Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Delio â'r cyfryngau

Ar ôl digwyddiad o bwys lle bydd pobl wedi marw, gall diddordeb y wasg mewn pobl sydd wedi goroesi a theuluoedd sydd mewn profedigaeth fod yn ddwys. Mae pawb yn ymateb i'r diddordeb hwn mewn ffyrdd gwahanol - mae rhai yn ystyried y wasg yn ffordd werthfawr o dynnu sylw at faterion sy'n bwysig iddynt, tra bo'n well gan eraill beidio â bod mewn cysylltiad o gwbl. Y naill ffordd neu'r llall, ceir rheolau a safonau y dylai'r wasg eu dilyn ac mae cymorth ar gael os ydych yn cael problemau.

Safonau ar gyfer newyddiadurwyr

Mae'n rhaid i newyddiadurwyr barchu sefyllfa pobl sydd mewn profedigaeth a phobl sydd wedi goroesi o dan God Ymarfer Comisiwn Cwynion y Wasg sy'n nodi:

"Mewn achosion sy'n gysylltiedig â galar a sioc personol, mae'n rhaid i'r broses o wneud ymholiadau a mynd at bobl fod yn gydymdeimladol ac yn arwahanol ac mae'n rhaid ymdrin â'r cyhoeddiad mewn modd sensitif."

Gellir gweld y cod yn llawn ar wefan Comisiwn Cwynion y Wasg.

Os NAD ydych yn dymuno siarad â'r cyfryngau

Nid oes yn rhaid i chi siarad â'r cyfryngau o gwbl. Dywedwch wrthynt nad ydych am siarad â hwy, gallech ddweud rhywbeth fel:

"Nid wyf am siarad â'r cyfryngau am y mater hwn. Ni fyddaf yn siarad â chi nac unrhyw newyddiadurwr arall ynglŷn â'r mater. Deallaf o dan God Ymarfer Comisiwn Cwynion y Wasg na ddylech barhau i gysylltu â mi os wyf wedi gofyn i chi beidio â gwneud hynny."

Yn anffodus, efallai nad dyma fydd diwedd y stori; felly, er enghraifft, os bydd gan newyddiadurwr, papur newydd neu sianel deledu eich rhif ffôn, efallai y byddent yn dal i'ch ffonio. Byddwch yn gyson ac ailadroddwch yr hyn yr ydych wedi'i ddweud wrthynt. Efallai y byddwch hefyd am ystyried cael peiriant ateb; neu ffrind, cymydog neu berthynas i ateb y ffôn ar eich rhan.

Os ydych yn dal i deimlo eich bod yn cael eich harasio, cysylltwch â Chomisiwn Cwynion y Wasg ar unwaith. Dyma eu cyfeiriad:

Press Complaints Commission
Halton House
20/23 Holborn
London EC1N 2JD

Llinell Gymorth: 0845 600 2757; neu 0131 220 6652 (os ydych yn ffonio o'r Alban); 0292 039 5570 (os ydych yn ffonio o Gymru)

E-bost: complaints@pcc.org.uk

Yn yr un modd, os bydd y cyfryngau yn dod i'ch cartref nid oes yn rhaid i chi adael iddynt ddod i mewn. Os nad ydych am ateb eich drws, gosodwch nodyn byr arno'n dweud nad ydych am siarad â newyddiadurwyr ac nad ydych am iddynt darfu arnoch.

Os ydych wedi'ch aseinio i gael Heddwas Cyswllt Teulu efallai y dylech roi gwybod iddynt am unrhyw broblemau y byddwch yn eu cael gyda'r cyfryngau. Fel arall, gallwch gael manylion cyswllt eich gwasanaethau heddlu lleol drwy ddilyn y ddolen isod.

Os YDYCH yn dymuno siarad â'r cyfryngau

Dylech ystyried y canlynol os byddwch yn penderfynu siarad â'r cyfryngau:

  • cofiwch bob amser nodi enw a rhif ffôn y person o'r cychwyn
  • ystyriwch benodi rhywun fel siaradwr ar eich rhan/rhan eich teulu - gallai'r person hwn fod yn berthynas neu'n ffrind neu eich cyfreithiwr. Mae rhai Grwpiau Cefnogi wedi penodi pobl i gysylltu â'r Cyfryngau a fydd yn ateb cwestiynau ar ran y Grŵp Cefnogi
  • peidiwch â gwneud dim byd ar frys - beth bynnag fydd y newyddiadurwr yn ei ddweud am derfynau amser. Gofynnwch iddo beth yr hoffai siarad â chi yn ei gylch; gofynnwch iddo ysgrifennu'r cwestiynau y mae am eu gofyn i chi; rhowch amser i chi'ch hun feddwl am yr hyn yr hoffech ei ddweud; ysgrifennwch eich atebion; gofynnwch i'r newyddiadurwr eich ffonio'n ôl ar amser penodol
  • gofynnwch a gewch weld yr hyn y mae am ei ddyfynnu gennych cyn y bydd yn cael ei argraffu - efallai na fydd yn caniatáu hyn, ond bydd yn ei wneud yn ymwybodol o'ch pryderon ynghylch yr hyn y mae am ei gyhoeddi
  • peidiwch byth â dweud unrhyw beth "yn answyddogol" oni bai eich bod chi a'r newyddiadurwr yn deall ystyr hyn
  • cofiwch fod gan newyddiadurwr yr hawl i ysgrifennu am unrhyw beth y byddwch yn ei ddweud, felly peidiwch â'i gamgymryd am gwnsler neu ffrind
  • dewch â'r sgwrs i ben os ydych yn anghyfforddus

Lluniau

Weithiau bydd newyddiadurwyr yn gofyn am luniau ohonoch, o'ch anwyliaid, ac o'ch teulu. Efallai yr hoffech ddarparu'r rhain, ond cofiwch nad oes yn rhaid i chi wneud hynny o gwbl. Os byddwch yn gwneud hynny, sicrhewch fod gennych gopi ohonynt a gofynnwch iddynt ddychwelyd y lluniau ac unrhyw eitemau personol eraill y byddwch yn eu rhoi.

Rhagor o gymorth

Gellir cael rhagor o gyngor manwl ar ddelio â'r cyfryngau gan Gomisiwn Cwynion y Wasg - gweler y manylion cyswllt uchod.

Mae gan y Comisiwn hefyd linell gyngor 24 awr ar gyfer achosion brys:

07659 152656 (gadewch neges a bydd rhywun yn eich ffonio'n ôl).

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU