Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Gwneud hawliad i Gyfreithiwr y Trysorlys ar ystâd rhywun sydd wedi marw: terfynau amser ar gyfer hawlio

Cyn i chi gyflwyno hawliad i Gyfreithiwr y Trysorlys ar ystâd rhywun sydd wedi marw, mae angen i chi gael gwybod a ydych chi o fewn y terfynau amser ai peidio.

Allwch chi hawlio?

Yn gyffredinol, yn ôl darpariaethau Deddf Cyfyngiadau 1980, bydd hawl ar ystâd dan ‘rwystr statud’ (dim hawl gyfreithiol) os caiff ei wneud 12 mlynedd ar ôl cwblhau gweinyddu’r ystâd. Os bydd Cyfreithiwr y Trysorlys wedi gorffen gweinyddu’r ystâd, bydd yn anfon cyfrif ystâd i chi ar ôl iddo gael copi o’ch ‘Grant Llythyrau Gweinyddu’ i’r ystâd. Ar ôl ei arwyddo, byddwch wedi cytuno â'r hyn mae Cyfreithiwr y Trysorlys wedi'i wneud.

Os bydd Cyfreithiwr y Trysorlys yn cael hawliad ar ôl y 12 mlynedd ond o fewn 30 mlynedd i ddyddiad y farwolaeth, bydd y Cyfreithiwr yn barod i roi cyfrif am y gweddill fel mater o ddisgresiwn, ond dim ond ar yr amod na chaiff llog ei dalu. Os bydd Cyfreithiwr y Trysorlys yn cael hawliad ar ôl 30 mlynedd, ni fydd yn ystyried yr hawliad.

Cysylltu â ni

Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch sut mae gwneud hawliad i Gyfreithiwr y Trysorlys, neu os oes arnoch angen rhagor o wybodaeth ynghylch eiddo heb berchennog (bona vacantia) neu ynghylch gofynion Cyfreithiwr y Trysorlys, cysylltwch â ni.

Swyddfa Cyfreithiwr y Trysorlys (BV) / Treasury Solicitor’s Office (BV)

One Kemble Street
Llundain
WC2B 4TS

Ffôn. 020 7210 3116/3117/3239
Ffacs.
020 7210 3104
E-bost:

bvinfo@tsol.gsi.gov.uk

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU