Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Sut i drethu lori, bws a cherbydau eraill gyda ffurflen atgoffa

Oddeutu tair wythnos cyn i'ch disg treth ddod i ben, dylech dderbyn ‘Cais am drwydded cerbyd/hysbysiad oddi-ar-y-ffordd statudol’ (ffurflen atgoffa V11) neu 'Gais am drwydded yrru HGV/datganiad HOS’ (ffurflen atgoffa V85/1) gan DVLA.

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen atgoffa i adnewyddu eich treth ar-lein, yn bersonol neu dros y ffôn.

Pryd i wneud cais

Os yw eich treth yn dod i ben ddiwedd y mis, gallwch ei hadnewyddu o’r 15fed o’r mis ymlaen.

Trethu ar-lein neu dros y ffôn

Defnyddiwch y cyfeirnod ar eich ffurflen atgoffa V11, V85/1 neu ar eich Tystysgrif Cofrestru.

Trethu gyda ffurflen atgoffa V11 yn un o ganghennau Swyddfa'r Post®

Defnyddiwch y ffurflen atgoffa mewn unrhyw swyddfa bost sy’n rhoi disgiau treth neu drwy'r post i'r cyfeiriad a ddangosir ar y ffurflen atgoffa. Dychwelir y ffurflen atgoffa atoch pan gewch chi'r ddisg treth.

Dylech fynd â’r canlynol gyda chi neu eu hanfon:

  • y ffurflen atgoffa V11 wedi’i llenwi
  • tystysgrif yswiriant ddilys neu nodyn yswiriant dros dro
  • tystysgrif prawf MOT, cerbydau cludo teithwyr (PSV) neu gerbydau nwyddau dilys
  • y taliad a ddangosir ar y ffurflen atgoffa

Trethu gyda ffurflen atgoffa HGV V85/1 mewn swyddfa DVLA leol

Dylech fynd â’r canlynol gyda chi neu eu hanfon:

  • y ffurflen atgoffa V85/1 wedi’i llenwi
  • tystysgrif Cofrestru – os nad yw ar gael, bydd angen i chi esbonio pam
  • tystysgrif yswiriant ddilys neu nodyn yswiriant dros dro
  • tystysgrif prawf MOT, cerbydau cludo teithwyr (PSV) neu gerbydau nwyddau dilys
  • tystysgrif platio – os nad yw'r Tystysgrif Cofrestru ar gael neu os yw'r cerbyd wedi ei ail-blatio ers rhoddwyd y ddisg treth ddiwethaf
  • tystysgrif llygredd is ddilys - os oes ei hangen
  • y taliad a ddangosir ar y ffurflen atgoffa

Newid enw neu gyfeiriad

Ysgrifennwch y manylion newydd yn adran chwech eich Tystysgrif Cofrestru, ei llofnodi a’i chynnwys gyda'ch cais.

Additional links

Wedi newid eich cyfeiriad?

Gallwch ddiweddaru manylion eich trwydded gyrru gan ddefnyddio gwasanaeth ar-lein diogel y DVLA

Derbyn hysbysiadau atgoffa Rheolau’r Ffordd Fawr

Derbyn hysbysiadau atgoffa ynghylch Rheolau’r Ffordd Fawr drwy ei ddilyn ar Trydar a Facebook

Allweddumynediad llywodraeth y DU