Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Cyngor ariannol a chyfreithiol ar ôl digwyddiad o bwys

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod yn rhan o ddigwyddiad o bwys efallai y bydd angen i chi gael cymorth ariannol neu gyfreithiol. Bydd y cymorth yn amrywio yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol. Gall cymorth ariannol gynnwys cael iawndal am anafiadau a gawsoch ar ôl dioddef trosedd treisgar, taliadau o gronfeydd a sefydlwyd fel ymateb i ddigwyddiad, neu gall gynnwys amrywiaeth o fudd-daliadau gan y wladwriaeth.

Cymorth ariannol ar ôl digwyddiad o bwys

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod wedi bod yn rhan o argyfwng naill ai yn y DU neu dramor, mae'n bosib y bydd cymorth ariannol ar gael i helpu gyda rhai o'r problemau ariannol y bydd angen delio â hwy yn syth.

Yr Awdurdod Digolledu am Anafiadau Troseddol (CICA)

Mae CICA yn gyfrifol am weinyddu'r Cynllun Digolledu am Anafiadau Troseddol ledled Cymru, Lloegr a'r Alban. Mae'n talu iawndal i ymgeiswyr cymwys sydd wedi dioddef trosedd treisgar, gan gynnwys ymosodiad gan derfysgwyr.

Gallwch gysylltu â hwy yn:

CICA
Tay House
300 Bath Street
Glasgow
G2 4LN

Rhadffôn: 0800 358 3601

I gael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am iawndal dan y cynllun, gallwch gwblhau'r holiadur “ydw i'n gymwys” ar eu gwefan.

Budd-daliadau

Efallai y bydd gennych hawl i ystod o fudd-daliadau a ddarperir gan y Ganolfan Byd Gwaith, un o asiantaethau'r Adran Gwaith a Phensiynau. Gallant roi cyngor am fudd-daliadau y gallech eu hawlio os nad ydych yn gallu gweithio oherwydd salwch neu anabledd.

Defnyddiwch y ddolen isod i gael gwybodaeth fwy cyffredinol am fudd-daliadau a mwy o ddolenni at wybodaeth am fudd-daliadau penodol.

Gwarchodaeth Yswiriant

Ceir amrywiol bolisïau yswiriant a allai eich gwarchod os bydd digwyddiad o bwys, megis yswiriant damweiniau personol. Cysylltwch â'ch yswiriwr i gael gwybod a ydych yn gymwys ai peidio.

Cymorth ariannol ychwanegol

Yn dilyn y ffrwydradau yn Llundain yn 2005, sefydlwyd cronfa Cymorth Elusennol Ffrwydradau Llundain er mwyn dosbarthu arian a roddwyd i gefnogi'r rheini yr effeithiwyd arnynt gan y digwyddiad. Os oes cronfa wedi'i sefydlu ar gyfer digwyddiad yr oeddech yn rhan ohono, bydd hyn, yn fwy na thebyg, yn cael ei hysbysebu drwy'r Groes Goch Brydeinig.

Canolfan Cyngor Ar Bopeth (CAB)

Mae'n bosib y gall CAB gynnig rhagor o gyngor a gwybodaeth am gymorth ariannol.

Cyngor cyfreithiol

Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod wedi bod yn rhan o ddigwyddiad o bwys, mae'n bosib y byddwch am geisio cyngor cyfreithiol. Mewn rhai achosion yn dilyn digwyddiad o bwys, efallai y bydd cwmnïau cyfreithiol yn cynnig eu gwasanaethau ar sail pro bono (gwaith proffesiynol a wneir heb dâl). Os byddwch yn ceisio cyngor cyfreithiol, efallai y bydd yn ddefnyddiol holi a oes gan y cwmni brofiad o gynorthwyo cleientiaid yn dilyn argyfwng.

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae Cyngor Cyfreithiol Cymunedol yn wasanaeth cyfrinachol di-dâl y telir amdano drwy gymorth cyfreithiol. Gall ddarparu cymorth a chyngor ynghylch ystod o faterion cyfreithiol cyffredin yng Nghymru a Lloegr.

Rhif y llinell gymorth yw 0845 345 4345 (dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 09.00 a 18.30). Gallwch hefyd ysgrifennu i'r cyfeiriad isod:

Head Office
Legal Services Commission
85 Grays Inn Road
Llundain
WC1X 8TX

Mae dolenni'r Ganolfan Cyngor Ar Bopeth isod yn rhoi rhywfaint o gefndir o ran cymorth gyda chostau cyfreithiol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU