Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Tynnu carafán neu drelar – y rheoliadau diogelwch

Cyn cychwyn ar daith gyda threlar neu garafán, gwnewch yn siŵr eich bod yn bodloni’r gofynion cyfreithiol ar gyfer tynnu cerbyd. Gwnewch yn siŵr fod gennych chi’r drwydded yrru briodol ar gyfer gwneud hynny a bod y cerbyd yn ddiogel i'w yrru. Gwnewch yn siŵr hefyd fod gennych chi'r offer priodol er mwyn bod yn ddiogel ar y ffordd.

Gwneud yn siŵr bod y drwydded yrru briodol gennych chi

Os gwnaethoch basio’ch prawf gyrru ar ôl 1 Ionawr 1997 a bod gennych drwydded Categori B cyffredin, gallwch yrru'r cerbydau canlynol:

  • cerbyd ag uchafswm pwysau gros o hyd at 3.5 tunnell (3,500 cilogram) sy’n tynnu cerbyd ag uchafswm pwysau gros o hyd at 750 cilogram (hyd at 4,250 cilogram i gyd)
  • trelar â’i uchafswm pwysau gros yn fwy na 750 cilogram ar yr amod nad yw’n fwy na phwysau di-lwyth y cerbyd sy’n tynnu (hyd at 3,500 cilogram i gyd)

Ar gyfer unrhyw beth trymach, bydd angen i chi sefyll prawf gyrru Categori B + E.

Mae’r rheolau’n wahanol i yrwyr sydd wedi pasio eu prawf cyn 1 Ionawr 1997 a heb gael eu gwahardd ers hynny. Gallwch weld y manylion llawn drwy ddilyn y ddolen isod.

Gwybod beth yw’r lled a’r pwysau mwyaf y cewch chi eu tynnu

Mae gan y rhan fwyaf o geir safonol uchafswm pwysau tynnu a argymhellir. Fel arfer, mae wedi’i nodi yn y llawlyfr neu ar ddalen manyleb y cerbyd. Mae hefyd wedi’i nodi ar blât rhif adnabod cerbyd (VIN) y car.

Fel rheol, mae’r plât rhif adnabod cerbyd o dan y bonet neu y tu mewn i ddrws y gyrrwr. Bydd yn nodi uchafswm pwysau’r cerbyd a’r uchafswm pwysau cyfun. Ystyr uchafswm pwysau’r cerbyd yw pwysau’r car â llwyth llawn, a’r pwysau cyfun yw uchafswm pwysau’r car a’r trelar. Os nad yw'r pwysau cyfun wedi’i nodi ar eich plât rhif adnabod cerbyd, ni ddylech ddefnyddio’ch cerbyd ar gyfer tynnu cerbyd.

Lled a hyd

Yr uchafswm lled ar gyfer unrhyw gerbyd tynnu yw 2.55 metr. Yr uchafswm hyd ar gyfer trelar sy’n cael ei dynnu gan gerbyd sy’n pwyso hyd at 3.5 tunnell (3,500 cilogram) yw 7 metr.

Gwneud yn siŵr bod eich offer yn bodloni’r safonau diogelwch

Mae'n rhaid i’r offer rydych yn eu defnyddio gyda’ch trelar neu'ch carafán fodloni rhai safonau diogelwch.

Defnyddio bar tynnu sydd wedi’i gymeradwyo

Os byddwch yn cael bar tynnu ar gyfer eich car, gwnewch yn siŵr ei fod wedi cael ei gymeradwyo. Mae hyn yn golygu ei fod yn bodloni rheoliadau’r UE a'i fod wedi’i gynllunio ar gyfer eich car chi. Bydd gan far tynnu sydd wedi'i gymeradwyo label gyda rhif cymeradwyo a manylion y cerbydau y mae wedi’i gymeradwyo ar eu cyfer.

Os cafodd eich car ei gofrestru cyn 30 Gorffennaf 1998, does dim angen i'r bar tynnu fod wedi'i gymeradwyo.

