Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Mae nifer o fudiadau'r llywodraeth a mudiadau cefnogi ar gael i'ch helpu os ydych chi, perthynas i chi, neu ffrind wedi bod yn rhan o ddigwyddiad o bwys. Yn ogystal â hyn, mae nifer o fudiadau gwirfoddol a all gynnig cymorth mewn sefyllfaoedd penodol.
Mae'r wybodaeth isod yn cynnig rhywfaint o gefndir am swyddogaethau a chyfrifoldebau adrannau'r llywodraeth wrth iddynt gynllunio a chydlynu ffyrdd o ymateb yn sydyn i ddigwyddiad o bwys, a ffyrdd o ddygymod yn y tymor hir hefyd.
Yr Ysgrifenyddiaeth Argyfyngau Sifil Posibl
Mae'r Ysgrifenyddiaeth Argyfyngau Sifil Posibl yn rhan o Swyddfa'r Cabinet ac mae'n gweithio mewn partneriaeth ag adrannau'r llywodraeth, y gweinyddiaethau datganoledig a rhanddeiliaid allweddol yn y sectorau preifat a gwirfoddol, er mwyn gwella gallu'r DU i baratoi ar gyfer achosion brys, ymateb iddynt, a dygymod â hwynt.
Gweinyddiaethau datganoledig
Mae Senedd y DU wedi datganoli ystod o faterion i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Mae'r ddolen isod yn egluro gan bwy y mae'r cyfrifoldeb yn y gwledydd hyn yn ystod digwyddiad o bwys.
Uned Cymorth Dyngarol
Sefydlwyd yr Uned Cymorth Dyngarol o fewn yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn 2005, ac mae ganddi gyfrifoldeb o fewn y Llywodraeth dros gydlynu cymorth yn y DU ar gyfer y rheini yr effeithiwyd arnynt gan drychinebau mawr.
Os ydych chi'n cael trafferth wrth geisio dod o hyd i wasanaethau cymorth, neu os ydych chi'n dymuno cysylltu â'r tîm, mae mwy nag un ffordd o gysylltu â'r Uned Cymorth Dyngarol:
E-bost: hau@culture.gsi.gov.uk
Ysgrifennwch at:
HAU, 2-4 Cockspur Street, Llundain, SW1Y 5DH
Y Swyddfa Dramor a Chymanwlad
Rhwydwaith o bobl sy'n gweithio yn y DU ac mewn mwy na 200 o Lysgenadaethau ac Is-genadaethau dramor yw'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Pan fydd argyfwng is-genadaethol yn digwydd, megis ymosodiad terfysgol neu drychineb naturiol, bydd Tîm Rheoli Argyfwng y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, sy'n gweithio o Lundain, yn arwain y ffordd wrth ymateb a chynnig cymorth is-genadaethol brys i Frodorion Prydeinig Dramor.
Llysgenadaethau tramor yn y DU
Bydd llysgenadaethau o fewn y DU yn gweithredu ar ran y perthnasau a'r ffrindiau hynny sydd dramor ac yn poeni am bobl o dramor a allai fod wedi bod yn rhan o ddigwyddiad yn y DU.
Mewn achosion brys, bydd awdurdodau lleol yn cydlynu'r ddarpariaeth o gymorth lles i'r gymuned, a byddant yn chwarae rhan allweddol yn ystod y cyfnod o ddygymod ag argyfyngau. Mae gan awdurdodau lleol eu gwefannau eu hunain a all roi gwybodaeth i bobl am y gwasanaethau a'r cymorth sydd ar gael.
Mewn achos o argyfwng trafnidiaeth, mae rhai gwasanaethau trafnidiaeth yn debygol o gyfrannu at y cymorth a roddir i deuluoedd, y rhai a oroesodd a chymunedau yr effeithiwyd arnynt yn dilyn yr argyfwng.
Trenau
Efallai y gyrrir Timau Gofal ar ôl Digwyddiad gan y cwmni trenau er mwyn cynnig cymorth fel y bo'i angen i'r rhai yr effeithiwyd arnynt.
Teithio mewn awyren
Os bydd digwyddiad yn ymwneud ag awyren a gofrestrwyd yn y DU neu awyren sy'n cludo dinasyddion y DU, efallai y bydd y gwasanaeth awyren yn agor eu canolfan alwadau eu hunain er mwyn rhoi gwybodaeth frys ynglŷn â theithwyr. Mewn sefyllfa o'r fath, caiff y rhif ffôn perthnasol ei ddarlledu yn y cyfryngau a'i ddangos yma ar Cross & Stitch.
Mae nifer fawr o fudiadau cefnogi sy'n cynnig cymorth, cyngor a chefnogaeth yn y DU, a allai fod o fudd i chi. Mae'r rhain yn cynnwys:
I ddod o hyd i grwpiau cefnogi lleol, cysylltwch â'r ganolfan Cyngor Ar Bopeth.