Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Argyfyngau dramor

Os ydych yn gwybod, neu'n poeni bod ffrind neu berthynas i chi wedi bod mewn argyfwng dramor, mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad (FCO) yn ffynhonnell wybodaeth allweddol am beth y gallwch ei wneud a phwy y dylech gysylltu â hwy. Mae cymorth a chefnogaeth arall ar gael hefyd.

Rôl y Swyddfa Dramor

Mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn darparu gwybodaeth i berthynas agosaf am ddigwyddiadau ac argyfyngau dramor, er os bydd y digwyddiad yn cynnwys cwmni hedfan neu gorff swyddogol arall, byddai disgwyl iddyn nhw gymryd rhan yn y broses o ddarparu gwybodaeth. Os credir yr effeithwyd ar lawer o ddinasyddion Prydain, efallai y bydd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn darparu rhif ffôn mewn argyfwng ar gyfer y digwyddiad yn y DU. Byddai'r rhif yn ymddangos ar fwletinau newyddion ar y teledu a'r radio ac yn y wasg, a byddai ar gael ar wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, gweler y ddolen isod.

Mae'n bosibl y bydd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad hefyd yn agor rhan 'LLEOLI' arbennig ar ei gwefan er mwyn i chi allu cofrestru manylion unrhyw aelod o'r teulu yr ydych yn credu yr effeithwyd arno gan ddigwyddiad dramor ar-lein. Bydd staff y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn defnyddio'r manylion hyn i geisio dod o hyd i'r bobl yr effeithwyd arnynt a rhoi cymorth iddynt, ac i roi gwybod i chi a ydynt yn ddiogel.

Er y byddwch efallai'n teimlo'n gryf eich bod am fynd i'r wlad dan sylw i fod gyda'ch ffrind neu'ch perthynas, efallai na fydd yn ddiogel i chi wneud hynny. Mae gwefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn rhoi cyngor ar p'un a yw'n ddiogel teithio i fannau penodol ai peidio

Cymorth i Ddinasyddion Prydain dramor

Mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn cynnig cymorth i ddinasyddion Prydain yr effeithwyd arnynt gan argyfyngau dramor drwy ei staff is-gennad dramor a'i thîm rheoli argyfwng yn Llundain. Mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn gweithio'n agos gyda'r Heddlu yn y DU, a'r Groes Goch Brydeinig, wrth gyflawni ei rôl.

Pan fydd argyfwng sy'n effeithio ar ddinasyddion Prydain yn digwydd dramor, megis ymosodiad terfysgol neu drychineb naturiol, bydd Grŵp Argyfwng Is-gennad y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn Llundain yn darparu cymorth cyflym i'r dinasyddion Prydeinig rheini yr effeithwyd arnynt. Efallai y byddant yn anfon Tîm Cyflwyno Cyflym (RDT) i helpu neu i agor yr Uned Ymateb mewn Argyfwng i ddarparu cyfleuster delio â galwadau.

Mae Timau Cyflwyno Cyflym yn cynnwys staff y Swyddfa Dramor a Chymanwlad sydd wedi'u dewis a'u hyfforddi'n arbennig, mae'r rhan fwyaf ohonynt yn swyddogion is-gennad. Bydd timau hefyd yn cynnwys swyddog y wasg, swyddog technegol a chynrychiolwyr o'r Groes Goch Brydeinig i ddarparu cefnogaeth ymarferol ac emosiynol i deuluoedd a dioddefwyr. Efallai y bydd aseswyr meddygol SOS hefyd yn ymchwilio i weld a yw'r cyfleusterau meddygol yn yr ardal yr effeithiwyd arni yn gallu ymdopi â maint y digwyddiad. Gallant hefyd roi'r wybodaeth hon i gwmnïau yswiriant teithio sy'n darparu yswiriant i'r bobl yr effeithiwyd arnynt.

Gellir cael mwy o wybodaeth am yr hyn y gall y Swyddfa Dramor a Chymanwlad ei wneud yn 'Support for British Nationals abroad, A Guide'.

