliad ar eich treth cerbyd

Os oes arnoch eisiau ad-daliad ar eich disg treth gyntaf, caiff ei gyfrifo gan ddefnyddio cyfradd y flwyddyn gyntaf os yw’r cerbyd wedi cael:

  • ei ddwyn
  • ei sgrapio
  • ei symud i ddosbarth treth lle nad oes angen talu treth cerbyd arno, megis y dosbarth treth anabl

Os ydych chi’n ceisio hawlio ad-daliad ar eich disg treth gyntaf, caiff ei gyfrifo gan ddefnyddio’r gyfradd safonol os yw’r cerbyd wedi cael:

  • ei werthu
  • ei allforio
  • ei gymryd oddi ar y ffordd

Caiff ad-daliadau eu cyfrifo gan ddefnyddio'r gyfradd safonol ar gyfer pob disg treth ar ôl y ddisg treth gyntaf, ym mhob sefyllfa.

Cerbydau ail law a fewnforiwyd

Os ydych chi’n mewnforio cerbyd i’r DU sydd wedi cael ei gofrestru dramor yn flaenorol, a'ch bod yn ei gofrestru yma, mae'n bosib y bydd rhaid i chi dalu cyfradd y flwyddyn gyntaf.

Os cafodd y cerbyd ei gofrestru dramor am lai na chwe mis, byddwch chi’n talu cyfradd y flwyddyn gyntaf pan gaiff ei gofrestru yn y DU. Bydd rhaid i chi dalu cyfradd y flwyddyn gyntaf hefyd os yw’r cerbyd wedi teithio llai na 6,000 cilometr (3,728 milltir) pan gaiff ei gofrestru am y tro cyntaf yn y DU.

Os cafodd y cerbyd ei gofrestru dramor am fwy na chwe mis, ac os yw’r cerbyd wedi teithio mwy na 6,000 cilometr (3,728 milltir) byddwch chi’n talu’r dreth cerbyd ar y gyfradd safonol.

Additional links

Wedi newid eich cyfeiriad?

Gallwch ddiweddaru manylion eich trwydded gyrru gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel y DVLA

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Allweddumynediad llywodraeth y DU