Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Ymatebion seicogymdeithasol i ddigwyddiad o bwys

Os ydych chi, aelod o'r teulu neu ffrind wedi bod yn rhan o ddamwain neu ddigwyddiad o bwys, efallai y byddwch yn ymateb mewn ffordd a fydd yn effeithio ar eich teimladau a'ch ymddygiad. Mae gwybodaeth a chyngor yr Adran Iechyd yma'n disgrifio sut y gallech fod yn teimlo yn ystod y dyddiau a'r misoedd ar ôl y digwyddiad a lle i fynd os ydych yn teimlo bod angen rhagor o gymorth a chefnogaeth arnoch.

Sut y gellir effeithio arnoch

Mae pobl a chymunedau'n rhyfeddol o gadarn ond mae digwyddiadau o bwys yn achosi sioc a gall rhai ohonynt fod yn llethol. Mae pobl yn ymateb yn wahanol a gall teimladau fod yn bwerus ac yn anodd iawn byw gyda nhw, ond maent fel arfer yn dod yn llai dwys wrth i amser fynd heibio.

Y bobl sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad yn uniongyrchol yw'r bobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y digwyddiad, ond gall tystion i ddigwyddiadau lle mae pobl wedi'u lladd fod â theimladau cryf hefyd. Bydd ffrindiau a pherthnasau nad ydynt yn rhan o'r digwyddiad yn uniongyrchol yn poeni am y rheini sydd yn rhan ohono.

Ar ôl y digwyddiad, efallai y byddwch yn teimlo:

  • wedi'ch syfrdanu, yn ddiymadferth neu'n ddideimlad
  • nad ydych yn sylweddoli beth sy'n digwydd o'ch cwmpas
  • nad ydych yn gallu derbyn beth sydd wedi digwydd
  • nad yw'r digwyddiad yn wir

Fel arfer, bydd y teimladau hyn yn pylu a bydd rhai eraill yn eu disodli yn ystod yr oriau neu'r dyddiau wedyn.

Yn ystod yr ychydig wythnosau canlynol, efallai y byddwch:

  • yn crïo ac yn drist
  • yn ofnus
  • yn bryderus
  • yn teimlo'n flin neu'n ddiamynedd
  • yn falch eich bod wedi goroesi
  • yn cael atgofion annymunol neu'n teimlo'n euog am y digwyddiad
  • yn cael problemau o ran canolbwyntio a/neu gofio pethau
  • yn cael trafferthion cysgu, yn cael hunllefau neu wedi blino
  • yn bwyta llai neu y bydd gennych lai o egni
  • yn gyndyn o drafod y digwyddiad neu eich bod am siarad am y peth o hyd
  • am osgoi pobl, lleoedd neu weithgareddau sy'n eich atgoffa o'r digwyddiad (gallai hyn gynnwys teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus)

Sut y gellir effeithio arnoch yn y tymor hwy

Mae'r meddyliau, y teimladau a'r ymddygiad a ddisgrifwyd uchod yn ymatebion cyffredin i ddigwyddiad o bwys. Weithiau bydd yr ymatebion hyn yn para dros ychydig o wythnosau ac, i rywfaint o bobl, gall y teimladau ddod yn fwy angerddol. Yn yr amgylchiadau hyn, efallai y byddai'n ddefnyddiol i chi gysylltu â'ch meddyg teulu neu gallwch gael cyngor gan NHS Direct. Ceir hefyd lawer o asiantaethau sydd wedi'u sefydlu i helpu pobl ar ôl profedigaeth ac ar ôl bod yn rhan o ddigwyddiadau o bwys. Gwelwch fod dolenni i ddewis o'r rhain ar ddiwedd y dudalen hon.

O bryd i'w gilydd gall ymatebion unigolyn ddangos eu bod yn datblygu problem gyda'u hiechyd meddwl megis pryder, iselder neu gyflwr o anhwylder straen ar ôl trawma. Os bydd hyn yn digwydd dylai eich meddyg teulu wneud trefniadau er mwyn asesu eich anghenion. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth Glinigol (NICE) wedi llunio taflen sy'n rhoi gwybodaeth am anhwylder straen wedi trawma (PTSD) a'i driniaeth.

