Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Swyddogaeth yr heddlu, y Ganolfan Ddamweiniau ac awdurdodau lleol mewn digwyddiadau o bwys

Ar ôl unrhyw ddigwyddiad o bwys, mae'n bosib y byddwch eisiau gwneud ymholiadau am rywun y credwch y gellid eu bod wedi bod yn rhan ohono. Mae ffyrdd y gallwch wneud hyn, gan gynnwys defnyddio llinell gymorth neu Ganolfan Ddamweiniau'r Heddlu. Efallai hefyd y bydd gan Swyddogion Cyswllt Teulu'r Heddlu ran i'w chwarae yn dilyn digwyddiad.

Swyddogaeth Canolfan Ddamweiniau'r Heddlu

Yn aml yn ystod digwyddiadau o bwys bydd yr heddlu yn agor Canolfan Ddamweiniau er mwyn ymdrin yn benodol â phobl sydd ar goll, pobl sydd wedi goroesi, ffoaduriaid a thystion a chanddynt ran, neu y credir y bu ganddynt ran, yn y digwyddiad. Nid yw'n ganolfan wybodaeth gyffredinol, ac mae wedi ei chynllunio i gofrestru gwybodaeth a manylion yn hytrach na darparu gwybodaeth gyffredinol am ddigwyddiad.

Bydd yr heddlu'n darparu nifer o linellau ffôn, ond gan ddibynnu ar ba mor brysur ydynt, efallai y bydd oedi cyn i chi gael ateb. Cadwch gofnod o'r cyfeirnod a roddir i chi, a'i ddweud wrth y staff yn y Ganolfan Ddamweiniau pan fyddwch yn siarad â hwy.

Pan fydd y rhai fu farw neu'r rhai a oroesodd wedi eu hadnabod, rhoddir gwybod i'r sawl sy'n ymholi cyn gynted â phosib yn dilyn eu galwad, ond dylech gofio y gall hyn gymryd ychydig o amser. Os ydych chi wedi cysylltu â rhif y Ganolfan Ddamweiniau er mwyn rhoi gwybod am berson sydd ar goll, a'ch bod wedi dod o hyd iddynt ar ôl hynny, gwnewch yn siŵr eich bod yn galw'r Ganolfan Ddamweiniau eto er mwyn dweud hynny wrthynt. Bydd hyn yn gadael i'r heddlu a mudiadau eraill ganolbwyntio ar ddod o hyd i'r bobl hynny sy'n dal i fod ar goll.

Bydd rhif y Ganolfan Ddamweiniau yn wahanol ar gyfer pob digwyddiad. Os oes un wedi ei sefydlu bydd y rhif yn ymddangos ar hafan y wefan hon; caiff ei ddarlledu ar fwletinau newyddion hefyd.

Canolfan Dderbyn i Oroeswyr

Mewn rhai achosion, efallai y bydd yr heddlu yn agor un neu fwy o ganolfannau derbyn i oroeswyr. Efallai y bydd yr heddlu yn cyfweld goroeswyr na chawsant mo'u hanafu'n gorfforol yn y fan hon, er mwyn cael gwybod pwy oedd yn rhan o'r digwyddiad ac i ddysgu beth welson nhw a beth glywson nhw.

Canolfan Dderbyn Teulu a Ffrindiau

Weithiau, bydd yr heddlu'n sefydlu canolfan dderbyn teulu a ffrindiau gyda'r awdurdod lleol i helpu i aduno teulu a ffrindiau gyda goroeswyr. Gellir defnyddio hon hefyd i gofrestru teulu a ffrindiau, eu cyfweld a darparu lloches iddynt.

Swyddogaeth Swyddog Cyswllt Teulu'r Heddlu

Heddweision yw Swyddogion Cyswllt Teulu a fydd yn mynd at deuluoedd sy'n galaru yn ystod y broses ymchwilio, ac yn eu cynorthwyo wrth gyfnewid gwybodaeth rhwng y teulu ac un o uwch ymchwilwyr yr heddlu. Unwaith y cânt eu penodi, nhw fydd y prif bwynt cyswllt â'r teulu, fel arfer, yn union wedi argyfwng.

Mae'r Swyddogion Cyswllt Teulu yn gyfrifol am fod yn ddolen gyswllt rhwng y teulu a'r prif ymchwilydd. Yn fuan wedi digwyddiad, gall y Swyddog Cyswllt Teulu hefyd gynorthwyo yn y broses o gael cymorth sydd ar gael gan fudiadau eraill, gan gynnwys rhai statudol a gwirfoddol.

Llinellau cymorth sydd ar gael ar ôl digwyddiad o bwys

Mae'n debygol y bydd llinellau cymorth yn cael eu sefydlu er mwyn ymateb i ddigwyddiad, hyd yn oed os bydd Canolfan Ddamweiniau wedi cael ei hagor. Ni fyddant yn cyflawni'r un swyddogaeth â'r Ganolfan Ddamweiniau, sef cofrestru pobl sydd ar goll, ond byddant yn darparu gwybodaeth gyffredinol am y digwyddiad ac yn rhoi gwybod am y cymorth fydd ar gael.

Bydd y cyfrifoldeb am sefydlu llinell gymorth yn amrywio gan ddibynnu ar y digwyddiad. Os bydd llinell gymorth wedi ei sefydlu bydd y rhif yn ymddangos ar hafan y wefan hon, a chaiff ei ddarlledu ar fwletinau newyddion hefyd.

Mae'r Groes Goch Brydeinig wedi bod yn helpu i sefydlu llinellau cymorth ar gyfer nifer o ddigwyddiadau o bwys yn y DU a thramor. Bydd eu gwefan hwy'n dangos manylion unrhyw linell gymorth y maent wedi ei sefydlu, a manylion unrhyw gymorth ychwanegol y gallant ei gynnig.

Swyddogaeth awdurdodau lleol

Gan ddibynnu ar natur a lleoliad y digwyddiad, mae'n debyg y bydd gan yr awdurdod lleol perthnasol rywbeth i'w wneud â'r ymateb i'r digwyddiad. Mewn rhai achosion, efallai y byddant yn sefydlu cyfleuster penodol megis Canolfan Cymorth Dyngarol, a dyma fyddai'r canolbwynt ar gyfer gwybodaeth a chymorth i deuluoedd, goroeswyr ac eraill y mae'r digwyddiad wedi effeithio arnynt yn uniongyrchol.

Os oes canolfan wedi ei sefydlu mae'n debygol y bydd manylion ar gael ar wefan berthnasol yr awdurdod lleol, neu ar hafan Cross & Stitch.

Gwybodaeth bellach

Mae Disaster Action wedi cynhyrchu cyfres o daflenni sef 'When Disaster Strikes', a ysgrifenwyd gan ei aelodau, sydd i gyd wedi bod yn rhan o ddigwyddiadau o bwys. Mae'n rhoi gwybodaeth ar beth allai ddigwydd yn yr oriau, y dyddiau a'r wythnosau ar ôl y digwyddiad.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU