Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 12 Hydref 2012

Cofrestru cerbyd clasurol sydd wedi’i ailadeiladu

Mae’n rhaid i gerbyd clasurol sydd wedi'i ailadeiladu fodloni meini prawf penodol cyn y gellir ei gofrestru. Bydd eich swyddfa DVLA leol yn rhoi rhif cofrestru priodol i chi ar sail y dystiolaeth a ddarperir gennych. Yma cewch wybod sut mae cofrestru a sut mae cael rhif cofrestru sy’n gysylltiedig ag oedran y cerbyd.

Cerbydau clasurol sydd wedi’u hailadeiladu – pryd y gellir eu cofrestru

Bwriad y categori clasurol sydd wedi’u hailadeiladu yw cefnogi’r adferiad o gerbydau clasurol heb eu cofrestru sydd ddim yn gerbydau copi neu atgynhyrchiad.

Mae’n rhaid i gerbydau sydd wedi’u hail-wneud gael eu hadeiladu o gydrannau dilys o’r cyfnod, pob un ohonynt dros 25 oed, a’u bod yn dilyn yr un manylebau. Mae’n rhaid i’r clwb cerbydwyr brwd priodol ar gyfer y gwneuthuriad gadarnhau'n ysgrifenedig, ar ôl archwilio'r cerbyd, ei fod yn adlewyrchiad teg o'r gwneuthuriad hwnnw. Mae’n rhaid i’r cadarnhad ddweud bod y cerbyd yn bodloni’r meini prawf uchod ac yn cefnogi’r cais a gyflwynir i'r swyddfa DVLA leol. Bydd rhif cofrestru sy’n gysylltiedig ag oedran y cerbyd yn cael ei roi i'r cerbyd, ar sail y gydran ddiweddaraf a ddefnyddiwyd.

Cerbydau sy'n cynnwys cydrannau newydd a rhai ail-law

Bydd rhif cofrestru ‘Q’ yn cael ei roi i gerbyd sydd wedi’i ailadeiladu drwy ddefnyddio cyfuniad o gydrannau newydd ac ail-law.

Os yw’r cerbyd yn cynnwys cyfuniad o gydrannau, bydd angen iddo gael un o’r canlynol, gan ddibynnu ar y math o gerbyd rydych chi’n ei gofrestru:

  • Tystysgrif Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA)
  • Tystysgrif Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl (SVA)
  • Tystysgrif Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl i Feiciau Modur (MSVA)

Cerbydau gyda Thystysgrif Dinistrio

Ni chaiff cerbydau â Thystysgrif Dinistrio byth ailymddangos fel cerbydau cyflawn ac ni cheir eu cofrestru dan y canllawiau hyn.

Rhifau Adnabod Cerbyd a rhifau cofrestru ‘Q’

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i bob cerbyd a ddefnyddir ar ffyrdd cyhoeddus fod â Rhif Adnabod Cerbyd (VIN) a rhif cofrestru. Yn yr erthygl isod cewch wybod rhagor am y VIN ac am rifau cofrestru ‘Q’, yn ogystal â sut mae cael rhai newydd.

Dogfennau y bydd eu hangen arnoch er mwyn cofrestru

Bydd pa ddogfennau y bydd eu hangen arnoch i gofrestru eich cerbyd yn dibynnu ar nifer o bethau, megis a oedd angen tystysgrif IVA ar y cerbyd.

Bydd angen i chi fynd â’r canlynol i’ch swyddfa DVLA leol:

  • ffurflen V55/5 – Cais am drwydded ar gyfer cerbyd modur ail-law a datganiad ar gyfer cofrestru
  • treth cerbyd cywir (lle bo’n briodol)
  • cadarnhad o ddilysrwydd y cerbyd gan y clwb perchnogion perthnasol
  • ffurflen V627/1 – Adroddiad arolygu cerbyd sydd wedi’i ailadeiladu (i'w gyflawni cyn yr archwiliad os oes angen)
  • tystysgrif IVA, SVA neu MSVA (os bydd angen)
  • tystysgrif MOT (os yw'r cerbyd dros 3 oed)
  • tystysgrif yswiriant
  • ffi cofrestru o £55 (os oes angen)
  • derbynebau swyddogol ar gyfer y cerbyd ac unrhyw gydrannau a ddefnyddiwyd wrth ei ailadeiladu
  • dogfennau sy’n cadarnhau eich enw a’ch cyfeiriad
  • tystysgrif cofrestru cerbyd (os defnyddir cerbyd cyflenwi)

I archebu unrhyw un o’r ffurflenni a restrir uchod, defnyddiwch wasanaeth archebu ffurflenni ar-lein DVLA. Os nad ydych yn sicr a oes angen i chi ddarparu dogfennau penodol ai peidio, ee tystysgrif IVA, SVA neu MSVA, cysylltwch â’ch swyddfa DVLA leol.

Eich cyfrifoldeb chi, fel ceidwad y cerbyd, yw gwneud yn siŵr bod y cerbyd yn cydymffurfio â Rheoliadau Cerbydau’r Ffordd (Gwneuthuriad a Defnydd) 1986 (fel y'u diwygiwyd) os yw'n cael ei ddefnyddio ar y ffordd.

I gael rhagor o wybodaeth am y rheoliadau hyn, cysylltwch â’r Adran Drafnidiaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU