Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beiciau pedlo gyda chymorth trydanol ym Mhrydain Fawr

Cyn i chi yrru beic pedlo gyda chymorth trydanol (EAPC) ym Mhrydain Fawr, bydd angen i chi edrych i weld pa reoliadau EAPC y mae'n eu bodloni. Bydd angen i chi wybod a ddylech gael trwydded yrru, ac a ddylech gofrestru’r beic pedlo a thalu treth arno, i gyd yn dibynnu ar reoliadau EAPC.

Beiciau pedlo o dan reoliadau EAPC

Mae rheoliadau EAPC wedi’u sefydlu ar gyfer beiciau, beiciau tandem a threisiclau penodol sydd â phedalau a modur trydan sy’n darparu cymorth i’r cerbyd.

Mae’n rhaid i’r gofynion canlynol fod yn berthnasol:

  • ni ddylai’r modur trydan allu gyrru’r beic pedlo ymlaen pan mae’n teithio ar gyflymder o fwy na 15 milltir yr awr
  • ni ddylai uchafswm màs awdurdodedig y beic pedlo, gan gynnwys y batri ond nid y gyrrwr, bwyso mwy na 40 cilogram (kg) ar gyfer beic a 60 kg ar gyfer beiciau tandem a threisiclau
  • Ni ddylai uchafswm allbwn pŵer y modur fod yn uwch na 200 wat ar gyfer beiciau a 250 wat ar gyfer beiciau tandem a threisiclau
  • mae’n rhaid i’r beic fod â phlât yn dangos y gwneuthurwr, foltedd enwol y batri, ac allbwn pŵer y modur

Os yw’r beic pedlo yn bodloni'r gofynion hyn, ni fydd angen ei gofrestru, ei drethu na'i yswirio ac ni fydd angen trwydded yrru arnoch. Bydd angen i chi fod dros 14 mlwydd oed er mwyn cael gyrru EAPC.

Beiciau pedlo nad ydynt yn dod o dan reoliadau EAPC

Ceir rhai beiciau pedlo sy’n wahanol oherwydd sawl ffactor. O bosib, oherwydd allbwn pŵer y modur, y cyflymder y gallai pŵer dal gael ei ddarparu, y pwysau, neu’r ffaith nad oes pedalau i’w defnyddio i helpu i bweru’r peiriant.

Hefyd, ceir rhai beiciau trydan sydd â switsh sy'n cynnig cynnydd dros dro i’r cyflymder uchaf, sy’n aml yn cael ei hysbysebu fel cyfleuster ‘oddi ar y ffordd’.

Dealltwriaeth yr Adran Drafnidiaeth yw nad ydy’r cerbydau hyn yn bodloni gofynion yr EAPC. Bydd angen i fath y beic pedlo gael ei gymeradwyo, a bydd rhaid cofrestru’r beic pedlo a thalu treth arno. Hefyd, bydd arnoch angen trwydded yrru a bydd angen i chi wisgo helmed beic modur.

Cymeradwyaeth math ar gyfer beic pedlo

Bydd angen i chi gael Tystysgrif Cydymffurfio Ewropeaidd ar gyfer eich beic pedlo, sydd wedi’i gyhoeddi gan y gwneuthurwr, fel rhan o’r weithdrefn cymeradwyaeth math neu asesiad cyn-cofrestru unigol.

Proses brofi yw cymeradwyaeth math i sicrhau bod pob cerbyd yn y DU yn cwrdd â safonau diogelwch ac amgylcheddol Ewropeaidd a domestig ill dau. Pan fydd math eich cerbyd wedi’i gymeradwyo, gall eich cerbyd gael ei gofrestru gyda’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau.

Gallwch gael gwybod mwy am sut i gymeradwyo math eich cerbyd ar wefan Businesslink.

Gwybodaeth bellach

Gallwch ddod i wybod mwy am feiciau pedlo drwy gysylltu â’r Adran Drafnidiaeth.

Safonau a Thechnoleg Trafnidiaeth 3
Yr Adran Drafnidiaeth
Zone 2/04
Great Minster House
76 Marsham Street
Llundain SW1P 4DR

E-bost: TTS.enquiries@dft.gsi.gov.uk
Ffôn: 0207 944 2078
Ffacs: 0207 944 2196

Additional links

Dod o hyd i hyfforddwyr gyrru

Dod o hyd i’ch hyfforddwyr gyrru wedi’u cymeradwyo agosaf

Allweddumynediad llywodraeth y DU