Gosod drychau tynnu os oes eu hangen arnoch

Os yw’ch carafán neu'ch trelar yn lletach na chefn y cerbyd tynnu, mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i chi osod drychau tynnu addas. Fel rheol, mae’r llythyren ‘E’ wedi’i nodi ar y drychau hyn, sy’n golygu eu bod yn bodloni gofynion yr UE.

Os byddwch chi’n tynnu cerbyd heb ddrychau tynnu neu’n defnyddio drychau anaddas, mae’n bosib y cewch chi:

  • eich erlyn gan yr heddlu
  • tri phwynt ar eich trwydded
  • dirwy o hyd at £1,000

Gwneud yn siŵr bod breciau eich trelar yn gweithio

Mae’n rhaid i unrhyw drelar sy’n pwyso dros 750 cilogram gael system frecio sy'n gweithio. Mae gan rai trelars llai freciau hefyd, ond mae'r rhain yn ddewisol. Mae’n rhaid bod unrhyw freciau ar drelar neu garafán yn gweithio’n dda. Os nad ydych wedi defnyddio’r trelar ers tro, efallai y bydd angen gwneud yn siŵr bod y breciau'n gweithio a gwneud gwaith arnynt.

Tynnu car gan ddefnyddio doli neu Ffrâm-A

Os byddwch chi’n cysylltu Ffrâm-A i gerbyd er mwyn ei dynnu gyda cherbyd mwy, mae'r car a'r Ffrâm-A yn cyfrif fel trelar.

Os byddwch chi’n defnyddio doli i dynnu cerbyd sydd wedi torri i lawr, mae’r doli’n cyfrif fel trelar.

Mae’r rheoliadau diogelwch arferol ar gyfer trelars yn berthnasol yn y ddau achos.

Defnyddio eich beic modur i dynnu trelar

Gallwch ddefnyddio’ch beic modur i dynnu trelar:

  • os oes gan eich beic modur injan fwy na 125cc ac os yw ei bwysau di-lwyth wedi’i nodi’n glir ac yn barhaol arno
  • os yw’r trelar yn ddim mwy na 1 metr o led, a’r pwysau di-lwyth wedi’i nodi’n glir ac yn barhaol arno

Pan fydd y trelar wedi’i lwytho, ni ddylai bwyso mwy na 150 cilogram neu ddwy ran o dair o bwysau di-lwyth y beic modur – pa un bynnag yw’r ysgafnaf.

Ar ôl eu cysylltu, ni ddylai’r pellter rhwng diwedd y trelar ac echel ôl y beic modur fod yn fwy na 2.5 metr.

Tynnu carafán neu drelar Americanaidd

Nid yw carafanau na threlars Americanaidd bob amser yn bodloni rheoliadau diogelwch Ewrop. Er enghraifft, yn aml bydd y systemau brecio a maint y belen gysylltu (ball hitch) yn wahanol.

Os ydych chi’n ystyried defnyddio un o’r carafanau neu drelars hyn ym Mhrydain neu'n rhywle arall yn yr Undeb Ewropeaidd, rhaid i chi wneud yn siŵr ei fod yn gyfreithiol yn gyntaf. Dilynwch y ddolen isod i lwytho’r daflen ffeithiau ynghylch defnyddio un o’r carafanau neu drelars hyn ym Mhrydain.

Additional links

Gyrrwch yn ofalus

Gallai’r tywydd ac amodau’r ffyrdd newid, felly gyrrwch yn ofalus

PWYLLWCH! cyngor diogelwch ar y ffyrdd

Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PWYLLWCH!

Hyfforddiant achlysurol CPC i yrwyr

Os ydych chi’n yrrwr bws, bws moethus neu lori proffesiynol, bydd angen i chi ddilyn 35 awr o hyfforddiant achlysurol

Allweddumynediad llywodraeth y DU