Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 11 Hydref 2012

Cofrestru cerbyd sydd wedi’i addasu’n sylweddol

Mae’n rhaid cofrestru cerbydau sydd wedi'u haddasu’n sylweddol, sef cerbydau sydd wedi newid cryn dipyn o’u cymharu â’r ffurf wreiddiol, ond sydd heb gael eu haddasu â chit. Yma cewch wybod beth fydd angen i chi ei gael er mwyn cofrestru eich cerbyd, a sut gallwch chi gadw'r rhif cofrestru cerbyd gwreiddiol.

Cael rhif cofrestru cerbyd

Pan fydd yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) yn rhoi rhif cofrestru ar gyfer cerbyd sydd wedi'i addasu'n sylweddol, bydd yn defnyddio system bwyntiau.

Er mwyn cadw’r rhif cofrestru gwreiddiol, mae’n rhaid i’ch cerbyd gael wyth pwynt neu ragor. Mae’n rhaid i hyn gynnwys y ffrâm, y corff ungragen neu’r siasi gwreiddiol neu newydd sydd heb ei addasu.

Bydd angen i’ch cerbyd gael Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA), Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl (SVA) neu Gymeradwyaeth Cerbyd Sengl i Feiciau Modur (MSVA):

  • os oes ganddo lai nag wyth pwynt
  • os oes ganddo ffrâm, corff ungragen neu siasi ail-law neu wedi’i addasu
  • os ceir tystiolaeth bod dau gerbyd wedi’u weldio gyda'i gilydd i greu un cerbyd

Os bydd eich cerbyd yn pasio, gallwch gofrestru eich cerbyd a chewch rif cofrestru ‘Q’.

Pa bwyntiau a roddir i’r gwahanol rannau

Dim ond i’r prif gydrannau gwreiddiol a ddefnyddir y rhoddir pwyntiau. Mae’r rhain i’w gweld yn y tabl isod.

Rhan

Pwyntiau

Siasi neu gorff ungragen (mae’r corff a’r siasi yn un uned) (gwreiddiol neu newydd*)

5 pwynt

Yr hongiad (blaen ac ôl)

2 bwynt

Y ddwy echel

2 bwynt

Y trawsyriant

2 bwynt

Cydosodiad y llyw

2 bwynt

Yr injan

1 pwynt

*Darn newydd yn uniongyrchol gan y gwneuthurwr

Os yw tystiolaeth yn dangos bod dau gerbyd wedi cael eu weldio gyda’i gilydd i greu un cerbyd, rhoddir rhif cofrestru ‘Q’ iddo. Bydd angen prawf IVA, SVA neu MSVA arno.

Ni cheir tynnu unrhyw un o’r prif gydrannau o gerbyd sydd wedi cael Tystysgrif Dinistrio.

Rhifau Adnabod Cerbyd a rhifau cofrestru ‘Q’

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i bob cerbyd a ddefnyddir ar ffyrdd cyhoeddus fod â Rhif Adnabod Cerbyd a rhif cofrestru. Yn yr erthygl hon cewch wybod mwy am y rhif adnabod cerbyd ac am rifau cofrestru, yn ogystal â sut mae cael rhai newydd.

Rhoi rhifau cofrestru gwahanol ar gyfer cerbydau

Bydd angen i gerbydau cofrestredig gael IVA, SVA neu MSVA er mwyn cael rhifau gwahanol. Bydd y math o brawf, a’i lefel, yn dibynnu ar y cerbyd

Y dogfennau angenrheidiol ar gyfer cofrestru

Er mwyn cofrestru eich cerbyd, bydd angen i chi gael y dogfennau canlynol:

  • ffurflen V55/5 – Cais am drwydded ar gyfer cerbyd modur ail-law a datganiad ar gyfer cofrestru
  • treth cerbyd cywir (lle bo’n briodol)
  • ffurflen V627/1 – adroddiad archwilio cerbyd sydd wedi’i ailadeiladu (i'w gyflawni cyn yr archwiliad)
  • tystysgrif IVA, SVA neu MSVA (os bydd angen)
  • tystysgrif MOT (os yw'r cerbyd dros 3 oed)
  • tystysgrif yswiriant
  • ffi cofrestru o £55 (os oes angen)
  • derbynebau swyddogol ar gyfer y cerbyd ac unrhyw gydrannau a ddefnyddiwyd wrth ei adeiladu
  • dogfennau sy’n cadarnhau eich enw a’ch cyfeiriad
  • tystysgrif cofrestru cerbyd (os defnyddir cerbyd cyflenwi)

Cyfrifoldeb ceidwad y cerbyd yw sicrhau bod ei gerbyd yn cydymffurfio â Rheoliadau Cerbydau'r Ffordd (Gwneuthuriad a Defnydd) 1986 (fel y'u diwygiwyd) os yw’n cael ei ddefnyddio ar y ffyrdd.

I gael rhagor o wybodaeth am y rheoliadau hyn, cysylltwch â’r Adran Drafnidiaeth.

Allweddumynediad llywodraeth y DU