Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n ailadeiladu cerbyd, bydd angen iddo fodloni meini prawf penodol cyn y gellir ei gofrestru. Bydd swyddfa leol yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn rhoi rhif cofrestru ‘Q’ neu’r rhif cofrestru gwreiddiol ar sail y dystiolaeth y byddwch chi’n ei darparu.
Er mwyn cadw rhif cofrestru gwreiddiol car neu fan ysgafn sydd wedi cael ei hailadeiladu, bydd angen i chi ddefnyddio un o’r canlynol:
Bydd gofyn bod gennych ddwy brif gydran arall o’r cerbyd gwreiddiol hefyd.
Gall y cydrannau hyn gynnwys unrhyw un o’r canlynol:
Os defnyddir siasi neu gorff ungragen ail-law, rhaid i'r car neu'r fan ysgafn basio prawf Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA) neu Gymeradwyaeth Cerbyd Sengl (SVA). Os bydd eich cerbyd yn pasio, caiff rif cofrestru â ‘Q’ yn llythyren flaen. Os bydd y cerbyd yn methu, ni ellir ei gofrestru.
Ni fydd modd i gerbyd cyflenwi â Thystysgrif Dinistrio gael ei ailgofrestru dan y rheolau ynghylch ailadeiladu.
Os hoffech chi gadw rhif cofrestru gwreiddiol eich beic modur, bydd angen i chi ddefnyddio ffrâm heb ei haddasu (gwreiddiol neu newydd). Bydd gofyn bod gennych ddwy brif gydran arall o’r cerbyd gwreiddiol hefyd.
Gall y cydrannau hyn gynnwys unrhyw rai o’r canlynol:
Os defnyddir ffrâm ail-law, bydd yn rhaid i’r cerbyd basio’r prawf Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl i Feiciau Modur (MSVA). Os bydd y beic modur yn pasio, caiff rif cofrestru â ‘Q’ yn llythyren flaen. Os bydd y beic modur yn methu, ni ellir ei gofrestru.
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i bob cerbyd a ddefnyddir ar ffyrdd cyhoeddus gael Rhif Adnabod Cerbyd (VIN) a rhif cofrestru. Yn yr erthygl ganlynol, cewch wybod mwy am y rhif adnabod cerbyd ac am rifau cofrestru, yn ogystal â sut mae cael rhai newydd.
Os bydd cerbydau cofrestredig yn cael rhifau cofrestru gwahanol, bydd angen iddynt basio Prawf Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA), cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl (SVA) neu gynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl i Feiciau Modur (MSVA). Bydd y math o brawf, a’i lefel, yn dibynnu ar y cerbyd.
Mae pa ddogfennau y bydd eu hangen arnoch i gofrestru eich cerbyd yn dibynnu ar nifer o bethau, megis a oedd angen i’r cerbyd gael prawf IVA. Bydd angen i chi fynd â’r canlynol i’ch swyddfa DVLA leol:
Eich cyfrifoldeb chi, fel ceidwad y cerbyd, yw gwneud yn siŵr bod y cerbyd yn cydymffurfio â Rheoliadau Cerbydau’r Ffordd (Gwneuthuriad a Defnydd) 1986 (fel y'u diwygiwyd) os yw'n cael ei ddefnyddio ar y ffordd.
I gael mwy o wybodaeth am y rheoliadau hyn, cysylltwch â’r Adran Drafnidiaeth.