Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Os ydych chi'n ailadeiladu neu'n addasu cerbyd yn sylweddol, neu'n adeiladu cerbyd â chit, bydd angen i'r cerbyd fodloni meini prawf penodol cyn y gellir ei gofrestru. Bydd eich swyddfa DVLA leol yn asesu’r cerbyd ar ôl iddo gael ei gwblhau.
Weithiau, os bydd cerbyd yn cael ei ailadeiladu neu’i addasu, ac nad yw felly’n cyd-fynd â manyleb wreiddiol y gwneuthurwr, bydd angen edrych ar fanylion adnabod y cerbyd.
Wrth roi rhif cofrestru i gerbyd sydd wedi'i ailadeiladu neu wedi’i addasu’n sylweddol, diddordeb pennaf DVLA fydd cael gwybod a yw’r cerbyd wedi ei adeiladu o'r newydd heb unrhyw fanylion adnabod cofrestredig (yn ei ffurf bresennol) ai peidio. Bydd angen i gerbydau sydd wedi cael eu hailadeiladu o’r newydd neu’u haddasu gael eu harchwilio mewn swyddfa DVLA leol, lle bydd angen gweld hanes a chofnodion y cerbyd. Diben hyn yw gweld a yw’r cerbyd a'i brif gydrannau wedi cael Archwiliad Adnabod Cerbyd neu Dystysgrif Dinistrio.
Mae’r Archwiliad Adnabod Cerbyd wedi cael ei greu er mwyn atal troseddwyr rhag defnyddio manylion adnabod ceir sydd wedi eu pennu'n anadferadwy neu wedi’u sgrapio ar gyfer cerbydau eraill. Bwriad yr archwiliad yw helpu i gadarnhau bod y cerbyd sy’n mynd yn ôl ar y ffordd wedi’i atgyweirio ar ôl difrod mewn damwain ac nad yw wedi cael ei ddwyn.
Ni fydd gan unrhyw gerbyd sydd wedi methu Archwiliad Adnabod Cerbyd hawl i gadw ei rif cofrestru gwreiddiol. Cyn y bydd modd i chi gofrestru eich cerbyd, bydd arnoch angen tystysgrif Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA), Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl (SVA) neu Gymeradwyaeth Cerbyd Sengl i Feiciau Modur (MSVA). Yna, bydd y swyddfa DVLA leol yn rhoi rhif cofrestru 'Q' i chi.
Mae’n bosib y bydd yr Asiantaeth Gwasanaethau Cerbydau a Gweithredwyr yn gwrthod eich cais Archwiliad Adnabod Cerbyd os yw’r cerbyd wedi cael ei ailadeiladu. Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen i’ch swyddfa DVLA leol asesu’r cerbyd yn ôl y canllawiau ar gyfer ailadeiladu.
Er 2003, mae’n rhaid i geir, faniau ysgafn, a rhai cerbydau tair olwyn (ee Reliant Robin) gael eu dadlygru yn unol â safonau amgylcheddol llym pan fyddant yn cyrraedd diwedd eu hoes. Mae’n rhaid i’r cerbydau hyn gael eu sgrapio mewn canolfan drin gymeradwy. Yna, rhoddir Tystysgrif Dinistrio yn cadarnhau bod y cerbyd wedi cael ei ddatgymalu neu y bydd yn cael ei ddatgymalu.
Ni chaiff y cerbydau hyn byth ailymddangos fel cerbydau ‘cyflawn’ eto, na chael eu cyflwyno ar gyfer eu cofrestru dan y canllawiau hyn. Efallai y bydd modd ailgylchu ambell gydran fach o gerbyd sydd wedi cael Tystysgrif Dinistrio neu sydd wedi’i ddatgymalu. Ni ellir defnyddio darnau o gerbyd sydd wedi'i ddatgymalu gan Ganolfan Drin Gymeradwy ar gyfer ailadeiladu neu addasu cerbyd yn sylweddol, nac ar gyfer addasu â chit.
Ni cheir, dan unrhyw amgylchiadau, cadw rhif cofrestru gwreiddiol y cerbyd sydd wedi cael Tystysgrif Dinistrio.
Ni ellir trosglwyddo pob rhif cofrestru. Edrychwch ar eich tystysgrif cofrestru (V5C) yn gyntaf. Os gellir ei drosglwyddo, dylech ystyried ei ddiogelu cyn ei gyfnewid neu wneud unrhyw newidiadau iddo, rhag ofn i chi golli'ch hawl i'r rhif.