Weithiau bydd digwyddiadau o bwys yn arwain at farwolaeth. Mae galar yn ymateb arferol i farwolaeth rhywun agos atoch. Pan fydd y farwolaeth yn sydyn ac yn annisgwyl, bydd ymatebion arferol i alar yn fwy angerddol, a gall y teimladau o sioc, dicter a thrallod deimlo'n llethol. Mae llawer o'r ymatebion i ddigwyddiad o bwys yn debyg i ymatebion galar, ac os ydych wedi goroesi digwyddiad a hefyd wedi bod mewn profedigaeth o ganlyniad i'r un digwyddiad, efallai y bydd yn hynod o anodd i chi. Dylai'r ffynonellau cymorth a restrir ar waelod y dudalen hon eich helpu.

Sut gallwch chi helpu eich hun

Gall pawb gael budd o gefnogaeth gan berthnasau a ffrindiau ar ôl digwyddiad o bwys, ond mae rhai pethau y gallwch eu gwneud i'ch helpu eich hun a phethau y dylech osgoi eu gwneud.

Beth sy'n ddefnyddiol fel arfer?

  • gwnewch bethau sy'n gwneud i chi deimlo'n ddiogel ac yn saff
  • ceisiwch ailsefydlu eich trefn arferol fel mynd i'r gwaith neu i'r ysgol
  • gofalwch amdanoch eich hun yn gorfforol; dylech fwyta'n iawn, a gwneud ymarfer corff yn rheolaidd
  • dylech gymryd un dydd ar y tro
  • byddwch yn amyneddgar gyda chi'ch hun; gall gymryd rhai wythnosau neu fisoedd i chi deimlo eich bod chi a'ch bywyd yn ôl i drefn eto
  • gadewch i'ch ffrindiau a'ch perthnasau fod yn gefnogol
  • ceisiwch gael digon o gwsg
  • siaradwch am y peth pan fyddwch yn barod i wneud hynny, ond, peidiwch â phoeni os byddwch dan deimlad neu'n crïo
  • byddwch yn fwy gofalus; ar ôl digwyddiad o bwys, mae pobl yn fwy tebygol o gael damweiniau

Beth nad yw'n debygol o helpu?

  • alcohol a chyffuriau; er y gallant fferru eich teimladau, gallant hefyd eich atal rhag dod i delerau â'r hyn sydd wedi digwydd neu achosi mwy o broblemau yn ddiweddarach
  • cadw pethau i chi'ch hun; dylech adael i chi'ch hun siarad am y peth pan fyddwch yn barod i wneud hynny
  • ynysu eich hun oddi wrth bobl eraill, er y gallai dod o hyd i amser i fyfyrio ar eich pen eich hun fod yn ddefnyddiol

Cael rhagor o help

Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd wedi bod mewn digwyddiad o bwys yn gwella dros amser. Fodd bynnag, os ydych yn dal i gael trafferthion ar ôl pythefnos, efallai y byddai cyngor gan eich meddyg teulu'n ddefnyddiol i chi.

Mae NHS Direct yn cynnig gwasanaeth cyngor a gwybodaeth am iechyd 24 awr. Ffoniwch NHS Direct ar 0845 4647.

Dyma rai o'r grwpiau cefnogi a'r sefydliadau gofalu a allai fod yn ddefnyddiol i chi:

  • Mae'r Samariaid yn cynnig llinell gymorth 24 awr ar gyfer y rheini mewn argyfwng. Ffoniwch 08457 909090
  • Mae Gofal Galaru Cruse yn cynnig gwasanaethau cwnsela, cynghori a chymorth ledled y DU. Ffoniwch 0844 477 9400 (o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9.30am a 5pm)
  • Mae Disaster Action yn darparu cymorth ac arweiniad i'r bobl hynny yr effeithir arnynt gan drychinebau. Ffoniwch 01483 799 066
  • Mae Assist Trauma Care yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chefnogi dros y ffôn i unigolion a theuluoedd ar ôl trawma. Ffoniwch 01788 560800 (Llinell Gymorth)

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU