Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Beiciau pedair olwyn (cwad)

Os oes arnoch eisiau gyrru beic pedair olwyn, neu feic cwad, ar y ffordd, mae’n rhaid i’r math fod wedi’i gymeradwyo, ac mae’n rhaid i’r beic fod wedi’i gofrestru a’r dreth wedi’i thalu arno. Os ydych chi’n defnyddio beic pedair olwyn ar gyfer gwaith amaethyddol, mae’n rhaid i chi ei gofrestru fel cerbyd amaethyddol.

Defnyddio beic pedair olwyn ar y ffordd

Cyn i chi allu gyrru beic pedair olwyn ar y ffordd, mae’n rhaid i’w fath fod wedi’i gymeradwyo yn gyntaf, yn unol ag un o’r canlynol:

  • System Cymeradwyaeth Math Cerbyd Cyfan Ewropeaidd (ECWVTA)
  • Cymeradwyaeth Math Cenedlaethol y DU (Cyfres Fechan)
  • Cynllun Cymeradwyaeth Cerbyd Sengl i Feiciau Modur y DU (MSVA)

Proses brofi yw cymeradwyaeth math i sicrhau bod pob cerbyd yn y DU yn cwrdd â safonau diogelwch ac amgylcheddol Ewropeaidd a domestig ill dau. Pan fydd math eich cerbyd wedi’i gymeradwyo, gall eich cerbyd gael ei gofrestru gyda’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau.

Gallwch gael gwybod mwy am sut i gymeradwyo math eich cerbyd yn ogystal ag am y cynlluniau uchod ar wefan Businesslink.

Ceir rhai gwneuthurwyr, megis Bombardier o Ganada, sydd â chymeradwyaeth math ar gyfer beiciau modur pedair olwyn, sef beiciau cwad. Cyn belled â bod gan y beic ECWVTA a Thystysgrif Cydymffurfio, yna gellir ei gofrestru a’i ddefnyddio’n gyfreithlon ar y ffyrdd.

Y beic pedair olwyn fel cerbyd gwaith

Hefyd, defnyddir llawer ar y beic pedair olwyn ar gyfer amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth. Mae’n bosib y defnyddir ychydig ar y beic pedair olwyn ar y ffordd, yn yr un modd ag y defnyddia ffarmwr dractor amaethyddol. Tra’i fod ar y ffordd, byddai’n rhaid i’r beic pedair olwyn fodloni’r gofynion ar gyfer unrhyw gerbyd amaethyddol sydd ar y ffordd.

Fel arfer ni chaniateir defnyddio beic pedair olwyn fel cerbyd arferol i'w yrru ar y ffordd. Yn wahanol i gerbyd ffordd pedair olwyn megis car, ni fyddai’n gallu bodloni anghenion adeiladwaith penodol, megis gofynion ynglŷn â gwregysau diogelwch, y teiars, a’r system frecio.

Diffiniadau o feiciau pedair olwyn

Ceir dau gategori o feic pedair olwyn, a phob un â’i ddiffiniad ei hun. Gelwir nhw’n gategori L6e a chategori L7e.

Categori L6e

Beic modur ysgafn â phedair olwyn yw’r categori hwn, gyda’r canlynol:

  • pwysau heb lwyth o 350 cilogram
  • cyflymder uchaf o 45 cilometr yr awr

Mae’n rhaid iddo hefyd gael un o’r canlynol:

  • cynhwysedd mwyaf o 50 centimetr ciwb ar gyfer injan mewnol sy’n tanio â sbarc
  • pŵer mwyaf o 4 cilowat ar gyfer unrhyw injan tanio mewnol arall
  • pŵer cyfradd barhaus modur trydan mwyaf o 4 cilowat

Categori L7e

Beic modur â phedair olwyn yw’r categori hwn, gyda’r canlynol:

  • pwysau heb lwyth o 400 cilogram (neu 550 cilogram ar gyfer cerbyd sy’n cario nwyddau)
  • pŵer net uchaf o 15 cilowat, beth bynnag yw math yr injan neu’r modur

Byddai angen cymeradwyo math cerbydau pedair olwyn sy’n dod y tu allan i'r ddau ddiffiniad hyn, a byddai angen i’r cerbydau gael eu cofrestru a’u trethu mewn categori arall, megis car.

Gwybodaeth bellach

Gallwch ddod i wybod mwy am feiciau pedair olwyn drwy gysylltu â’r Adran Drafnidiaeth.

Cerbydau a Safonau Rhyngwladol / International Vehicles and Standards
Yr Adran Drafnidiaeth
Zone 1/33
Great Minster House
33 Horseferry Road
Llundain

SW1P 4DR

E-bost: ivs.enquiries@dft.gsi.gov.uk
Ffôn: 0207 944 2091

Additional links

Dod o hyd i hyfforddwyr gyrru

Dod o hyd i’ch hyfforddwyr gyrru wedi’u cymeradwyo agosaf

Allweddumynediad llywodraeth y DU