Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Ffurfio grwpiau cefnogi a nodi pen-blwyddi

Os ydych chi neu rywun agos atoch wedi bod yn rhan o ddigwyddiad o bwys a bod gennych ddiddordeb mewn ffurfio neu ymuno â grŵp cefnogi, mae cyngor ar gael ynghylch sut mae gwneud hyn. Mae nifer o bobl sydd wedi bod mewn digwyddiadau blaenorol wedi teimlo bod grwpiau cefnogi yn brofiad cadarnhaol a buddiol.

Sut gall grwpiau cefnogi helpu

Yn dilyn digwyddiad o bwys, mae'n debygol y bydd problemau ymarferol i ddelio â hwy. Gall fod yn haws ymdopi â chwest neu ymholiad troseddol os byddwch yn cael cefnogaeth a dealltwriaeth pobl eraill yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad. Gall grwpiau cymorth fod yn fuddiol iawn, drwy gynnig cyngor cadarn ac argymhellion ynghylch sut mae delio â materion penodol. Gallwch hefyd rannu gwybodaeth sy'n bwysig i bawb mewn grŵp.

Hefyd, bydd grwpiau cefnogi yn aml yn rhannu profiad cyffredin ac felly'n helpu i liniaru'r unigrwydd y gall pobl ei deimlo ar ôl digwyddiad.

Cyngor ymarferol gan Disaster Action

Elusen yw Disaster Action. Fe'i sefydlwyd gan bobl sydd wedi goroesi neu sydd wedi colli rhywun mewn trychinebau dramor. Maent wedi cynhyrchu gwybodaeth am sefydlu grwpiau i deuluoedd a goroeswyr, ac mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ynghylch sut y gall grwpiau o'r fath helpu.

Penblwyddi

Gall penblwyddi fod yn adegau arbennig o anodd, felly efallai ei bod yn werth meddwl ymlaen llaw am sut yr hoffech gofio'r diwrnod. Efallai y byddwch am dreulio amser ar eich pen eich hun, am ymweld â lle arbennig, neu dreulio'r diwrnod â phobl eraill.

Mae hefyd yn werth cofio ei bod yn debygol y bydd sylw gan y wasg yn cynyddu ar yr adegau hyn.

Ceir nifer o fudiadau sy'n rhoi cymorth i bobl sydd wedi cael profedigaeth, gan gynnwys Gofal Galaru Cruse, sydd ar gael os hoffech siarad â hwy.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU