Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae'r Cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl i Feiciau Modur (MSVA) yn galluogi cerbydau sydd â dwy a thair olwyn a rhai cerbydau bach sydd â phedair olwyn, sydd heb Gymeradwyaeth Math Cerbyd Cyfan y Gymuned Ewropeaidd (ECWVTA), i gael cymeradwyaeth math mewn ffordd gost effeithiol. Rhedir y cynllun gan yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr (VOSA) mewn nifer o orsafoedd profi arbenigol ledled y wlad.
Mae'n ofynnol, ledled y Gymuned Ewropeaidd, i feiciau modur a cherbydau tebyg gael cymeradwyaeth math cyn cael eu cofrestru. Set o safonau dylunio, adeiladu ac amgylcheddol wedi'u cysoni yw cymeradwyaeth math, sy'n caniatáu i weithgynhyrchwyr gadw at un set o ofynion ar gyfer y farchnad Ewropeaidd.
Cyn i'r ECWVTA gael ei gyflwyno, cynhaliodd y llywodraeth ymgynghoriad ynghylch sut y byddai cymeradwyaeth math yn effeithio ar y farchnad beiciau modur yng Ngwledydd Prydain. Ar sail yr ymgynghoriad hwn, penderfynodd y llywodraeth bod natur y farchnad beiciau modur yng Ngwledydd Prydain yn golygu bod arni angen cynllun math cerbyd sengl i redeg ar y cyd â'r ECWVTA.
Mae MSVA yn berthnasol i'r mathau canlynol o gerbydau, os nad ydynt wedi'u cofrestru, os ydynt dan 10 oed, ac os nad oes ganddynt ECWVTA.
Mae diffiniad o'r mathau hyn o gerbydau i'w gweld yng nghanllawiau'r MSVA
Mae MSVA hefyd yn un o ofynion yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) ar gyfer cerbydau penodol sydd wedi'u newid yn sylweddol neu wedi'u hadeiladu gan ddefnyddio cymysgedd o ddarnau cerbydau a gofrestrwyd o'r blaen e.e:
Rhoddir Tystysgrif Cydymffurfio i gerbydau sydd ag ECWVTA. Datganiad gan y gwneuthurwr yw hwn bod y cerbyd, a adnabyddir drwy gyfeirio at ei rif adnabod cerbyd, yr un fath ym mhob agwedd â'r math a gafodd ei gymeradwyo. Fel arfer, mae'r ddogfen hon yn ddigon o dystiolaeth y gall DVLA drwyddedu a chofrestru'r cerbyd ar gyfer cael ei ddefnyddio ar y ffordd yn Ngwledydd Prydain.
Bydd y Tystysgrif Cydymffurfio yn cynnwys datganiad sy'n nodi pa reolau'r ffordd a pha unedau ar y cloc cyflymder y mae'r cerbyd wedi'i gymeradwyo ar eu cyfer. Mae'n bosibl nad yw rhai cerbydau sydd â chymeradwyaeth math yn addas i'w defnyddio yng Ngwledydd Prydain. Lle bo hyn yn wir gall VOSA gynnal prawf MSVA Rhannol i gadarnhau bod unrhyw newidiadau angenrheidiol wedi cael eu gwneud yn gywir. Dyma'r eitemau fydd yn cael eu profi: