Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Galw cerbydau yn ôl a hysbysiadau diogelwch

Os caiff diffyg ei ganfod ar gerbyd ar ôl ei weithgynhyrchu, gallai gael ei alw yn ôl. Er mwyn cael gwybod a yw eich cerbyd yn cael ei alw yn ôl, defnyddiwch gronfa ddata galw yn ôl yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA).

Y Codau Ymarfer

Mae'r Codau Ymarfer yn nodi'r canllawiau a'r gweithdrefnau ar gyfer galw yn ôl gerbydau a chydrannau sydd â diffygion yn ymwneud â diogelwch. Gallai'r diffygion fod yn nodwedd o ddyluniad neu adeiledd y cerbyd. Mae'r diffyg yn debygol o achosi perygl sylweddol o anaf i'r gyrrwr, teithwyr yn y cerbyd neu ddefnyddwyr eraill y ffyrdd.

Erbyn hyn mae dau God sy'n cwmpasu'r canlynol:

  • Cod Ymarfer ar ddiffygion o ran diogelwch cerbyd sy'n cynnwys cydrannau.
  • Cod Ymarfer ar gamau sy'n ymwneud â galw yn ôl deiars, olwynion a rhannau cysylltiedig yn yr ôl-farchnad

Cyfrifoldeb y gweithgynhyrchydd

Cyfrifoldeb y gweithgynhyrchydd yw rhoi gwybod i'r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) pan fydd tystiolaeth sylweddol o ddiffyg diogelwch, y mae angen gweithredu arno, wedi'i chadarnhau. Hefyd, gall VOSA drosglwyddo tystiolaeth i'r gweithgynhyrchydd o ganlyniad i ymchwiliadau i ddamweiniau a diffygion o ran diogelwch. Byddai ffynonellau eraill wedi dod â hyn i sylw VOSA.

Beth i'w wneud os ydych yn credu bod gennych ddiffyg o ran diogelwch

Os ydych yn credu bod gan eich cerbyd neu ran berthnasol ohono ddiffyg o ran diogelwch, gallwch hysbysu VOSA. Bydd yn ystyried os bydd yn rhaid i'r gweithgynhyrchydd gymryd unrhyw gamau er mwyn cywiro'r diffyg.

Pethau i'w hystyried cyn hysbysu am ddiffyg o ran diogelwch

Mae cangen diogelwch cerbydau VOSA yn dilyn tri chod ymarfer yn ymwneud â chynhyrchion gwahanol. Mae'r codau hyn yn nodi'r camau y mae'n rhaid i weithgynhyrchydd/cyflenwr eu cymryd pan amheuir bod gan eu cynhyrchion ddiffyg difrifol o ran diogelwch.

Yn ôl y codau, diffinnir diffyg diogelwch yn:

Nodwedd o'r dyluniad neu'r adeiledd sy'n debygol o achosi risg sylweddol o anaf personol neu farwolaeth.

Mae'n rhaid bod tystiolaeth ar gael i ddangos bod diffyg o ran diogelwch yn bodoli fel y'i diffinnir uchod ac mae'n rhaid i'r diffyg fod yn gyffredin i nifer o gydrannau, cerbydau neu gynhyrchion.

Nid ystyrir y canlynol yn ddiffygion:

  • diffygion y gellir eu nodi yn ystod gwaith cynnal a chadw/gwasanaeth rheolaidd ac nad ydynt wedi cael eu trwsio
  • diffygion sy'n rhoi rhybudd ymlaen llaw sef goleuadau rhybudd, newidiadau amlwg i'r dull gyrru a synau anarferol

Gallai hyn fod yn broblem sy'n digwydd yn annisgwyl.

Noder na all VOSA helpu mewn unrhyw hawliad i ad-dalu costau trwsio neu unrhyw fath arall o iawndal.

O ran problemau sy'n ymwneud â cherbydau a brynwyd yn ddiweddar, gwaith trwsio diffygiol neu broblemau o ran gwydnwch, cysylltwch â'ch swyddfa safonau masnachu leol, swyddfa diogelu defnyddwyr neu'ch canolfan cyngor ar bopeth.

Cyflwyno adroddiad ar ddiffyg o ran diogelwch

Rhagor o wybodaeth am ddiffygion o ran diogelwch.

Os ydych yn credu bod gan eich cerbyd ddiffyg difrifol o ran diogelwch o hyd ar ôl ystyried y wybodaeth uchod, cwblhewch adroddiad ar ddiffyg o ran diogelwch mewn cerbyd drwy ddefnyddio'r ddolen isod.

Bydd VOSA yn asesu eich sefyllfa ac yn penderfynu a ellir mynd â'r mater yn ei flaen.

Cerbydau na allwch eu defnyddio ar gyfer eich prawf gyrru ymarferol

Mae nifer o gerbydau na ellir eu defnyddio mewn ar gyfer gyrru ymarferol am resymau diogelwch. Mae'r cerbydau hyn naill ai wedi'u galw yn ôl neu mae hysbysiad diogelwch wedi'i gyflwyno, am fod diffyg wedi'i nodi y mae angen i'r gweithgynhyrchydd neu'r gwerthwr ei gywiro.

Os hoffech ddefnyddio eich cerbyd ar gyfer eich prawf gyrru ymarferol, mynnwch wybod a yw hyn yn effeithio arnoch chi.

Defnyddio'r gronfa ddata galw cerbydau yn ôl

Os hoffech gael gwybod a oes hysbysiad galw yn ôl wedi'i gyflwyno ar gyfer eich cerbyd, defnyddiwch gronfa ddata ar-lein VOSA.

Bydd angen i chi wybod:

  • gweithgynhyrchydd eich cerbyd
  • model eich cerbyd
  • dyddiad gweithgynhyrchu eich cerbyd

Er mwyn rhestru'r holl gerbydau sydd wedi'u galw yn ôl gan weithgynhyrchydd yn ystod dyddiad penodol, gadewch flwch y model yn wag.

Allweddumynediad llywodraeth y DU