Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Mercher, 3 Hydref 2012

Gwneud hawliad ar gyfer ystad person sydd wedi marw

Os oes gennych hawl i ystad a bod Cyfreithiwr y Trysorlys yn delio â hi, bydd angen i chi roi eich enw a'ch manylion cyswllt, yn ogystal â manylion am eich perthynas â'r sawl sydd wedi marw.

Hysbysebion a phryd i hawlio

Cyn gweinyddu ystad, bydd angen i Gyfreithiwr y Trysorlys wybod nad oes dim perthnasau gwaed â hawl, beth yw maint yr ystad ac a adawyd ewyllys ddilys gan y sawl a fu farw.

Mae Cyfreithiwr y Trysorlys yn gwneud ymholiadau ar gyfer perthnasau gwaed, ac efallai y bydd yn hysbysebu er mwyn dod o hyd iddynt. Gall hysbysebion ymddangos ar wefan Bona Vacantia ac mewn papurau newydd cenedlaethol a lleol. Nid oes rhaid i chi aros i weld yr hysbysebion cyn hawlio.

Os ydych chi'n credu bod gennych hawl, a'ch bod yn ymwybodol bod ystad y sawl sydd wedi marw wedi'i chyfeirio at Gyfreithiwr y Trysorlys, cysylltwch â Chyfreithiwr y Trysorlys drwy ddefnyddio'r 'chwiliad ydych chi'n berthynas â hawl' ar y ddolen Bona Vacantia isod

I gael mwy o wybodaeth am bwy sydd â hawl i wneud neu gyflwyno hawliad a pha wybodaeth y mae ei hangen, dilynwch y dolenni hawlio isod. Neu, os nad yw'r ystad yn ymddangos ar y wefan, cysylltwch â Chyfreithiwr y Trysorlys drwy ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

]

Tystiolaeth arall sy'n ofynnol er mwyn profi eich hawliad

Ar ôl penderfynu eich bod o bosib yn perthyn drwy waed i'r sawl sydd wedi marw, gofynnir i chi anfon coeden deulu syml sy'n dangos sut i olrhain eich perthynas.

Bydd angen i chi hefyd anfon dau ddarn o dystiolaeth adnabod ffurfiol: un yn dangos tystiolaeth o'ch enw a'r llall yn dangos tystiolaeth o'ch enw gyda chyswllt at eich cyfeiriad, ac yn cynnwys dyddiad o fewn y chwe mis diwethaf. Efallai y gofynnir i chi hefyd anfon y tystysgrifau geni/marwolaeth a phriodas perthnasol i helpu

Cysylltwch â ni

Os oes gennych chi unrhyw amheuaeth ynghylch sut mae cyflwyno hawliad gerbron Cyfreithiwr y Trysorlys, neu os oes angen unrhyw wybodaeth bellach arnoch am eiddo heb berchennog (bona vacantia) neu am ofynion Cyfreithiwr y Trysorlys, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Treasury Solicitor's Office (BV)
One Kemble Street
London
WC2B 4TS

Ffôn 020 7210 3116/3117/3239
Ffacs 020 7210 3104
E-bost:
bvinfo@tsol.gsi.gov.uk

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU