Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Cwyno am restrau du

Os ydych chi wedi cael eich rhoi ar restr ddu, yna mae'n bosib bod gennych chi'r hawl i gael iawndal gan y rheini sy'n gyfrifol. Yma, cewch wybod am eich hawl i warchod eich hun rhag pobl sy’n llunio rhestrau du, a’r camau y dylech eu cymryd os ydych am gwyno.

Cyn cwyno

Mae’n bosib y byddwch yn gallu cwyno wrth y canlynol:

  • Tribiwnlys Cyflogaeth
  • y Llysoedd Sirol yng Nghymru a Lloegr neu Llysoedd y Sesiwn yn yr Alban

Yn gyffredinol, bydd angen i chi benderfynu pa lwybr i’w ddilyn. Ni chewch hawlio iawndal gan gyflogwr mewn Tribiwnlys Cyflogaeth ac mewn llys am yr un golled a gawsoch.

Fodd bynnag, os byddwch yn gwneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth, gallwch hefyd ofyn i'r llys atal neu rwystro cyflogwr rhag eich rhoi ar restr ddu. Felly, gallech ofyn i’r llys orchymyn cyflogwr i beidio â defnyddio rhestr ddu, a hawlio iawndal mewn Tribiwnlys Cyflogaeth ar yr un pryd.

Cwyno wrth y Tribiwnlys Cyflogaeth

Mae’n bosib y gallech wneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth os bu i gyflogwr wneud un o'r canlynol:

  • gwrthod eich cyflogi am reswm sy’n gysylltiedig â rhestr ddu
  • eich diswyddo am reswm sy’n gysylltiedig â rhestr ddu
  • eich trin yn annheg am reswm sy’n gysylltiedig â rhestr ddu (e.e. gwrthod rhoi dyrchafiad neu godiad cyflog i chi)

Mae’n bosib y byddwch hefyd yn gallu gwneud hawliad os gwnaeth asiantaeth gyflogi wrthod darparu ei gwasanaethau i chi am reswm sy’n gysylltiedig â rhestr ddu.

Fel arfer, dylech gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth cyn pen tri mis ar ôl yr ymddygiad dan sylw. Fodd bynnag, gan ei bod yn bosib i restrau du fod yn gudd am flynyddoedd lawer, gall Tribiwnlys Cyflogaeth roi estyniad ar y terfyn amser hwn os byddai gwneud hynny'n deg ac yn rhesymol.

Gallai natur gyfrinachol rhestrau du ei gwneud yn anodd i chi brofi eich achos yn y ffordd arferol. Er mwyn caniatáu ar gyfer hyn, mae’n bosib y bydd angen i’r cyflogwr neu’r asiantaeth gyflogi brofi na thorrwyd y gyfraith. Bydd angen i chi ddarparu digon o ffeithiau sy'n dangos, yn absenoldeb unrhyw eglurhad arall, bod cyflogwr wedi gwneud un o'r canlynol yn anghyfreithlon:

  • llunio rhestr ddu
  • defnyddio rhestr ddu
  • dosbarthu rhestr ddu

Gallwch gwyno am fwy nag un unigolyn neu sefydliad yn yr un achos, os byddwch yn credu bod mwy nag un unigolyn neu sefydliad yn ymwneud â rhestrau du. Er enghraifft, gallech gwyno am yr unigolyn a luniodd neu a ddosbarthodd y rhestr yn ogystal â’r busnes a ddefnyddiodd y rhestr ddu.

Os bydd eich hawliad yn llwyddiannus, gall y Tribiwnlys Cyflogaeth wneud y canlynol:

  • dyfarnu iawndal i chi
  • argymell bod y cyflogwr neu’r asiantaeth gyflogi yn cymryd camau er mwyn gwneud iawn am y niwed a gawsoch

Y lleiafswm o iawndal y gall Tribiwnlys Cyflogaeth ei ddyfarnu yw £5,000 (er y gall hyn gael ei leihau mewn rhai achosion). Yr iawndal mwyaf y gall Tribiwnlys Cyflogaeth ei ddyfarnu yw £65,300.

I gael rhagor o wybodaeth ynghylch gwneud hawliad i Dribiwnlys Cyflogaeth, darllenwch ‘Tribiwnlysoedd Cyflogaeth: cyflwyniad’.

Llwybr y llysoedd

Os yw cael eich rhoi ar restr ddu wedi achosi colled i chi, neu os ydyw'n bygwth achosi colled i chi, gallwch wneud hawliad i'r llys. Mae’r hawl hon ar gael i unrhyw un, gan gynnwys pobl hunangyflogedig na chânt gwyno wrth Dribiwnlys Cyflogaeth fel arfer.

Gallwch gwyno am unrhyw unigolyn, busnes neu unrhyw un arall os ydyw wedi gwneud un o’r canlynol:

  • creu rhestr ddu
  • dosbarthu rhestr ddu
  • gwerthu rhestr ddu
  • defnyddio rhestr ddu

Fel arfer, dylech gwyno wrth y llysoedd cyn pen chwe blynedd ar ôl y digwyddiad.

Wrth ystyried y cwynion hyn, bydd y llys yn dilyn yr un rheolau â Thribiwnlys Cyflogaeth wrth benderfynu a ddylech chi neu’r diffynnydd brofi eich achosion.

Nid oes gan y llysoedd derfynau ar y swm y cânt ei ddyfarnu. Os bydd eich cwyn yn llwyddiannus, gallant hefyd ddyfarnu iawndal am fod eich teimladau wedi cael eu brifo.

Gall y llysoedd hefyd wneud gorchmynion, gan gynnwys rhai sydd ar sail dros dro a elwir yn ‘orchmynion yng nghwrs achos’ i rwystro sefydliadau rhag creu neu ddefnyddio rhestrau du.

Additional links

Chwiliad swyddi a sgiliau

Chwilio am swydd, hyfforddiant, gwybodaeth gyrfaoedd neu waith gwirfoddol

Allweddumynediad llywodraeth y DU