Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cwestau a threialon ar ôl argyfwng

Os byddwch chi'n rhan o ddigwyddiad o bwys, efallai y gofynnir i chi fynd i gwest neu dreial fel rhan o'r ymchwiliadau a wneir wedi'r digwyddiad. Efallai y bydd y gweithdrefnau y byddwch chi'n rhan ohonynt yn ymddangos yn gymhleth, ond mae gwybodaeth a chymorth ar gael.

Cwestau

Ymchwiliad cyfreithiol i achos meddygol ac amgylchiadau marwolaeth yw cwest. Fe'i cynhelir yn gyhoeddus - weithiau gyda rheithgor - gan grwner (neu brocuradur ffisgal yn yr Alban) mewn achosion lle'r oedd y farwolaeth:

  • yn dreisgar neu'n annaturiol
  • wedi digwydd yn y carchar neu yn nalfa'r heddlu, neu
  • pan fydd achos y farwolaeth yn dal yn ansicr ar ôl post-mortem


Bydd crwneriaid yn cynnal cwestau dan yr amgylchiadau hyn, hyd yn oed os digwyddodd y farwolaeth dramor ac y caiff y corff ei ddychwelyd i Brydain. Os yw corff ar goll (ar y môr, fel arfer) gall crwner gynnal cwest drwy orchymyn yr Ysgrifennydd Gwladol os yw'n debygol bod y farwolaeth wedi digwydd yn ardal awdurdodaeth y crwner.

Os cynhelir cwest, rhaid i'r crwner hysbysu'r canlynol:

  • priod neu bartner sifil yr ymadawedig
  • y perthynas agosaf (os yw'n wahanol i'r un uchod) ac
  • y cynrychiolydd personol (os yw'n wahanol i'r un uchod)


Gall perthnasau hefyd fynd i gwest a gofyn cwestiynau i dystion - ond dim ond cwestiynau am achos meddygol ac amgylchiadau'r farwolaeth. Caiff perthnasau hefyd ofyn i gyfreithiwr eu cynrychioli, ond nid oes cymorth cyfreithiol ar gael ar gyfer hyn.

Dylai'r cwest ddarparu rhagor o wybodaeth ynghylch sut a pham y digwyddodd y farwolaeth. Mewn rhai achosion, efallai y ceir erlyniad am drosedd maes o law.

Unwaith y bydd y cwest wedi ei gynnal, gellir cofrestru'r farwolaeth a gellir cynnal yr angladd (er y gall y crwner roi caniatâd i'r angladd fynd rhagddo cyn bod y cwest drosodd mewn rhai achosion).

Dylai gwybodaeth sy'n ymwneud â chwestau penodol fod ar gael yn swyddfa'r crwner perthnasol. Defnyddiwch y ddolen isod i gael rhagor o wybodaeth am gwestau a gwaith crwneriaid.

Treialon

Yn y rhan fwyaf o achosion yng Nghymru a Lloegr, bydd Erlynwyr y Goron yn penderfynu a ddylid cyhuddo person o gyflawni trosedd ai peidio. Os byddan nhw'n penderfynu erlyn, fel arfer bydd hyn yn golygu cynnal treial mewn llys. Os cynhelir treial, efallai y bydd cryn dipyn o oedi gyda chwest y Crwner.

Swyddogaeth Gwasanaeth Erlyn y Goron

Gwasanaeth Erlyn y Goron yw adran y llywodraeth sy’n gyfrifol am bennu'r cyhuddiad ac erlyn achosion troseddol a archwilir gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr. Gwasanaeth Erlyn y Goron yw'r prif awdurdod erlyn yng Nghymru a Lloegr, ac mae'n gyfrifol am baratoi a chyflwyno achosion yn y llys.

Swyddogaeth y Gwasanaeth yw erlyn achosion yn gadarn, yn deg ac yn effeithiol, pan fo digon o dystiolaeth ar gael i ddarparu siawns realistig o euogfarn, a phan fo gwneud hynny o fudd i’r cyhoedd.

Nid yw Gwasanaeth Erlyn y Goron yn cynrychioli unigolion sydd wedi dioddef trosedd; yn hytrach, mae'n cynrychioli budd y cyhoedd yn gyffredinol. Felly, Gwasanaeth Erlyn y Goron sy'n gyfrifol fel arfer dros erlyn unigolion mewn treialon terfysgaeth. Mewn treialon o'r fath, cynrychiolir y Goron fel arfer gan un neu ragor o Fargyfreithwyr. Eu gwaith yw cyflwyno achos yr erlyniad, a chroesholi'r diffynyddion a thystion yr amddiffyniad.

Defnyddiwch y dolenni isod i gael rhagor o fanylion ynghylch y system gyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr, a manylion cysylltu Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Procuraduron ffisgal yn yr Alban

Procuraduron ffisgal sy'n gyfrifol am erlyn troseddau yn yr Alban. Maen nhw hefyd yn ymchwilio i farwolaethau sydyn ac amheus, ac yn cynnal ymholiadau i ddamweiniau angheuol. Maent yn gyfreithwyr cymwysedig sy'n gweithio i Swyddfa'r Goron ac i'r Gwasanaeth Procuradur Ffisgal. Gallwch gael gwybod rhagor am eu gwaith drwy ddefnyddio'r ddolen isod.

Mynd i'r llys - y cymorth sydd ar gael

Elusen genedlaethol yw Cymorth i Ddioddefwyr ar gyfer pobl yr effeithiwyd arnynt gan drosedd. Mae gan y ddolen 'Ymddangos fe tyst' isod wybodaeth am y Gwasanaeth Tystion a ddarperir gan Cymorth i Ddioddefwyr ymhob llys yng Nghymru a Lloegr. Mae'r gwasanaeth yn helpu tystion sy'n cael eu galw i roi tystiolaeth, yn ogystal â dioddefwyr troseddau a'u teuluoedd a'u ffrindiau sy'n mynd i'r llys am unrhyw reswm, gan gynnwys ymholiadau cyhoeddus. Gall y gwasanaeth drefnu ymweliadau er mwyn cynefino â'r llys, cynnig cyngor am y broses gyfreithiol, neu, yn syml, gallant fod yn rhywun i siarad â hwy am gyngor ymarferol a chefnogaeth.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU