Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Helpu plant yr effeithir arnynt gan achos brys

Os yw eich plentyn neu berson ifanc yn eich gofal wedi bod yn gysylltiedig â damwain neu ddigwyddiad o bwys, efallai y bydd eu hymddygiad a'u hwyliau yn newid. Mae cymorth ar gael i bobl ifanc ymdopi â'r effeithiau emosiynol a chorfforol hyn, gan gynnwys clinigau arbenigol a sefydliadol sy'n cynnig cyngor a chymorth.

Ymatebion plant i drawma

Yn union fel oedolion, mae plant yn ymateb i farwolaeth a thrawma mewn ffyrdd gwahanol ar adegau gwahanol. Mae seicolegwyr wedi nodi ymddygiad amrywiol y gellir ei weld mewn babanod a phlant o dan straen:

  • problemau cysgu
  • pigog
  • ymddwyn yn anaeddfed
  • newidiadau mewn perthnasau gyda rhieni, brodyr, chwiorydd a chyfoedion
  • problem fawr gyda'r trawma
  • ddim yn perfformio cystal yn yr ysgol
  • ymddygiad gorfywiog
  • gorymateb i broblemau bach

Beth all fod yn ddefnyddiol

Mae llawer o bethau y gall rhieni, gofalwyr ac ysgolion eu gwneud i helpu pobl ifanc i ddelio ag ôl-effeithiau digwyddiad o bwys:

  • rhoi gwybod i'r plant beth sydd wedi digwydd, gan roi'r ffeithiau iddynt (ond heb fanylion dianghenraid), gan fod hyn yn helpu i atal eu dychymyg rhag mynd yn drên
  • eu cysuro am y dyfodol a'u hannog i fynegi eu teimladau ac i chwarae a chwerthin ac archwilio er na fyddant efallai'n teimlo fel gwneud hynny
  • cadw at drefn a phethau cyfarwydd er mwyn eu helpu i deimlo bod bywyd yn ddiogel ac yn rhagweladwy - gall mynd i'r ysgol helpu i wneud hyn
  • ailgynnwys y plentyn mewn tasgau a chyfrifoldebau cyn gynted ag y byddant yn barod i ymdopi â hwy eto

Gallech hefyd fynd ar wefan RD4U, sydd wedi'i chynllunio ar gyfer pobl ifanc sy'n ymdopi â phrofedigaeth.

Eich ymatebion

Mae'n bwysig cofio y gall eich ymatebion i argyfwng fel rhiant, gofalwr neu athro gael dylanwad mawr ar ymateb y plentyn iddo. Felly mae'n bwysig cofio eich bod yn sicrhau rhoi amser i ofalu am eich lles emosiynol eich hun. Siaradwch â'ch meddyg teulu os ydych yn ei chael yn anodd ymdopi. Gellir cael rhagor o wybodaeth ar wefan Galaru Cruse.

Sefydliadau cymorth a chefnogaeth

Mae'n bwysig iawn eich bod yn cysylltu â'ch meddyg teulu i gael cymorth os ydych yn teimlo bod angen cefnogaeth ar eich plentyn.

Mae'r gwefannau a'r asiantaethau canlynol hefyd yn cynnig cefnogaeth i bobl ifanc a'u rhieni neu ofalwyr:

Dygymod â thrawma

Mae gan y ddolen isod rywfaint o gyngor ymarferol i blant ar sut i ddygymod â thrawma - caiff ei chynhyrchu gan Sefydliad Iechyd Plant yr UCL (Coleg Prifysgol Llundain) a gellir argraffu taflen.

Clinig Straen ar ôl Trawma

Mae'r clinig yn arbenigo mewn gweithio gyda phlant, pobl ifanc hyd at 18 oed a'u teuluoedd sydd wedi goroesi digwyddiadau trawmatig. Gall hyn gynnwys pethau fel damweiniau ffyrdd, ymosodiadau neu fwlio, trais neu drychinebau.

Cefnogi plant ar ôl digwyddiad brawychus

Gall y daflen PDF hon helpu rhieni a gofalwyr i ddeall sut y gall plant a phobl ifanc ymateb i ddigwyddiadau brawychus a beth y gellir ei wneud i'w helpu.

Y Rhwydwaith Straen Trawmatig Plant Cenedlaethol

Sefydlwyd y rhwydwaith Americanaidd hwn er mwyn gwella mynediad at ofal, triniaeth a gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi dioddef trawma ac wedi bod yn dyst i ddigwyddiadau brawychus.

Samariaid

Mae'r Samariaid yn darparu gwasanaeth 24 awr sy'n cynnig cefnogaeth emosiynol gyfrinachol i unrhyw un mewn argyfwng.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU