Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ffenestri tywyll ar gerbydau - y rheolau

Os oes gennych chi gerbyd sydd â ffenestri blaen tywyll iawn, rydych chi mewn perygl o gael eich erlyn gan yr heddlu. Y ffenestri y mae’n rhaid iddynt gael eu tywyllu’n gywir yw’r ffenestr flaen a’r ddwy ffenestr o bob ochr i'r gyrrwr.

Y ffenestri pwysig

Mae’r gyfraith yn mynnu bod ffenestri’r cerbyd yn gadael o leiaf:

  • 75 y cant o olau drwy’r ffenestr flaen
  • 70 y cant o olau drwy’r ffenestri ochr blaen

Yn y rhan fwyaf o gerbydau modern, tywyllir ychydig ar y ffenestri wrth iddynt gael eu gwneud. Os ydych chi’n eu tywyllu'n fwy, y canlyniad tebygol yw na fydd y ffenestri’n bodloni’r gofynion cyfreithiol.

Nid yw’r rheolau ar ffenestri tywyll yn berthnasol ar gyfer y ffenestr ôl na ffenestri’r teithwyr yn y cefn.

Sicrhewch y gallwch weld lle rydych chi’n mynd

Bydd ffenestri tywyll yn lleihau eich gallu i weld y bobl mwy bregus sy’n defnyddio’r ffordd, megis cerddwyr a beicwyr, yn enwedig pan fydd hi’n dywyll y tu allan. Mae problemau gwelededd yn arbennig o ddrwg wrth i’r haul wawrio neu fachlud, a hefyd pan fydd tywydd gwael yn cyrraedd yn sydyn a lefelau’r golau yn newid yn gyflym.

Y cosbau ar gyfer bod â ffenestri tywyll anghyfreithlon

Mae’r heddlu ac archwilwyr cerbyd o’r Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr yn defnyddio offer mesur golau i fesur pa mor dywyll yw ffenestri.

Os ydych chi’n gyrru cerbyd sydd â ffenestri blaen tywyll iawn, mae’n bosib i gamau gorfodi gael eu cymryd yn eich erbyn. Gallai hyn fod yn hysbysiad gwahardd, sy’n eich atal rhag defnyddio eich cerbyd ar y ffordd nes i chi newid y ffenestri tywyll anghyfreithlon. Os cewch chi eich dal gan yr heddlu, mae hefyd yn bosib i chi gael hysbysiad cosb neu wŷs llys.

Gwerthu eich cerbyd

Mae gwerthu cerbyd sydd â ffenestri blaen tywyll iawn yn drosedd. Gallai’r heddlu neu safonau masnach eich erlyn chi am wneud hynny.

Allweddumynediad llywodraeth y DU