Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Iau, 4 Hydref 2012

Gwarchodaeth ar gyfer aelodau undebau llafur rhag cael eu rhoi ar restr ddu

Mae gennych chi’r hawl i beidio â chael eich rhoi ar ‘restr ddu’ gan unrhyw unigolyn, busnes neu sefydliad arall oherwydd eich bod yn aelod o undeb llafur neu’ch bod yn gweithredu ag undeb llafur. Yma, cewch wybod beth yw rhestrau du a sut rydych yn cael eich gwarchod rhag cael eich rhoi ar restr ddu.

Rhoi aelodau undebau llafur ar restrau du

‘Rhestrau du' yw lle mae sefydliad yn casglu gwybodaeth am aelodau undebau llafur er mwyn galluogi’r sefydliad hwnnw neu eraill i drin gweithwyr neu ymgeiswyr swydd yn llai ffafriol am eu bod yn aelodau o undebau llafur neu am eu bod yn gweithredu ag undebau llafur.

Yn y gorffennol, mae rhestrau du undebau llafur wedi canolbwyntio ar aelodau blaenllaw o undebau llafur, er enghraifft, stiwardiaid siopau neu gynrychiolwyr eraill yn y gweithle. Fodd bynnag, maent hefyd wedi nodi aelodau cyffredin.

Er 2 Mawrth 2010, mae’n anghyfreithlon i unrhyw unigolyn, busnes neu sefydliad arall lunio, cyflenwi, gwerthu neu ddefnyddio rhestr ddu.

Mae hefyd yn anghyfreithlon i gyflogwr wneud y canlynol:

  • gwrthod eich cyflogi am reswm sy’n gysylltiedig â rhestr ddu
  • eich diswyddo am reswm sy’n gysylltiedig â rhestr ddu
  • eich trin yn annheg am reswm sy’n gysylltiedig â rhestr ddu (e.e. gwrthod rhoi dyrchafiad neu godiad cyflog i chi)

Mae hefyd yn anghyfreithlon i asiantaeth gyflogi wrthod darparu ei gwasanaethau i chi am reswm sy’n gysylltiedig â rhestr ddu.

Gallai cyflogwyr ac asiantaethau cyflogi fod yn ymddwyn mewn modd anghyfreithlon os byddant yn gwneud y canlynol:

  • cael gafael ar y rhestrau du yn uniongyrchol
  • cael gafael arnynt yn anuniongyrchol drwy ddynion yn y canol neu drwy ganolwyr eraill

Pan fydd ‘rhestr' yn tro’n 'rhestr ddu'

Mae ‘rhestr ddu’:

  • yn cynnwys gwybodaeth am aelodau neu weithredwyr undebau llafur
  • wedi’i llunio er mwyn cael ei defnyddio gan gyflogwyr neu asiantaethau cyflogi i wahaniaethu ar sail bod yn aelod o undeb llafur neu weithredu ag undeb llafur, wrth iddynt recriwtio neu gyflogi pobl

Gwarchodir pawb sydd ar restr ddu, hyd yn oed os yw’r rhestr yn cynnwys manylion aelodau undebau llafur ac aelodau undebau eraill.

Gall rhestr ddu gael ei storio ar unrhyw ffurf – ar gopi caled neu’n electronig. Er enghraifft, gallai fod yn ffeil sydd wedi’i hamgryptio neu ei hamgodio neu gallai fod yn gasgliad o wahanol bapurau. Gallai’r rhestr ddu fod yn wybodaeth mewn mwy nag un lleoliad, e.e. data a gedwir ar beiriannau gwahanol gan ddefnyddio amrywiaeth o feddalwedd.

Gallai rhestr ddu gofnodi unrhyw wybodaeth am unigolion. Mae’r rhan fwyaf yn debyg o gynnwys enwau, cyfeiriadau, rhifau Yswiriant Gwladol neu wybodaeth adnabod arall. Gallai rhai hefyd gyfeirio at weithgaredd y rheini a restrir ag undebau llafur, eu galwedigaethau a'u hanes gwaith.

Eithriadau yn ymwneud â ‘rhestrau du’

Ceir amgylchiadau lle y gallwch chi, eich cyflogwr neu eraill lunio, cyflenwi, gwerthu neu ddefnyddio rhestr ddu yn gyfreithlon.

Er enghraifft, gallwch gyflenwi neu ddefnyddio rhestr ddu yn gyfreithlon er mwyn tynnu sylw at y ffaith ei bod yn bodoli, ar yr amod eich bod yn gwneud y canlynol:

  • gweithredu er lles y cyhoedd
  • peidio â chyhoeddi enwau'r rheini a restrir heb ganiatâd yr unigolion dan sylw

Mae eithriadau eraill yn benodol berthnasol i gyfreithwyr, darparwyr gwasanaethau postio ac undebau llafur. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y rhain ac am eithriadau eraill ar wefan yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau.

Rhestrau du y tu allan i Brydain Fawr

Dim ond i Brydain Fawr y mae'r gyfraith newydd ynghylch rhestrau du yn berthnasol. Golyga hyn nad yw unrhyw restr ddu a luniwyd y tu allan i Brydain Fawr yn cael ei gwarchod o dan y gyfraith. Fodd bynnag, os yw cyflogwr wedi’i leoli ym Mhrydain yn defnyddio rhestr ddu a luniwyd neu sy'n cael ei chadw y tu allan i Brydain Fawr er mwyn gwahaniaethu yn eich erbyn, bydd y cyflogwr hwnnw yn dal i fod yn ymddwyn mewn modd anghyfreithlon.

Rhestrau eraill y mae’n bosib y bydd eich cyflogwr neu asiantaeth gyflogi yn eu defnyddio

Mae bron yn bendant bod gan eich cyflogwr presennol neu eich cyn gyflogwr wybodaeth amdanoch chi ac eraill. Er enghraifft, mae’n bosib bod ganddynt fanylion eich cyflog a’ch cyfeiriad. Fel arfer, bydd y rhestrau hyn yn gyfreithlon ac yn ddefnyddiol i chi.

Weithiau, mae’n bosib y bydd rhestrau'n cynnwys gwybodaeth llai ffafriol amdanoch, megis eich cofnodion disgyblu neu bresenoldeb. Ond, nid yw’r ffaith bod eich cyflogwr yn cofnodi gwybodaeth anffafriol yn golygu bod rhestr ddu yn bodoli na bod eich cyflogwr yn ymddwyn yn anghyfreithlon.

Mae’n arfer cyffredin i gyflogwyr neu asiantaethau cyflogi gyflawni archwiliadau cyn cyflogi. Ceir rheolau y dylent eu dilyn, ond fel arfer, bydd yr archwiliadau hyn yn gyfreithlon.

Ble i gael cymorth

Mae’n bosib y gallech gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth neu'r llysoedd am restrau du. I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ‘Cwyno am restrau du’.

Additional links

Chwiliad swyddi a sgiliau

Chwilio am swydd, hyfforddiant, gwybodaeth gyrfaoedd neu waith gwirfoddol

Allweddumynediad llywodraeth y DU