Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU
Gall gyrru gan gludo anifail byw fod yn straen. Dilynwch y cyngor hwn gan yr Asiantaeth Priffyrdd i wneud yn siŵr y bydd eich siwrnai yn fwy diogel a’ch ceffyl yn fwy cyfforddus.
Mae peryglon ynghlwm wrth gludo anifeiliaid. Os bydd eich cerbyd yn torri i lawr neu os cewch chi ddamwain, gallech achosi oedi hir, yn enwedig os bydd problemau gyda’ch yswiriant achub cerbydau.
Petai eich anifeiliaid yn dianc o’r cerbyd ac yn dychryn, gallent ruthro i’r ffordd ac achosi damwain ddifrifol.
Gallwch leihau'r peryglon hyn drwy gynllunio'n ofalus a dilyn y canllawiau isod.
Os ydych chi'n tynnu ôl-gerbyd da byw/ceffylau neu fen rydd (loosebox) yn hytrach na fan geffylau ar ffurf lori, dylech wneud y canlynol:
Efallai yr hoffech hefyd wylio ffilm ddiogelwch ‘Fit to Tow’ yr Asiantaeth Priffyrdd – dilynwch y ddolen isod. Gallwch hefyd lwytho rhestr wirio Fit to Tow isod. Gallwch archebu copi o’r DVD Fit to Tow drwy Linell Wybodaeth yr Asiantaeth Priffyrdd ar 0300 123 5000.
Os nad ydych wedi’ch diogelu’n llawn i gludo anifail, gallech gael bil ar gyfer trefnu stabl i'r anifail petai eich cerbyd yn torri i lawr. Mae broceriaid yswiriant arbenigol ar gael sy'n cynnig cynlluniau torri i lawr ar gyfer ôl-gerbydau da byw/fan geffylau. Gallwch ddod o hyd iddynt drwy roi’r ymadrodd ‘equine insurance brokers’ neu ‘livestock insurance brokers’ mewn peiriant chwilio safonol.
Ceisiwch gael eich anifail i arfer â theithio drwy fynd ar ambell daith fer yn yr ôl-gerbyd cyn cychwyn ar siwrnai hir.
Cynlluniwch eich siwrnai a chadw llygad ar yr wybodaeth ddiweddaraf am draffig er mwyn osgoi cyfnodau hir o oedi.
Yn ogystal â'r pecyn argyfwng cyffredin, gwnewch yn siŵr fod gennych y canlynol:
Os ydych yn cludo ceffyl, dylech fynd â’r canlynol gyda chi hefyd:
Os ydych yn cludo ceffyl, gwnewch yn siŵr ei fod wedi'i ffrwyno a bod ganddo rwymau neu esgidiau sy'n ei ffitio'n dda. Sylwer nad yw hyn yn addas o bosib ar gyfer ebolion neu stoc heb eu trin.
Peidiwch â thynnu’ch anifail o'r cerbyd. Ceisiwch gadw'r anifail mor ddigynnwrf a chyfforddus â phosib a gwneud yn siŵr bod ganddo ddigon o aer. Mewn ôl-gerbyd, dylech agor drws y gwas os nad yw’n wynebu’r traffig ac y gallwch wneud hynny’n ddiogel. Mewn lori, dylech aros gyda'r anifail os yw’n bosib.
Os hoffech gael gwybodaeth fanwl am dynnu cerbydau, gallwch lwytho copi o gylchgrawn ‘Hitched’ yr Asiantaeth Priffyrdd drwy ddilyn y ddolen isod.
Mae fersiwn copi caled ar gael hefyd sy’n cynnwys atlas ffyrdd y DU. Gallwch archebu copi drwy ffonio Llinell Wybodaeth yr Asiantaeth Priffyrdd ar 0300 123 5000 neu anfon e-bost at
Cael gwybod sut i gadw’n ddiogel ar y ffyrdd gyda ffeithiau, ystadegau, hysbysiadau a gemau PWYLLWCH!