Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gyrru cartrefi modur

Ydych chi'n ystyried prynu neu logi cartref modur (carafán modur) i fynd ar eich gwyliau? Neu efallai eich bod yn dymuno mewnforio un o wlad arall. Cyn i chi benderfynu, bydd angen i chi wirio'r categorïau sydd gennych ar eich trwydded yrru a maint y cartref modur yr ydych am ei yrru.

Gwirio eich trwydded yrru cyn gyrru

Uchafswm màs awdurdodedig

Cyfanswm pwysau'r cerbyd ac unrhyw beth y gall ei gludo’n ddiogel

Bydd angen i chi sicrhau bod y categori cywir ar eich trwydded yrru i chi yrru cartref modur.

Categori B

Gyda’r categori hwn ar eich trwydded yrru cewch yrru cerbydau gydag uchafswm màs awdurdodedig (MAM) o hyd at 3500 cilogram, gydag wyth sedd i deithwyr, a gydag ôl-gerbyd heb fod mwy na 750 cilogram.

Hefyd mae’n bosibl tynnu ôl-gerbyd sy’n drymach na 750 cilogram os nad yw MAM y cerbyd a’r ôl-gerbyd gyda’i gilydd yn fwy na 3500 cilogram. Hefyd rhaid i’r ôl-gerbyd fod yn fwy ysgafn na’r cerbyd sy’n ei dynnu.

I dynnu ôl-gerbyd trymach na’r ôl-gerbydau a nodir uchod bydd arnoch angen categori B+E.

Categori C1

Gyda’r categori hwn cewch yrru cerbydau gyda MAM dros 3500 cilogram ond llai na 7500 cilogram gydag ôl-gerbyd heb fod mwy na 750 cilogram. I dynnu ôl-gerbyd trymach, bydd arnoch angen categori C1+E.

Categori C

Gyda’r categori hwn cewch yrru cerbydau gyda MAM dros 3500 cilogram gydag ôl-gerbyd heb fod mwy na 750 cilogram. I dynnu ôl-gerbyd dros 750 cilogram bydd arnoch angen categori C+E.

Maint y cartref modur

Ni all gartref modur a gofrestrwyd yn y DU fod mwy na 12 medr o hyd a 2.55 medr o led, oni bai fod ganddo dystysgrif Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol. Gall cerbyd gyda thystysgrif Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol gael uchafswm lled o 2.6 medr. Nid oes uchafswm uchder ond os yw'r cartref modur yn fwy na 3 medr o uchder yna rhaid arddangos yr uchder ar arwydd sy'n ddigon clir i chi'r gyrrwr.

Os bydd angen i chi fesur y cerbyd bydd rhannau nad oes angen i chi eu cynnwys yn eich mesuriadau.

Wrth fesur y lled, peidiwch â chynnwys:

  • drychau gyrru
  • byfferau sy'n ymestyn yn ôl wedi'u gwneud o rwber neu ddefnydd gwydn arall

Wrth fesur y hyd, peidiwch â chynnwys:

  • drychau gyrru
  • lampiau
  • adlewyrchyddion
  • aflunio teiars o ganlyniad i lwytho

Additional links

Dod o hyd i hyfforddwyr gyrru

Dod o hyd i’ch hyfforddwyr gyrru wedi’u cymeradwyo agosaf

Allweddumynediad llywodraeth y DU