Defnyddio gwresogyddion a blancedi trydan mewn modd diogel
Gall tywydd oer ddod â'r angen i ddefnyddio gwresogyddion a blancedi trydan er mwyn cadw'n gynnes. Defnyddiwch y canllawiau hyn er mwyn lleihau'r perygl o dân ac i sicrhau bod eich blancedi yn bodloni safonau diogelwch.
Diogelwch a blancedi trydan
Wrth ddewis eich blanced drydan, dylech ei phrynu gan ffynhonnell ddibynadwy. Sicrhewch fod ganddi farc safon diogelwch y DU – symbol sy'n golygu bod y flanced wedi'i phrofi'n annibynnol a'i bod yn bodloni safonau diogelwch diweddaraf y DU ac Ewrop. Mae'r enghreifftiau ar y chwith yn dangos y mathau o symbolau y dylech fod yn chwilio amdanynt.
Cyn i chi ddefnyddio eich blanced, sicrhewch nad yw hi (na'i chord) yn dangos unrhyw un o'r arwyddion canlynol o berygl:
- marciau gwres neu staeniau i'w gweld ar ffabrig y flanced
- gwifrau i'w gweld drwy'r ffabrig, neu'n ymwthio drwy'r ffabrig
- ffabrig wedi rhaflo neu dreulio
- difrod i'r cord trydan rhwng y plwg a mecanwaith rheoli'r flanced neu rhwng y mecanwaith rheoli a'r flanced
- sŵn (buzz) neu arogl wrth droi'r mecanwaith rheoli ymlaen
- difrod i gysylltydd y flanced, lle mae'r cord trydannol yn mynd i mewn i'r flanced, neu'r cysylltydd yn gorboethi
Os oes gennych chi unrhyw amheuon ynghylch eich blanced, cysylltwch â'r gwneuthurwr cyn i chi ei defnyddio er mwyn sicrhau ei bod yn ddiogel. Mae'n bosib y bydd angen un newydd arnoch.
Storio eich blanced drydan
Hyd yn oed pan nad ydych yn defnyddio'ch blanced, gallwch ei gadael ar y gwely drwy gydol y flwyddyn, neu ei gosod yn wastad ar wely sbâr. Os ydych chi am storio eich blanced, dylech ei storio fel y mae'r gwneuthurwr yn ei argymell neu fel a ganlyn:
- gadewch i'r flanced oeri cyn ei phlygu
- plygwch y flanced yn llac mewn tywel neu fag plastig a storiwch y flanced mewn lle sych oeraidd
- peidiwch â defnyddio unrhyw gemegau atal gwyfynod
- peidiwch â rhoi eitemau trwm ar ben y flanced pan fyddwch yn ei chadw
Dyma ragor o awgrymiadau diogelwch:
- wrth ddewis blanced drydan, prynwch un newydd bob amser – peidiwch byth â phrynu un ail law rhag ofn nad yw'n ddiogel, ac ni allwch fod yn siŵr ei bod yn bodloni'r safonau diogelwch cyfredol
- darllenwch a dilynwch gyfarwyddiadau'r gwneuthurwr bob amser cyn defnyddio blanced
- chwiliwch eich blanced yn aml am arwyddion o dreulio neu ddifrod
- peidiwch byth â defnyddio isflanced trydan fel gwrthban (nag i'r gwrthwyneb)
- peidiwch â defnyddio'r flanced os yw wedi plygu neu chrychu
- peidiwch â defnyddio potel dŵr poeth ar yr un pryd â'ch blanced drydan
- peidiwch â chyffwrdd â'r flanced os oes gennych chi ddwylo neu draed gwlyb, a pheidiwch byth â defnyddio'r flanced os yw'n wlyb neu'n llaith
Gwresogyddion trydan
Mae gwresogyddion trydan yn defnyddio llawer o drydan ac yn cynhyrchu llawer o wres. Golyga hyn y gallant fod yn beryglus os na chânt eu defnyddio'n briodol. Dylech wneud y canlynol:
- eu cadw oddi wrth ddodrefn a llenni
- eistedd o leiaf dair troedfedd (metr) oddi wrthynt
- eu prynu o siopau sydd ag enw da
- peidio byth â sychu dillad arnynt neu'n agos atynt (nac ar gardiau tân)