Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae angen i bob cerbyd sydd wedi’i gofrestru yn y DU gael rhif adnabod cerbyd a rhif cofrestru. Os ydych chi’n ailadeiladu neu’n addasu eich cerbyd, efallai y bydd angen i chi gael rhif adnabod cerbyd neu rif cofrestru newydd. Yma cewch wybod sut mae cael rhif adnabod cerbyd neu rif cofrestru newydd.
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i bob cerbyd a ddefnyddir ar ffyrdd cyhoeddus gael rhif adnabod cerbyd. Fel rheol, mae’r rhif hwn wedi’i stampio ar siasi’r cerbyd. Efallai y bydd yn diflannu pan fydd cerbyd yn cael ei ailadeiladu neu ei addasu’n sylweddol, yn enwedig os yw’r cerbyd wedi cael siasi, corff ungragen neu ffrâm newydd sbon, neu un ail-law.
Pan fydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn asesu eich cerbyd, p’un ai a yw wedi cael ei ailadeiladu neu ei addasu'n sylweddol, neu’n gar cit, mae’n bwysig bod modd dweud beth yw’r rhif adnabod cerbyd gwreiddiol. Heb dystiolaeth o hyn, mae’n bosib na fydd y cerbyd yn gallu cadw’r rhif cofrestru gwreiddiol.
Os nad oes digon o dystiolaeth o’r rhif gwreiddiol, bydd eich swyddfa DVLA leol yn rhoi rhif adnabod newydd i chi. Yna, bydd DVLA yn rhoi llythyr awdurdodi i chi er mwyn i chi allu trefnu i rif newydd gael ei stampio ar y cerbyd. Ni fydd modd i chi gofrestru’r cerbyd nes bod DVLA wedi cael cadarnhad bod y cerbyd wedi cael ei stampio â’r rhif adnabod cerbyd cywir.
Dewis rhif adnabod cerbyd eich hun
Efallai y bydd yn well gan unigolion sydd â char cit, neu gar sydd wedi’i addasu â chit, roi eu rhif adnabod cerbyd 17 digid unigryw ar y car. Bydd eich swyddfa DVLA leol yn gallu dweud wrthych sut mae gwneud hyn. Nid yw hyn yn berthnasol os oes rhif cofrestru ‘Q’ wedi cael ei roi.
Mae tystiolaeth yn dangos bod rhifau cofrestru ‘Q’ yn ddefnyddiol at ddibenion diogelu defnyddwyr. Os ceir plât rhif gyda ‘Q’ yn llythyren flaen, bydd hyn yn arwydd clir i ddarpar brynwr o gefndir ansicr y cerbyd. Bydd DVLA yn rhoi rhifau cofrestru ‘Q’ i gerbydau pan fydd ansicrwydd ynghylch oedran neu gefndir y cerbyd.
Mae’r nod 'Q' yn golygu y bydd y rhif cofrestru cerbyd gwreiddiol yn cael ei ddiddymu, ac na cheir dangos y rhif eto.
Bydd angen i’ch cerbyd basio un o’r profion canlynol cyn y rhoddir rhif cofrestru ‘Q’:
Yn ystod y prawf hwn, bydd yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr yn gwneud yn siŵr bod y cerbyd wedi’i adeiladu i safon ddiogelwch Brydeinig neu Ewropeaidd.
Os na all eich cerbyd basio prawf IVA, SVA na MSVA, ni ellir ei gofrestru.