Gwefan llywodraeth y DU

Nodwch fod gan y wefan hon system allweddumynediad llywodraeth y DU

Gwasanaethau cyhoeddus i gyd yn un lle

Trefn llywio pennaf

Dydd Gwener, 5 Hydref 2012

Gwneud hawliad i Gyfreithiwr y Trysorlys ar ystad rhywun sydd wedi marw: cyflwyno hawliad

Os ydych chi’n credu bod gennych chi hawl ar ystad y mae Cyfreithiwr y Trysorlys yn delio ag ef, yna mae angen i chi gyflwyno hawliad.

Cyflwyno hawliad

Os ydych chi’n credu eich bod yn berthynas gwaed sydd â hawl, yna mae angen i chi gyflwyno eich enw, eich manylion cyswllt, eich hanes teuluol a manylion eich perthynas â'r unigolyn sydd wedi marw, gan ddefnyddio'r gwasanaeth chwilio ar-lein 'A ydych chi'n berthynas sydd â hawl' drwy ddilyn y ddolen Bona Vacantia isod. Bydd angen i chi deipio cyfenw'r unigolyn sydd wedi marw neu ddefnyddio'r gwasanaeth chwilio yn nhrefn yr wyddor er mwyn dod o hyd i'r ystad cywir. Ar ôl i chi ddod o hyd iddo, cliciwch ar gyfenw’r unigolyn sydd wedi marw er mwyn agor yr hawliad i chi gael ei lenwi.

Fel arall, os na allwch chi ddod o hyd i’r ystad, cysylltwch â Chyfreithiwr y Trysorlys gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod. Pan fyddwch yn ysgrifennu at Gyfreithiwr y Trysorlys, byddai o gymorth os gallwch amgáu coeden deulu syml i ddangos sut rydych yn perthyn:

Swyddfa Cyfreithiwr y Trysorlys (BV) / Treasury Solicitor’s Office (BV)

One Kemble Street
Llundain
WC2B 4TS

E-bost: bvinfo@tsol.gsi.gov.uk

Gwybodaeth arall y mae ei hangen ar Gyfreithiwr y Trysorlys

Pan fyddwch yn cyflwyno eich hawliad, byddai o gymorth os gallech roi’r wybodaeth sydd gennych chi neu'ch teulu, o bosib, am hanes bywyd yr unigolyn sydd wedi marw. Er enghraifft, galwedigaeth yr unigolyn, neu ei gyfeiriad hysbys diwethaf. Byddai o gymorth os gallech roi gwybod am y tro diwethaf i chi fod mewn cysylltiad â’r unigolyn sydd wedi marw.

Oes angen i bob perthynas wneud hawliad?

Na. Dim ond hawliad gan un perthynas sydd â hawl y mae ar Gyfreithiwr y Trysorlys ei angen. Cofiwch fod Cyfreithiwr y Trysorlys yn caniatáu’r hawliad cyntaf ‘sydd â chefnogaeth lawn’ sy’n dod i’w law, ni waeth os yw wedi ei gael yn uniongyrchol gan yr hawliwr neu gan rywun sy'n gweithredu ar ei ran. Bydd angen i’r hawliad gael ei gefnogi gan ddigon o dystiolaeth i fodloni Cyfreithiwr y Trysorlys bod gan yr hawliwr fwy o hawl ar ystad yr unigolyn sydd wedi marw, neu hawl ar ran o’r ystad, na sydd gan y Goron. Os oes gennych unrhyw amheuon, efallai y byddwch yn dymuno cysylltu â chanolfan Cyngor Ar Bopeth, canolfan gyfraith leol neu gyfreithiwr.

Additional links

Allweddumynediad llywodraeth y DU