Marwolaethau dramor

Pan fydd damwain yn digwydd dramor a nifer o bobl wedi marw, gall timau heddlu Adnabod Dioddefwyr Trychineb arbenigol ffurfio rhan o Dîm Cyflwyno Cyflym Swyddfa Dramor a Chymanwlad i helpu gyda'r broses adnabod.

Mae timau o'r fath yn sicrhau y cyflawnir y broses o adnabod cyrff at y safonau priodol ar gyfer y Crwner Prydeinig, ond ni allant weithredu heb awdurdod llywodraeth y wlad lle mae'r ddamwain wedi digwydd. Bydd Swyddogion Cyswllt Teulu yr Heddlu hefyd mewn cysylltiad yn y DU i sicrhau bod teuluoedd a ffrindiau'n cael gwybod am y gweithdrefnau ac i helpu i gasglu tystiolaeth ar gyfer adnabod.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am pan fydd rhywun yn marw dramor drwy ddefnyddio'r ddolen isod, er bod y wybodaeth yn gysylltiedig ag achosion o farwolaethau unigol dramor yn ogystal â damweiniau mawr.

Cefnogaeth i ffrindiau a theuluoedd yn ôl yn y DU

Gellir cael gafael ar wasanaethau cwnsela drwy eich meddyg teulu lleol.

Gellir cael cyngor ar iechyd gan NHS Direct drwy'r llinell gymorth 24 awr 0845 4647 neu ar y wefan. Mae'n debygol y byddant yn ymwybodol o ddigwyddiadau o bwys.

Mae gan y Groes Goch Brydeinig wirfoddolwyr hyfforddedig ar gael i gynnig cefnogaeth a chysur ymarferol i bobl sydd wedi'u heffeithio gan drychinebau. Ei switsfwrdd yn y DU yw 0870 170 7000.

Elusen yw Disaster Action. Fe'i sefydlwyd gan bobl sydd wedi goroesi neu sydd wedi colli rhywun mewn trychinebau tramor. Mae'n darparu gwasanaeth eiriolaeth a chynghori annibynnol. Mae ei gwefan yn cynnig cefnogaeth, gwybodaeth a chyngor gan brofiadau personol gan bobl sydd wedi bod mewn profedigaeth a phobl sydd wedi goroesi, gan gynnwys erthygl am deithio dramor i chwilio am berthnasau ar ôl digwyddiad argyfwng.

Nid oes gan Disaster Action linell gymorth 24 awr, ond mae ganddo wasanaeth peiriant ateb ar 01483 799 066.

Cefnogaeth Ariannol

Pan fydd digwyddiad terfysgol wedi digwydd dramor, efallai y bydd y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn rhoi Mesurau Cymorth Arbennig ar waith. Yn yr amgylchiadau hyn, mae'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn talu am gostau ariannol uniongyrchol, fel costau dychweliad a chostau meddygol uniongyrchol, ar yr amod nad oes ffynonellau eraill ar gael (fel yswiriant, cynllun cyflogwr, y cwmni hedfan neu'r trefnwyr teithiau, llywodraeth y wlad lle digwyddodd y ddamwain). Dim ond fel y dewis olaf y byddai'r mesurau hyn ar gael, ac ni fyddent ar gael i bobl sydd wedi teithio yn erbyn cyngor teithio'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad neu heb yswiriant teithio.

Bydd Cronfa Cymorth y Groes Goch Brydeinig i Ddioddefwyr Terfysgaeth Dramor y DU yn darparu cymorth ariannol i bobl sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol neu mewn profedigaeth o ganlyniad i ddigwyddiadau o'r fath. Nid yw'r grantiau'n iawndal ar gyfer yr hyn y mae'r dioddefwyr wedi'i ddioddef.

Os bydd angen cefnogaeth ariannol ychwanegol arnoch gall Gwasanaethau Cymdeithasol eich Awdurdod Lleol ddarparu cyngor ar y budd-daliadau y gallech eu cael. Gallwch gael manylion cyswllt ar gyfer eich Awdurdod Lleol drwy ddilyn y ddolen isod.

Efallai y bydd y ddolen at 'Canllaw syml i fudd-daliadau' yn ddefnyddiol i chi hefyd.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU